https://www.eventbrite.co.uk/e/insight-conference-2022-turning-knowledge-into-action-tickets-262543293057

Mae cynhadledd Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Cymru eleni yn cynnwys 5 sesiwn â thema dros 4 diwrnod, yn mynd i’r afael â Manwerthu, Oddi Allan i’r Cartref, Allforio, y Sefyllfa Economaidd, a Datblygu Cynnyrch Newydd (NPD). Mae gennym amrywiaeth gyffrous o siaradwyr arbenigol o bartneriaid mewnweledol Kantar, IGD, CGA, Euromonitor a thefoodpeople, yn ogystal ag astudiaethau achos gan fusnesau sydd wedi cael llwyddiant wrth Roi Gwybodaeth ar Waith.

Mae siaradwyr arbenigol allweddol o bartneriaid mewnweledol yn cynnwys:

  • Andrew Walker, Prif Swyddog Gwybodaeth yn Kantar
  • Lucy Chapman, Cyfarwyddwr Mewnwelediad Strategol yn Kantar
  • Chris Hayward, Cyfarwyddwr Gwerthu yn IGD
  • Charles Bank, Cyd-sylfaenydd thefoodpeople
  • Peter Siegel, Uwch Gynghorydd Sector Cyhoeddus yn Euromonitor
  • Phillip Montgomery, Cyfarwyddwr Cleientiaid yn CGA

1: Rhoi Rhagolygon Economaidd ar Waith – Dydd Llun 14 Mawrth, 10-11am

Partneriaid Arweiniol: Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy

Cadeirydd: Andy Richardson, Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru / Volac

  • Y Safbwynt Economaidd: Perthnasedd i BBaCh Bwyd a Diod – Brookdale Consulting
  • Banel: Caffael yn ystod y Sefyllfa Bresennol – BIC Innovation

2: Rhoi Gwybodaeth am Allforio ar Waith – Dydd Llun 14 Mawrth, 12-1pm

Partneriaid Arweiniol: Clwstwr Allforio

Cadeirydd: Andy Richardson, Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru / Volac

  • Cyfleoedd mewn Marchnadoedd sy’n Datblygu - Euromonitor
  • Banel: Profiad o Fasnachu mewn Marchnad Ddatblygol – BIC Innovation
  • Sesiwn Holi ac Ateb

3: Rhoi Mewnwelediadau Siopwyr ar Waith – Dydd Mawrth 15 Mawrth, 9-11am

Partneriaid Arweiniol: Clwstwr Bwyd Da, Rhaglen Datblygu Masnach

Cadeirydd: Alison Lea-Wilson, Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru / Halen Môn

  • Cyflwr Manwerthu’r Genedl: Yr Hyn Sydd Angen i Chi ei Ystyried yn 2022 – Kantar
  • Ysgogiadau Allweddol ar gyfer Siopa Ar-lein / Masnach Gyflym: Yr Hyn Sydd Angen i Chi ei Wybod – IGD
  • Astudiaeth Achos: Defnyddio’r Mewnwelediad Math o Siopwyr – Radnor Hills
  • Astudiaeth Achos: Defnyddio Data EPOS i Werthu’n Well – Penderyn Distillery
  • Sesiwn Holi ac Ateb

4: Rhoi Mewnwelediadau Gwestai ar Waith – Dydd Mercher 16 Mawrth, 9-11am

Partneriaid Arweiniol: Clwstwr Diodydd, Rhaglen Datblygu Masnach

Cadeirydd: I'w gadarnhau

  • Cyflwr y Genedl Oddi allan i’r cartref: Yr Hyn Sydd Angen i Chi ei Ystyried yn 2022 – Kantar
  • Cyflwr y Genedl Diodydd: Yr Hyn Sydd Angen i Chi ei Ystyried yn 2022 – CGA
  • Uchafbwyntiau Gwerth Cymreictod Oddi Allan i’r Cartref – Rhaglen Mewnwelediad
  • Astudiaeth Achos: Ychwanegu Gwerth gyda Chynnyrch Cymreig o fewn Lletygarwch – Llanerch Vineyard
  • Sesiwn Holi ac Ateb

5: Rhoi Gwybodaeth am Ddatblygu Cynnyrch Newydd ar Waith – Dydd Gwener 18 Mawrth, 9-11am

Partneriaid Arweiniol: Canolfannau Arloesi Bwyd Cymru

Cadeirydd: David Lloyd, Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru / ZERO2FIVE Canolfan Diwydiant Bwyd

  • Deg Tuedd Mwyaf Arwyddocaol ar gyfer 2022 – thefoodpeople
  • Astudiaeth Achos: Defnyddio Mewnwelediad ar Gyfer Creu Eich Sianel i Ddatblygu Cynnyrch Newydd – Llaeth y Llan
  • Effaith HFSS ar gyfer Gweithgynhyrchwyr Bwyd a Diod – Rhaglen Mewnwelediad
  • Banel: Y Ffordd Orau i Weithio gyda Arloesi Bwyd Cymru - Cynhyrchu yn Lle Mewnforio, Effaith Bwydydd HFSS
  • Sesiwn Holi ac Ateb

Share this page

Print this page