Mae diwydiant gwin Cymru wedi cael hwb ac wedi datblygu cysylltiadau cryfach â chynulleidfaoedd lletygarwch a manwerthu’r DU, yn ogystal â mwy o ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr yn dilyn Wythnos Gwin Cymru.
Yn ystod y dathliad (2-11 Mehefin 2023) cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau, teithiau tywys a hyrwyddiadau i roi cyfle i’r rhai sy’n hoff o win ddarganfod gwinllannoedd prydferth Cymru a blasu’r amrywiaeth eang o winoedd arobryn sydd ar gael.
Cynhaliwyd digwyddiad masnach yn cynnwys chwe gwinllan Gymreig yng Nghaerdydd ar 6 Mehefin gan roi cyfle i fynychwyr o fasnachwyr gwin, busnesau bach annibynnol, cogyddion, a dylanwadwyr y diwydiant ehangach i flasu’r gorau o win Cymreig, o’r gwinllannoedd enwocaf, a dysgu mwy gan y gwinllannoedd angerddol a gwybodus eu hunain.
Yn bresennol yn y digwyddiad masnach yng Nghaerdydd roedd Woody Lennard o Winllan Montgomery a oedd yn gweld y digwyddiad yn gyfle gwych i arddangos ei frand a’r diwydiant ehangach,
“Mae Wythnos Gwin Cymru yn ddathliad mawr o ansawdd y gwinoedd a’r gwinllannoedd sydd gennyn ni yma yng Nghymru. Mae’n wych cael nifer o winllannoedd gwych gyda’i gilydd mewn un lle i arddangos a chynnig sesiynau blasu o’n gwinoedd i bobl o bob rhan o’r wlad, gan gynnwys dylanwadwyr ac arbenigwyr sydd wedi bod yn y diwydiant ers blynyddoedd. Mae digwyddiadau fel hyn yn cynyddu ymwybyddiaeth o’n brand, diwydiant gwin Cymru yn ei gyfanrwydd a tharddiad ein gwinllannoedd.”
Roedd digwyddiadau eraill yn ystod yr wythnos yn cynnwys nifer o sesiynau blasu yng Ngwinllan Felffre, Arberth; Gwinllan White Castle, Y Fenni; Gwinllan Hebron o Hendy-gwyn ar Daf a Gwinllan y Dyffryn yn Ninbych. Yn y cyfamser agorodd un o winllannoedd mwyaf newydd Cymru, The Dell, ei drysau am y tro cyntaf a chroesawu pobl am daith o amgylch ei gwinllan a blannwyd ym mis Mai 2022 ac i ddangos iddynt sut mae wedi datblygu.
Wrth sôn am bwysigrwydd diwydiant gwin Cymru, dywedodd Fiona Mounsey o Winllan Felfrey:
“Mae diwydiant gwin Cymru yn un ifanc iawn, ond mae’n tyfu ac mae’r ansawdd mor dda. Mae’r sylw i fanylion a’r gwaith caled rydyn ni i gyd yn ei roi yn ein gwinllannoedd yn adlewyrchu yn y gwin rydyn ni’n ei gynhyrchu. Po iachaf yw'r gwinwydd a'r grawnwin, gorau oll fydd ansawdd y gwin.
“Mae gan Gymru winllannoedd gwych, sy’n cynhyrchu amrywiaeth wych o winoedd sy’n helpu i ategu’r cynnig twristiaeth i ymwelwyr sy’n dod i Gymru. Mae’n amser gwerth chweil i fod yn gweithio yn y diwydiant sy’n profi ei hun ar lwyfan y byd.”
Ychwanegodd Robb Merchant, perchennog White Castle Vineyard:
“Mae diwydiant gwin Cymru wedi bod yn tyfu dros y 10 mlynedd diwethaf, gyda bron i 40 o winllannoedd erbyn hyn. Mae’n dod yn rhan annatod o economi Cymru.
“Mae gennyn ni ddiwydiant sy’n tyfu. Mae’n llafurddwys wrth i ni weld gwinllannoedd sefydledig yn tyfu a phlanhigion mwy newydd yn cael eu cynllunio, fel bod hynny’n creu cyfleoedd gwaith. Mae yna hefyd yr agwedd dwristiaeth, mae'r gwinllannoedd hynny sy'n agored i ymwelwyr yn creu cyfleoedd gwych i dwristiaid ymweld a theithio, dysgu am y broses dyfu ac yna blasu a dysgu am y gwinoedd maen nhw'n eu cynhyrchu. Mae llawer bellach yn dod yn brif gyrchfan i ymwelwyr. Mae galw gwirioneddol am win Cymreig ar draws y DU.”
Wedi’i dylunio i roi cyfle i gynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt i ddarganfod y nifer cynyddol o winllannoedd sydd yn y wlad a datgelu ei hystod o winoedd llwyddiannus, nod Wythnos Gwin Cymru yw hybu gwerthiant gwinoedd Cymreig, blasu a dysgu mwy am y nifer o fathau sydd ar gael a'r hinsawdd y maent yn datblygu ac yn tyfu ynddi.
Trefnwyd y dathliad gan Glwstwr Diodydd Cymru, a gyflwynwyd gan yr ymgynghorwyr categori Levercliff a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Clwstwr yn gweithio mewn partneriaeth â chynhyrchwyr diodydd a gwinllannoedd i hyrwyddo’r diwydiant a’r modd y mae’n cynhyrchu cynhyrchion o safon fyd-eang.
Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:
“Mae Wythnos Gwin Cymru yn bwysig i ddathlu ein gwinllannoedd sydd mewn diwydiant sy’n tyfu ac yn ffynnu.
“Mae busnesau gwin Cymreig yn parhau i ffynnu ac mae potensial gwirioneddol i adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes. Mae’r sector yn dod yn rhan gynyddol bwysig o’r economi bwyd a diod ac ymwelwyr.”
Gyda bron i 40 o winllannoedd bellach yn gweithredu ar draws y wlad, mae hygrededd Cymru fel cynhyrchydd arloesol gwin o ansawdd uchel wedi blodeuo diolch i berchnogion arloesol ei gwinllannoedd, y ffrwythau gwych sy’n cael eu tyfu yn ogystal â thirwedd a microhinsawdd nodedig Cymru. Mae dros 20 o wahanol fathau o rawnwin yn cael eu tyfu, gan gynhyrchu gwinoedd coch, gwyn, rhosliw a phefriog eithriadol.
Yn ddiweddar, lansiwyd strategaeth gyntaf o’i math gan Glwstwr Diodydd Llywodraeth Cymru, i osod cyfeiriad clir ar gyfer diwydiant gwin Cymru am y deuddeg mlynedd nesaf a chynyddu gwerth presennol y sector 10 gwaith yn fwy i gyrraedd £100 miliwn erbyn 2035. Mae'r strategaeth a arweinir gan y diwydiant wedi'i chynllunio i sicrhau bod Cymru'n adeiladu ar ei henw da sy'n dod i'r amlwg fel cynhyrchydd arbrofol o winoedd amrywiol, yn dilyn rhai llwyddiannau trawiadol yn y blynyddoedd diwethaf sydd wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol.
Mae’r strategaeth newydd yn tynnu sylw at lwyddiannau Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys gwerthiant gwin o Gymru a gynyddodd, ynghyd â gwin o Loegr, 31.3% i 9.3 miliwn o boteli yn 2021 [1].
Mae hefyd yn amlinellu pum blaenoriaeth strategol gan gynnwys datgloi potensial twristiaeth Gwin Cymru, datblygu presenoldeb ar-lein o ansawdd uchel, creu hunaniaeth/brand gwin Cymreig, buddsoddi mewn datblygu sgiliau a datblygu strwythur sefydliadol wedi’i alinio. Drwy archwilio’r pum piler allweddol hyn ymhellach, mae arbenigwyr gwin Cymru yn rhagweld o lwyddiant y gorffennol y bydd gwerthiannau gwin a refeniw o weithgareddau drws seler, gan gynnwys digwyddiadau blasu gwin, teithiau gwinllannoedd a phrofiadau dros nos yn dod â refeniw o £14.4 miliwn erbyn 2035 [2].
Mae penderfyniad y diwydiant i wreiddio ethos o waith teg a chynaliadwyedd yn greiddiol i’r strategaeth. Enghraifft dda o hyn yw Gwinllan Conwy, a gyflwynodd y defnydd o gnu defaid rhwng ei gwinwydd yn gynharach eleni ar ôl canfod eu bod yn lleihau'r angen am gemegau ac yn gwella ansawdd ffrwythau.
Yn dilyn treial llwyddiannus, mae’r winllan yn gosod miloedd o gnuau o dan ei rhesi gwinwydd i wella’r pridd, atal chwyn, ac adlewyrchu golau’r haul yn ôl ar y grawnwin, tra’n creu marchnad newydd sbon ar gyfer gwlân o bosibl. Awgrymodd ffermwr defaid lleol sydd wedi bod yn defnyddio cnu o amgylch ei lysiau i atal gwlithod a bwydo maetholion i'r pridd y syniad i berchennog y winllan, Colin Bennet.
Mae'r canlyniadau'n dangos mwy o aeddfedrwydd yn y grawnwin, gwell maetholion yn y pridd o dan y cnu, gan inswleiddio a chadw lleithder yn y pridd yn ogystal ag atal malwod a gwlithod. Mae hyn hefyd yn enghraifft wych o brosiect cydweithredol gan ddau fusnes lleol yn cydweithio mewn ffordd gynaliadwy.
Rhagwelir y bydd effaith twristiaeth ar gynnydd domestig gros Cymru, ynghyd â thwf ym mhoblogrwydd gwin Cymru, yn dod â £75.9 miliwn pellach i mewn erbyn 2035 [2].