Gall Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr Llywodraeth Cymru weithio gydag unrhyw fath a maint o fusnes sydd naill ai wedi recriwtio mudwyr neu sy'n ystyried y fenter newydd hon ond sydd ag amheuon ynghylch y broses.
Mae'r llwybrau cymorth yn cynnwys:

• Sesiynau hyfforddi i roi rhagor o wybodaeth am gyflogi Mudwyr.
• Ateb unrhyw gwestiynau sydd gan fusnesau a thynnu sylw at fanteision posibl recriwtio Mudwyr. 
• Galluogi busnesau i ehangu eu recriwtio drwy gysylltu cyflogwyr â sefydliadau sy'n cefnogi Mudwyr i ddod o hyd i ymgeiswyr. 
• Gellir rhoi canllawiau i fusnesau i greu cynlluniau lleoliadau â thâl i osgoi prosesau recriwtio arferol er mwyn sicrhau chwarae teg i geiswyr noddfa. 
• Cynghori cyflogwyr am gynlluniau cyflogadwyedd eraill Llywodraeth Cymru y gellir eu defnyddio wrth recriwtio Mudwyr. 
• Gall Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr Llywodraeth Cymru gyfarfod â busnesau i gael diweddariadau anffurfiol yn ystod y camau ôl-recriwtio. 
• Gall busnesau gael cyfle i fynychu digwyddiadau ymgysylltu i ddysgu mwy am brofiadau busnesau eraill o recriwtio mudwyr. 
• Ymunwch â gweithle diogel ar-lein i ddysgu gan gyflogwyr eraill sy'n gysylltiedig ac i rannu gwybodaeth.


Darganfyddwch fwy:
Os hoffech ddysgu mwy a sut y gallant eich helpu i recriwtio ymgeiswyr rhagorol i dyfu eich busnes, cysylltwch â'r Swyddog Ymgysylltu cyflogaeth anfonwch e-bost at
refugees@gov.wales

 

Share this page

Print this page