Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru ar fin cael blas ar Anuga 2023, prif ffair fasnach bwyd a diod y byd, wrth iddynt arddangos eu cynnyrch i brynwyr a cheisio sicrhau bargeinion allforio newydd.

Bydd Anuga 2023, a gynhelir rhwng 7 ac 11 Hydref 2023 yn Cologne, yr Almaen, yn gartref i fwy na 7,400 o arddangoswyr o dros 100 o wledydd, gan ei wneud yn llwyfan delfrydol i gwmnïau Cymreig ehangu eu cyrhaeddiad byd-eang a chyflwyno’r byd i’r ansawdd eithriadol o fwyd a diod sydd gan Gymru i’w cynnig.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, y cynhyrchwyr fydd yn chwifio baner Cymru yn y digwyddiad eleni fydd Cradoc’s Savory Biscuits Ltd, Ferrari’s Coffee, The Lobster Pot, Dŵr Tŷ Nant, Hilltop Honey, Trailhead Fine Foods Ltd – Get Jerky, Cwmni Selsig Traddodiadol Cymreig Edwards – Y Cigydd Cymreig, Dundeis, a Hufenfa De Arfon.

Bydd stondin Cymru yn Anuga yn y Neuadd Bwyd Gain 10.2 | Stondin: F051. Mae’n argoeli i fod yn fwrlwm o weithgarwch, gyda sesiynau blasu a chyfleoedd i gwrdd â’r cynhyrchwyr angerddol tu ôl i’r cynhyrchion eithriadol hyn. Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i brofi blasau Cymru ac archwilio'r straeon tu ôl i'r cynhyrchion.

Hefyd yn bresennol yn Anuga gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru bydd Brain Blasterz (Neuadd 3.1 Stondin: D039); Eatlean (Neuadd 10.1 Stondin: G018a); Hybu Cig Cymru (Neuadd 06, Plaen: Rhes 1: D, Stondin: 040) a Chwmni Caws Eryri (Neuadd 10.1 Stondin: G010a).

Mae Anuga yn gyfle amhrisiadwy i gwmnïau Cymreig gysylltu â dosbarthwyr, adwerthwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant o bedwar ban byd. Gall yr amlygiad rhyngwladol a geir yn Anuga fraenaru’r tir ar gyfer mwy o allforio a chydweithio a fydd yn cryfhau enw da byd-eang cynhyrchion bwyd a diod o Gymru.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:

“Mae Anuga 2023 yn gyfle gwych i’n busnesau bwyd a diod Cymreig gwych arddangos eu cynnyrch o ansawdd uchel i brynwyr o bedwar ban byd.

“Mae ein hallforion bwyd a diod ar y lefelau uchaf erioed, ac mae digwyddiadau fel hyn yn bwysig i helpu pobl dramor i fwynhau bwyd a diod o Gymru.

“Rwy’n falch o waith caled, ymrwymiad ac awydd busnesau Cymru a dymunaf ddigwyddiad llwyddiannus iawn i bawb sy’n teithio i’r Almaen ar gyfer Anuga 2023.”

Yn unol â’r duedd o dwf mewn allforion bwyd a diod o Gymru, mae Cradoc’s Savory Biscuits Ltd yn parhau i yrru twf allforio yn Ewrop er gwaethaf Brexit. Dywedodd sylfaenydd Cradoc’s, Allie Thomas,

"Gwnaethon ni fynychu SIAL Paris yn 2022 a dyblu ein hincwm allforio gydag ymateb cadarnhaol iawn. Ein targed nesaf yw Anuga gyda Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru. Rydyn ni’n awyddus i sefydlu perthynas â mewnforwyr newydd sydd eisoes yn cyfanwerthu ein cynnyrch, cwrdd â chwmnïau sy'n chwilio am fwydydd crefftus cain i'w cwsmeriaid yn ogystal ag arddangos ein pecynnau newydd, cynhyrchion newydd a rhannu ein statws cynaliadwyedd a sero net.

“Wnawn ni ddim gadael i’r ffaith ein bod yn gwmni crefftus bach leihau ein huchelgais. Mae ein hymrwymiad i greu bisgedi sawrus unigryw a blasus gan ddefnyddio'r cynhwysion gorau wrth wraidd yr hyn a wnawn. Mae Anuga yn gyfle rhyfeddol i arddangos yr ansawdd a’r arloesedd tu ôl i’n cynnyrch, o’n cracers Ceirch Cymreig i’n cyfuniadau blas Asiaidd egsotig. Rydyn ni eisiau gweithio mor galed ag y gallwn i ddyrchafu Cradoc’s, gan gyflwyno ein cwmni bach i farchnad fyd-eang.”

Un o’r cwmnïau eraill sy'n arddangos yn Anuga yw The Lobster Pot, sy'n cyflenwi pysgod cregyn byw o'r safon uchaf o ffynonellau cynaliadwy. Dywedodd Julie Hill o The Lobster Pot,

“Rwy’n llawn cyffro ac yn edrych ymlaen yn fawr at Anuga. Dyma fydd y tro cyntaf i ni arddangos yn y digwyddiad hwn. Fel arfer byddwn yn mynychu’r sioeau bwyd môr yn hytrach na’r sioeau bwyd, ond mae’r Almaen yn farchnad nodedig sy’n absennol o’n rhestr hir o farchnadoedd allforio, a theimlwn fod hwn yn bendant yn gyfle gwerth ei archwilio”.

Mae Edwards, y Cigydd Cymreig yn mynychu Anuga am y tro cyntaf fel rhan o raglen cymorth allforio Llywodraeth Cymru ar gyfer cwmnïau bwyd a diod yng Nghymru. Maent yn bwriadu nid yn unig cwrdd â chwsmeriaid masnach ryngwladol, ond hefyd dangos sut y gallant ychwanegu gwerth fel brand premiwm. Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Laura Jones, Rheolwr Brand Edwards, y Cigyddion Cymreig,

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn rhan o ddirprwyaeth Llywodraeth Cymru sy’n mynd i Anuga 2023. Mae gan Edwards, y Cigydd Cymreig draddodiad balch o greu cynnyrch Cymreig o ansawdd uchel sydd wedi ennill gwobrau, ac rydyn ni’n awyddus i rannu ein hangerdd am fwyd Cymreig gyda chynulleidfa fyd-eang yn y digwyddiad mawreddog hwn. Mae Anuga yn cynnig llwyfan unigryw i ni arddangos ein hamrywiaeth o gynnyrch, o'n selsig i'n cigoedd blasus. Edrychwn ymlaen at ffurfio partneriaethau newydd gyda dosbarthwyr a chyfanwerthwyr cig sydd â diddordeb mewn rhestru detholiad manwerthu ein brand o Borc Tractor Coch a Chig Eidion Cymru PGI."

Cyrhaeddodd gwerth allforion diwydiant bwyd a diod Cymru i’r UE £594m, cynnydd o £130m ers 2021. Roedd allforion bwyd a diod i’r Almaen werth £51 miliwn yn 2022. Cynyddodd allforion £7m o 2021, a £12.6m ers 2016.

Anuga yw prif ffair fasnach y byd ar gyfer bwyd a diod, ac mae’n denu arddangoswyr ac ymwelwyr o bob rhan o’r byd. Mae’n cynnig trosolwg cynhwysfawr o’r tueddiadau a’r datblygiadau arloesol diweddaraf yn y diwydiant bwyd a diod, gan ei wneud yn ddigwyddiad hanfodol i weithwyr proffesiynol yn y sector.

Share this page

Print this page