Mae Garddwriaeth Cymru wedi helpu i ffurfio Cwmni Budd Cymunedol, nid er elw, Perllannau Treftadaeth Cymru Cyf., er mwyn helpu i hyrwyddo ffrwythau amrywiaethau Treftadaeth Gymreig. Nod Perllannau Treftadaeth Cymru Cyf. yw bod o fudd i berchnogion Perllannau Treftadaeth ledled Cymru, gan amddiffyn amrywiaethau Cymreig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd yn rhoi llais i berchnogion a chynhyrchwyr Perllannau Treftadaeth Cymru ac yn eu galluogi i sefydlu Brand Cymreig a fydd yn helpu i hyrwyddo diogelwch...
Mwy na 100 o bobl yn cael gwaith yn sector bwyd a diod Cymru
Cafodd ymgyrch Gweithlu Bwyd Cymru ei lansio yn gynharach eleni i annog pobl i ystyried gyrfa yn niwydiant bwyd a diod Cymru ac i ddangos y cyfleoedd cyffrous ac amrywiol y mae’r diwydiant yn eu cynnig. Yn sgil llwyddiant yr ymgyrch i helpu pobl i gael hyd i waith, mae hi wedi cael ei hestyn tan ddiwedd mis Tachwedd. Gan gydweithio’n glos â busnesau, targedwyd amrywiaeth o dalentau, gan gynnwys y rheini oedd newydd adael...
Cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn gobeithio sicrhau cytundebau yn Sioe Frenhinol Cymru
Wrth i uchafbwynt y calendr amaethyddol, Sioe Frenhinol Cymru, ddychwelyd yr wythnos nesaf (18-21 Gorffennaf), bydd Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnal Lolfa Masnach Busnes yn y Neuadd Fwyd, gan roi cyfle i gwmnïau bwyd a diod ledled Cymru i gwrdd â phrynwyr o bob sector, gan gynnwys gwasanaethau bwyd, manwerthu, cyfanwerthu, caffael cyhoeddus a lletygarwch. Bydd y Lolfa Fusnes yn darparu arddangosfa o’r 60 o gynhyrchwyr sy’n arddangos yn y Neuadd Fwyd...
Cyhoeddi mai Bwyd a Diod Cymru yw noddwr y National Geographic Traveller Food Festival
Mae Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru wedi’i ddatgelu fel noddwr y National Geographic Traveller Food Festival eleni, dathliad o fwyd a theithio a fydd yn dod â rhai o enwau mwyaf y byd coginio ynghyd ac yn arddangos blasau o bob cornel o’r byd. Cynhelir y National Geographic Traveller Food Festival dros ddau ddiwrnod o 16-17 Gorffennaf 2022 yn y Business Design Centre yn Llundain, ac mae'n ddigwyddiad llawn sêr a fydd yn cynnig...
Parth Gyrfaoedd Bwyd a Diod yn Sioe Frenhinol Cymru (18-21 Gorffennaf 2022)
Mae tair blynedd wedi mynd heibio ers i ni agor ein drysau i ddarpar newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant bwyd a diod yn Sioe Frenhinol Cymru ond erbyn hyn rydym yn ôl yn well nag erioed ac am ymuno â llawer o bartneriaid gan gynnwys cyflenwr mwyaf Cymru o gynnyrch Cymreig, sef Puffin Produce Sir Benfro. Nod Parth Gyrfaoedd Bwyd a Diod 2022 yw arfogi’r hen a’r ifanc gyda’r modd a’r ffyrdd i benderfynu, cynllunio a chystadlu...
PA FATH O GYLLID?
SYDD YN IAWN I'CH BUSNES BWYD NEU DDIOD GYMREIG Ymunwch â’r digwyddiad Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy hwn i ddysgu ac ymgyfarwyddo â byd cymhleth cynhyrchion cyllid. Bydd hyn yn eich galluogi chi fel perchnogion/rheolwyr busnes i ddewis y fath o gyllid mwyaf priodol a chost effeithiol ar gyfer anghenion eich busnes. Am rhagor o wybodaeth, cliciwch yma