Yr holl gynhwysion i helpu busnes yn y Fflint i dyfu
Mae’r Pudding Compartment, a sefydlwyd gan Steve West yn 2007 ac sydd wedi’i leoli ar Ystad Ddiwydiannol Manor, yn cynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion becws fel cynhyrchion pobi hambwrdd, cwcis, cynhyrchion cyflym a theisennau torth. Mae cyfleuster newydd y cwmni yn golygu bod y busnes wedi mwy na dyblu ei ardal gynhyrchu a buddsoddi mewn offer newydd. Mae’r Pudding Compartment wedi cael mwy na £100,000 gan Gynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd Llywodraeth Cymru i gefnogi’r prosiect...