Cafodd y beirniaid eu calonogi gan yr angerdd a’r gobaith am y diwydiant lletygarwch a ddangoswyd gan bawb oedd yn ymwneud â Phencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru (WICC) mewn tridiau o gystadlu.

 

Roedd croeso mawr i’r achlysur blynyddol, poblogaidd, a drefnir gan Gymdeithas Goginio Cymru (CAW), ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos wedi absenoldeb o ddwy flynedd oherwydd y pandemig. Y prif noddwr yw Bwyd a Diod i Gymru, yr adran yn Llywodraeth Cymru sy’n cynrychioli’r diwydiant bwyd a diod.

 

Dywedodd Colin Gray, is-lywydd y Gymdeithas a rheolwr gyfarwyddwr Capital Cuisine, Caerffili, wrth y gwesteion yng nghinio gwobrwyo WICC, a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Imperial, Llandudno: “Un peth a dynnodd sylw pawb ohonon ni'r beirniaid oedd yr angerdd oedd yn yr ystafell dros y tridiau diwethaf – roedd yn anhygoel.

 

“Rydyn ni i gyd yn cymryd rhan yn yr achlysur gan ein bod wrth ein bodd yn gweld pawb yn cefnogi ei gilydd ac yn dangos cymaint o angerdd dros y diwydiant a’r gwaith rydych chi’n ei wneud.

 

Diolchodd i'r holl gystadleuwyr a chanmol dewrder pawb a gyrhaeddodd rownd derfynol Cogydd Iau Cymru – pob un ohonynt yn rhan o'r gystadleuaeth am y tro cyntaf.  Yn wir, hon oedd cystadleuaeth gyntaf rhai ohonynt.

 

Cyfeiriodd at rownd derfynol Cogydd Cenedlaethol Cymru gan ddweud:  “Mae’r cogyddion hyn yn cymryd amser i ffwrdd o’r diwydiant er mwyn cystadlu. Rydyn ni'n ceisio codi lefelau sgiliau yn y gegin a dyma’r mathau o gystadlaethau sy’n gwneud hynny.  Mae’n fater o gymryd rhan a dysgu o’r profiad.”

 

Cyflwynwyd y gwobrau gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, a ddywedodd fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd i bawb oherwydd y pandemig.

 

Canmolodd wytnwch y sector lletygarwch yng Nghymru a llongyfarch pawb oedd wedi cystadlu yn WICC.

 

“Mae’r sector bwyd a diod yn hollbwysig yma yng Nghymru,” meddai.  “Rydyn ni wedi datblygu enw da yn rhyngwladol am ein bwyd a'n diod.”

 

Diolchodd Arwyn Watkins, llywydd CAW a rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, i bawb oedd yn ymwneud â WICC, yn enwedig y noddwyr. Hebddyn nhw, byddai’r digwyddiad yn amhosib, meddai.

 

Anfonodd ddymuniadau gorau CAW at gydaelodau Worldchefs yn Wcráin a Rwsia ar adeg o wrthdaro rhwng y ddwy wlad.

 

Dywedodd Jane Williams o Ecolab, un o'r noddwyr, a fu’n monitro hylendid yn ystod cystadlaethau WICC, iddi gael blas mawr ar y digwyddiad a’r angerdd a ddangoswyd gan y cystadleuwyr.

 

“Bu cymaint o optimistiaeth ar gyfer y diwydiant lletygarwch dros y tridiau diwethaf – roedd yn wych i’w weld,” meddai.  “Os na wnaeth ddim byd arall, mae’r pandemig wedi dysgu pwysigrwydd hylendid i ni.”

 

Cyflwynodd brif wobr Ecolab am hylendid i Cheshire College a gwobr y beirniaid i Peter Cook.

 

Bu dysgwyr o City of Liverpool College, Cheshire College, Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai yn cystadlu yn WICC.

 

Enillwyr gwobrau WICC oedd: Cogydd Cenedlaethol Cymru, Thomas Herbert, Lucknam Park Hotel & Spa, Chippenham; Cogydd Iau Cymru, Dalton Weir, Watson’s Bistro, Conwy; bwyty gorau ‘byw’, Heather Spencer, Grŵp Llandrillo Menai; cegin orau ‘fyw’, Rosie Koffer, Trewythen Hotel, Llanidloes; coleg gorau, Cheshire College; y gorau yn y cystadlaethau ‘byw’, Chris Owen, Signatures, Conwy a’r tîm gorau, Black Horse, Nuneaton; medalau aur am wasanaeth ac ymrwymiad eithriadol i WICC, Trish Bow, Eleri Llywarch a Vicki Mulqueen.

 

Ymhlith noddwyr eraill WICC mae Castel Howell, Churchill, Major International, Riso Gallo, Dick Knives, MCS Tech Products, Hybu Cig Cymru, Grŵp Llandrillo Menai, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Roller Grill ac Ecolab.

Share this page

Print this page