Fe'ch gwahoddir i drafodaeth bord gron fach gyda Jonathan Knott, Comisiynydd Masnach Ei Mawrhydi dros America Ladin a rhanbarth Caribïaidd i drafod heriau a chyfleoedd sy'n wynebu busnesau o Gymru sy'n awyddus i dyfu eu busnes ym marchnad rhanbarth America Ladin a Caribïaidd. Bydd yn cwmpasu amrywiaeth o sectorau – o dechnoleg i wyddorau bywyd i fwyd a diod a llawer mwy.
Cynhelir y sesiwn drwy Microsoft Teams ddydd Mawrth 7 Rhagfyr o 14:00y.p. a bydd yn para tua 45 munud. Yn ystod y cyfarfod, bydd Jonathan yn cyflwyno cyflwyniad byr lle bydd yn nodi'r prif nodweddion a chyfleoedd yn y rhanbarth. Dilynir hyn gan drafodaeth agored lle bydd Jonathan yn awyddus i glywed am eich sector ac archwilio cyfleoedd i gydweithio. Mae'r cyfarfod yn gyfyngedig o ran niferoedd i sicrhau bod sefydliadau'n cael cyfle i gyfrannu a gobeithiwn ddilyn hyn gyda digwyddiad wyneb yn wyneb ar gyfer cynulleidfa ehangach yn 2022. Rhowch wybod i mi cyn y sesiwn os oes gennych unrhyw bwyntiau trafod penodol y byddech yn eu gwerthfawrogi wrth gael eu hychwanegu at yr agenda.
Atebwch yn uniongyrchol i'r e-bost hwn Gemma.Nesbitt@trade.gov.uk erbyn dydd Mawrth 30 Tachwedd.