Mae’r Pudding Compartment, a sefydlwyd gan Steve West yn 2007 ac sydd wedi’i leoli ar Ystad Ddiwydiannol Manor, yn cynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion becws fel cynhyrchion pobi hambwrdd, cwcis, cynhyrchion cyflym a theisennau torth.

Mae cyfleuster newydd y cwmni yn golygu bod y busnes wedi mwy na dyblu ei ardal gynhyrchu a buddsoddi mewn offer newydd. Mae’r Pudding Compartment wedi cael mwy na £100,000 gan Gynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd Llywodraeth Cymru i gefnogi’r prosiect.

Mae’r cwmni yn cyflenwi ei gynhyrchion i amrywiaeth o gwsmeriaid gan gynnwys gwasanaethau trên ac ysgolion.

Sefydlwyd prosiect ar y cyd hefyd yn ddiweddar gyda Chanolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru a Diwydiant Cymru i greu becws arddangos fel safle “ffatri’r dyfodol”. Bydd y prosiect yn cynnwys cyflwyno technolegau digidol ac awtomeiddio mewn amgylchedd gweithgynhyrchu busnes bach a chanolig.

Mae’r Pudding Compartment hefyd wedi cael cefnogaeth gan Raglen Datblygu Masnach Llywodraeth Cymru ac mae’n aelod o’r Clwstwr Bwyd Cain, Clwstwr Cynaliadwyedd a’r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy.

Dywedodd Steve West o’r Pudding Compartment: “Roedd yn wych cael y Gweinidog yma i agor ein cyfleuster newydd ac i ddangos y cynnydd mae’r Pudding Compartment wedi’i wneud wrth weithio gyda Rhaglen Datblygu Masnach Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at lansio cynhyrchion newydd mis nesaf a sefydlu ein prosiect “ffatri’r dyfodol” ar y cyd ag AMRC i rannu gwybodaeth gyda’r sylfaen gyflenwi ehangach yng Nghymru.”

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae wedi bod yn wych cwrdd â Steve a’r tîm yn y Pudding Compartment.

“Rwy’n falch iawn bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi eu helpu i dyfu a dyblu maint eu hardal gynhyrchu yn y Fflint. Rwyf hefyd wedi clywed am gynlluniau ar gyfer twf pellach yn y dyfodol.

“Mae busnesau bwyd a diod Cymru yn gweithio’n galed drwy’r flwyddyn i sicrhau bod pobl yn gallu mwynhau eu cynhyrchion ac rwy’n falch o’u hymdrechion parhaus.

“Rwy’n dymuno’r gorau i bawb yn y Pudding Compartment nawr ac yn y dyfodol.”

Fe aeth y Gweinidog hefyd i gyfarfod o'r Is-Bwyllgor Cabinet dros y Gogledd yng Nghyffordd Llandudno heddiw, sy'n cynnwys aelodau'r cabinet ac arweinyddion awdurdodau lleol.

Share this page

Print this page