Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn annog busnesau heddiw i ymateb i’w hymgynghoriad ‘Gallai Gynnwys’ i helpu i ddatblygu ei dull darparu gwybodaeth ragofalus am alergenau yn y dyfodol.
Nod yr ymgynghoriad, sy’n dod i ben ar 14 Mawrth, yw casglu safbwyntiau busnesau a defnyddwyr ar ddefnyddio labeli alergenau rhagofalus a gwybodaeth ragofalus am alergenau, sydd i’w gweld yn aml fel “gallai gynnwys” ar ddeunydd pecynnu bwyd.
Mae gwybodaeth ragofalus am alergenau a/neu ddatganiadau i’r perwyl hwn yn ffordd wirfoddol i fusnesau gyfleu’r risg o groeshalogi alergenau yn eu cynhyrchion bwyd i ddefnyddwyr.
Er bod defnyddwyr yn gwerthfawrogi’r wybodaeth hon, mae astudiaethau wedi dangos eu bod nhw hefyd wedi’u drysu gan yr amrywiaeth a’r mathau o ddatganiadau a ddefnyddir. Er bod busnesau’n defnyddio’r wybodaeth hon i geisio diogelu defnyddwyr, mae ymchwil yn dangos eu bod nhw hefyd wedi’u drysu o ran pryd a sut mae angen iddynt wneud felly. Gan gydnabod y dryswch hwn, mae'r ASB am glywed gan fusnesau ynglŷn â’u profiadau personol.
Beth yw labeli bwyd rhagofalus (PAL)?
Er na fydd y term yn gyfarwydd i chi o bosibl, byddwch yn gyfarwydd â gweld labeli alergenau rhagofalus (neu PALs) yn cael eu defnyddio.
Mae’r datganiadau hyn yn ffordd wirfoddol i fusnesau bwyd gyfleu’r risg o groeshalogi alergenau ar gyfer eu cynhyrchion bwyd. Gall yr wybodaeth fod ar label, ond weithiau caiff ei rhoi ar lafar gan staff, neu ar ffurf ysgrifenedig arall, fel arwydd neu boster.
Y cyngor presennol yw na ddylid defnyddio labelu alergenau rhagofalus oni bai bod asesiad risg yn dangos bod risg anosgoadwy o groeshalogi alergenau, na ellir ei rheoli’n ddigonol trwy reoli risg yn ofalus. Gall hyn ddigwydd mewn man paratoi bwyd bach, lle mae nifer o wahanol gynhyrchion yn cael eu paratoi a lle mae posibilrwydd o halogiad nad oes modd ei osgoi.
Pam ddylwn i ymateb?
Os ydych chi’n fusnes sy’n darparu bwyd i ddefnyddwyr, neu’n cyflenwi bwyd i fusnesau eraill, sy’n dangos gwybodaeth ragofalus am alergenau, mae angen i ni glywed gennych chi am yr heriau rydych chi’n eu hwynebu, a sut fyddai system well yn edrych o ran darparu’r wybodaeth hon.
Rydym ni’n deall bod y mwyafrif o fusnesau bwyd sy’n defnyddio labelu rhagofalus yn gwneud hynny i ddiogelu pobl sydd ag alergeddau bwyd, anoddefiadau bwyd neu glefyd seliag. Rydym ni’n cydnabod y bydd gan fusnesau anghenion gwahanol ac y byddant yn wynebu heriau gwahanol gan ddibynnu ar y math o fusnes a’u maint. Ond rydym ni hefyd yn gwybod nad yw busnesau yn siŵr pryd y dylent ddefnyddio labeli alergenau rhagofalus a bod eisiau eglurder arnynt ynghylch y mesurau rheoli sydd eu hangen i ddileu neu leihau’r risg o groeshalogi alergenau.
Mae’n amlwg bod angen proses gymesur a safonol ar gyfer asesu, rheoli a dweud wrth ddefnyddwyr am y risg o groeshalogi alergenau. Bydd unrhyw newidiadau a wnawn yn cael effaith uniongyrchol ar eich busnes, felly mae’n hanfodol eich bod yn dweud eich dweud.
Beth mae'r ASB yn bwriadu ei wneud pan ddaw'r Ymgynghoriad i ben?
Bydd yr ymatebion i’r ‘Ymgynghoriad Gallai Gynnwys’ yn helpu i lywio ein hymdrechion i sicrhau bod unrhyw gynigion yn y dyfodol yn glir ac yn hawdd eu dilyn i fusnesau, a’u bod yn glir, yn gyson ac yn ddealladwy i ddefnyddwyr.
Byddwn yn ystyried yn llawn yr ymatebion a ddaw i law, a’r adborth a gawn o gyfres o weithdai gyda busnesau, cyrff y diwydiant, defnyddwyr a phartïon eraill â buddiant, ac yn nodi ein camau nesaf maes o law.
Sut ydw i’n ymateb i’r ymgynghoriad?
Mae’r ymgynghoriad ar ffurf holiadur sy’n ei gwneud hi’n hawdd i chi ymateb. Gallwch chi rannu eich safbwyntiau yma – Labelu Alergenau Rhagofalus (PAL): Yr Ymgynghoriad ‘Gallai Gynnwys’.