Mae sylfaenwyr bragdy di-alcohol llwyddiannus yn dathlu'r archfarchnad gyntaf i werthu cynnyrch y busnes, ar ôl sicrhau cytundeb gyda Tesco.
Mae cael gweithio gydag archfarchnad o'r fath wedi ateb holl ddymuniadau Joelle Drummond a Sarah McNena, sylfaenwyr Drop Bear Beer Company, a nawr bydd pecynnau sy'n cynnwys pedwar can o'u cwrw di-alcohol, New World Lager a Tropical IPA, yn ymddangos ar silffoedd Tesco ledled Cymru.
Dywedodd Joelle: "Byddwn i a Sarah yn arfer cerdded o amgylch ein siop Tesco leol yn gwneud neges ar ôl gwaith, ac yn trafod syniad oedd gennym ni i agor bragdy di-alcohol. Prin oedden ni'n meddwl y byddai ein cwrw ABV 0.5% llwyddiannus yn ymddangos ar y silffoedd hynny llai na tair blynedd yn ddiweddarach, a ninnau wedi cerdded heibio nhw gyda dim ond syniad yn ein pennau.
"Mae cael gwerthu ein cwrw New World Lager a Tropical IPA mewn pecynnau pedwar can yn Tesco yn nodi ein llwyddiant mwyaf hyd heddiw, ac rydym mor hapus. Gwnaethom gwrdd yn nigwyddiad BlasCymru Llywodraeth Cymru nôl ym mis Hydref, a datblygodd trafodaethau gan arwain at sicrhau'r fargen. Dechreuodd stori Drop Bear gyda sosban fawr a syniad mwy, ac erbyn heddiw mae ein cwrw llwyddiannus ar gael yn archfarchnad fwyaf y DU. Mae'n deimlad annirnadwy."
Mae New World Lager yn IPL (India Pale Lager), sy'n rhoi tro cyfoes ar arddull traddodiadol, sydd wedi cael ei ddyfeisio i apelio i bobl sy'n yfed cwrw crefft a lager. Mae wedi'i wneud yn llwyr gan 'hopys byd newydd' o Seland Newydd - yr unig lager di-alcohol o'i fath yn y DU - ac mae wedi ennill tair gwobr ers iddo gael ei lansio ym mis Hydref 2020.
Tropical IPA oedd un o'r cwrw cyntaf i gael ei lansio gan Drop Bear, ac mae wedi ennill chwe gwobr. Mae wedi'i wneud yn llwyr gan hopys o'r UDA, ac mae'n arddangos yr hopys trofannol gorau sydd ar gael. Mae'n cynnig blas llawn ffrwyth, heb fod yn rhy felys, ac yn cynnal lefel dda o chwerwedd.
Mae Drop Bear wedi ennill mwy nag 20 gwobr am eu cwrw, ac yn ddiweddar cyhoeddwyd cynlluniau i ddechrau gweithredu'r busnes mewn bragdy gwerth £1.9m ar fferm ar gyrion y Fenni.
Daw'r fargen wrth i gwsmeriaid Tesco alw am fwy a mwy o opsiynau cwrw di-alcohol. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Tesco bod gwerthiannau cwrw a seidr alcohol isel ym mis Ionawr 30% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.
Dywedodd Nathan Edwards, Rheolwr Prynu Lleol Cymru ar gyfer Tesco: "Rydym yn falch iawn o gael bod yr archfarchnad gyntaf i werthu stoc o gwrw Drop Bear. Mae'r stori'r bragdy o dde Cymru yn un lwyddiannus iawn, ac mae Joelle a Sarah yn ysbrydoliaeth go iawn i bawb sydd â syniad, oherwydd maen nhw wedi profi bod modd gwireddu unrhyw beth.
"Gwyddom fod nifer o'n cwsmeriaid yn ceisio dod o hyd i gwrw di-alcohol, a chynnyrch sydd wir yn cyflawni eu haddewidion cynaliadwyedd, felly mae'r cwrw hwn yn ychwanegiad gwych i ni. Yn bwysicach na dim, maen nhw'n blasu'n hyfryd hefyd. Rydym ar ben ein digon o gael eu rhannu nhw gyda'n cwsmeriaid."
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd,
"Braf iawn yw clywed y bydd Drop Bear Beer ar gael mewn siopau Tesco ledled Cymru ar ôl y cyfarfod a gafwyd yn nigwyddiad blaenllaw BlasCymru Llywodraeth Cymru ym mis Hydref 2021. Mae Drop Bear yn un o'n "Sêr Yfory", a gafodd eu harddangos yn y digwyddiad. Mae'n braf gweld un arall o gynhyrchwyr bwyd a diod gwych o Gymru yn tyfu eu busnes.
"Rwy'n dymuno'r gorau iddynt ar gyfer y dyfodol."