O fis Medi 2022 ymlaen, bydd pob cwmni SALSA ardystiedig yn y DU yn cael eu harchwilio gan rifyn newydd o’r safon.

Nod y weminar rhad ac am ddim hon yw sicrhau bod pob cwmni SALSA ardystiedig yng Nghymru’n cael eu briffio ar y newidiadau a sut y byddant yn effeithio arnyn nhw.

Bydd y gweithdy dwy awr hwn yn ymdrin â:

• Newidiadau i safonau SALSA

• Sut y gall eich busnes gydymffurfio

Mae’r gweithdy hwn yn addas yn arbennig i reolwyr ansawdd, technegol a gweithredol mewn cwmnïau SALSA ardystiedig yng Nghymru a’r rhai sy’n gyfrifol am weithredu safonau SALSA.

Bydd y wybodaeth yn cael ei chyflwyno gan aelod cymwys o Arloesi Bwyd Cymru a chynrychiolydd o SALSA.

Cofrestrwch nawr:

27 Mehefin - 2yp

28 Mehefin - 10yb

Share this page

Print this page