Wythnos lwyddiannus yn arddangos diwydiant gwin Cymru sy’n tyfu
Mae diwydiant gwin Cymru wedi cael hwb ac wedi datblygu cysylltiadau cryfach â chynulleidfaoedd lletygarwch a manwerthu’r DU, yn ogystal â mwy o ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr yn dilyn Wythnos Gwin Cymru. Yn ystod y dathliad (2-11 Mehefin 2023) cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau, teithiau tywys a hyrwyddiadau i roi cyfle i’r rhai sy’n hoff o win ddarganfod gwinllannoedd prydferth Cymru a blasu’r amrywiaeth eang o winoedd arobryn sydd ar gael. Cynhaliwyd digwyddiad masnach yn cynnwys chwe...