WYTHNOS BWYD MÔR CYMRU YN DATHLU CYNHAEAF Y MÔR
Chwi bobl sy’n dwlu ar fwyd môr, byddwch yn barod i gael eich sbwylio yn ystod Wythnos Bwyd Môr Cymru (14–18 Hydref 2024), sy’n dathlu cynhaeaf y môr! Bydd gwerthwyr pysgod a manwerthwyr sy’n gwerthu bwyd môr o Gymru yn cynnwys arddangosfeydd arbennig ac yn hyrwyddo #BwydMôrCymru i gwsmeriaid yn eu siopau ac ar-lein. Nod hyn i gyd yw tynnu sylw at safon ac amrywiaeth y dalfeydd o amgylch arfordir Cymru. Gan ddefnyddio’r hashnodau #BwydMôrCymru...