- Mae 1 Awst yn gychwyn swyddogol ar dymor Cig Oen Cymru PGI gyda Calan Oen
- Mae’r chef enwog o Gymru Bryn Williams yn lansio ymgyrch ‘Cig Oen. O Gymru wrth gwrs’ sy’n amlygu ansawdd ac amlbwrpasedd y cig
- Caiff Borough Market ei llenwi gan gynhyrchwyr Cymreig wrth iddynt arddangos eu cynnyrch ynghyd ag arddangosiadau amrywiol o goginio a bwydydd i’w blasu
Ag yntau’n cael ei ddathlu ar 1 Awst bob blwyddyn, mae Calan Oen yn rhoi cychwyn ar dymor Cig Oen Cymru ac mae’n cofnodi cychwyn y cyfnod pan mae Cig Oen Cymru tymor newydd ar gael, pan mae’r darnau gorau a mwyaf ffres o’r cig blasus ac amlbwrpas hwn ar gael.
Mae dathliadau Diwrnod Cig Oen yn rhan ganolog o ymgyrch sydd newydd gael ei chyhoeddi i godi ymwybyddiaeth defnyddwyr o fanteision maethlon ac amlbwrpasedd Cig Oen Cymru ar ei orau, wedi’i fagu’n gynaliadwy ac ar drothwy defnyddwyr yng ngwledydd Prydain.
Y chef Bryn Williams yn lansio’r dathliadau ar y dydd
Wrth gyfeirio at Galan Oen , dywedodd Bryn Williams, a ddechreuodd ei yrfa goginio yn y ceginau mwyaf mawreddog yn Llundain ac sydd erbyn hyn yn berchen ar ac yn rhedeg nifer o fwytai gwych ei hun:
“Wrth dyfu i fyny yng Nghymru dysgais werthfawrogi bwyd a’i darddiad ers yn blentyn. Mae gen i brofiad personol o wybod am y gofal a’r traddodiadau sy’n rhan o sicrhau’r blas ac ansawdd gorau a geir yng Nghig Oen Cymru. Roeddwn felly’n awyddus iawn i chwarae rhan yn lansio ymgyrch ‘Cig Oen. O Gymru wrth gwrs’ er mwyn amlygu pryd mae’r cig amlbwrpas o ansawdd hwn ar ei orau. Byddwn yn annog pawb i brynu Cig Oen Cymru wrth inni gychwyn ar dymor Cig Oen Cymru.”
Bydd Diwrnod Cig Oen yn dod â blasau o Gymru i ganol Llundain, wrth i Bryn goginio bwydlen arbennig yn Borough Market fydd yn amlygu blas ac ehangder Cig Oen Cymru.
Galw ar bawb i ymuno â’r dathliadau wrth i Galan Oen ddod i Borough Market
Bydd Hybu Cig Cymru a Llywodraeth Cymru, ynghyd â llu o gynhyrchwyr bwyd a diod eraill o Gymru, yn cynnig blasau o’u cynhyrchion o Gymru yn y Neuadd Farchnad yn Borough Market yn Llundain ar 1-3 Awst.
Ar Galan Oen ei hun (1 Awst) bydd Imran Nathoo, a gyrhaeddodd wyth olaf MasterChef 2017 ac sydd hefyd yn flogiwr bwyd, yn cymryd rhan yn y dathliadau yn y Neuadd Farchnad. Bydd yn coginio gwledd i arddangos pa mor amlbwrpas yw’r cig, gan ddefnyddio Cig Oen Cymru i greu bwyd stryd anffurfiol yn ogystal â saig arbennig yn arddangos Cig Oen Cymru ar ei orau o ran blas a golwg.
Caiff ymwelwyr â’r Neuadd Farchnad gyfle hefyd i brynu dewis o fwyd a diod traddodiadol, arobryn o Gymru, gan gynnwys Halen Môn, Radnor Preserves, Hugh Phillips Gower Butcher, Stad Rhug, Celtic Pride, Puffin Produce a Shelly’s.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yng Nghymru dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wrth ei bodd o weld yr amrywiaeth o gynnyrch Cymreig gwych gaiff ei arddangos dros y tridiau:
“Mae Borough Market yn ganolfan hanesyddol ar gylchdaith bwyd y DU ac yn lleoliad addas i ddathlu'r twf a llwyddiant nas gwelwyd o'r blaen gan gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru.
"Mae hefyd yn amserol iawn bod Cig Oen Cymru yn cael llwyfan haeddiannol, gan ein bod yn buddsoddi dros £9 miliwn mewn Rhaglen Ddatblygu Cig Coch yng Nghymru a fydd yn helpu i sicrhau bod Cig Oen Cymru yn parhau i gael ei fwynhau ochr yn ochr â'n cynhyrchion gwych eraill am flynyddoedd i ddod.
“Hoffwn annog pobl i ymweld â Borough Market rhwng 1-3 Awst i ddathlu a mwynhau’r holl fwyd a diod gwych Cymreig sydd ar gael. ”
Mwy am Gig Oen Cymru
Mae Cig Oen Cymru yn gynnyrch hwsmonaeth draddodiadol a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth, ac efallai’r amgylchiadau magu ŵyn gorau yn y byd – awyr iach, porfa gyfoethog a nentydd mynyddig glân. Mae’r cyfuniad hwn wedi golygu yr enillodd Cig Oen Cymru statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).
Meddai Rhys Llywelyn, Rheolwr Datblygu Marchnadoedd yn Hybu Cig Cymru (HCC): “Mae Calan Oen yn gychwyn cyfnod pan mae digonedd o Gig Oen Cymru ar gael ar ei orau, ac rydym eisiau atgoffa pobl ledled gwledydd Prydain o flas ardderchog Cig Oen Cymru, ond hefyd o’i fanteision niferus megis ei amlbwrpasedd wrth goginio.
“Mae bwyta tymhorol yn rhywbeth y mae llawer ohonom yn euog o’i anghofio, ond mae rheswm pam fod pethau’n blasu’n well ar yr adeg iawn o’r flwyddyn. Os rhowch gynnig ar damaid llawn blas o Gig Oen Cymru fis Awst eleni efallai y cewch chithau’ch bachu hefyd.”