Yn ystod y cyfnod anodd hwn i fusnesau, mae Ridiculously Rich by Alana, busnes cacennau moethus sy'n eiddo i enillydd rhaglen Apprentice y BBC yn 2016, Alana Spencer, yn tyfu ac yn ehangu diolch i gymorth a chefnogaeth gan Ganolfan Bwyd Cymru.

Y llynedd llwyddodd Alana gyrraedd safonau SALSA, ardystiad bwyd cydnabyddedig sy'n dangos bod cynhyrchion yn cael eu cynhyrchu mewn modd diogel a chyfreithiol, mewn dim ond chwe wythnos ar gyfer ei hadeiladau newydd yn Aberystwyth gyda chymorth tîm technegol Canolfan Bwyd Cymru.

Aeth ei busnes o nerth i nerth ond pan gyrhaeddodd pandemig COVID-19, fel gyda chynifer o siopau bwyd a diod eraill, dioddefodd golled o 80% o werthiant dros nos wrth i ddigwyddiadau bwyd gael eu canslo, a masnachfreintiau a stocwyr stopio eu harchebion.

Fodd bynnag, mae gweithio'n agos gyda Chanolfan Bwyd Cymru wedi newid popeth, fel yr esbonia Alana:

"Fel gyda phob busnes bwyd a diod yng Nghymru bu'n rhaid i ni ailystyried ein cynllun busnes ac ystyried ffyrdd eraill o ddarparu ein cynnyrch i'n cwsmeriaid. Sylweddolon ni fod yn rhaid i ni werthu ein cynnyrch wedi'i lapio i fodloni rheoliadau llym a chreu cynhyrchion newydd ar yr un pryd.

"Gan weithio'n agos gyda Sarah ein technolegydd bwyd o Ganolfan Bwyd Cymru, roedden ni’n gallu ehangu ein detholiad o gynnyrch 30% drwy gynnig amrywiaeth newydd o fariau cacen cwci wedi'u lapio mewn tri blas, siocled fanila, siocled dwbl a charamel hallt yn ogystal â chynnig ein hamrywiaeth lawn o gacennau mewn 12 blas i gyd wedi'u lapio.

"Fel aelod o Glwstwr Bwyd Da Llywodraeth Cymru rydyn ni hefyd wedi cael gwybod am y wybodaeth ddiweddaraf am y pandemig o ran y sector bwyd a diod, gan ddysgu am gymorth a datrys problemau gyda busnesau eraill.

"I ni, fel gyda llawer o fusnesau eraill, roedd yn hanfodol ein bod yn gallu gwerthu i'r cyhoedd yn ogystal ag i stocwyr ar-lein, a heb gymorth y ganolfan bwyd ni fydden ni wedi gallu addasu a dod o hyd i ffordd o werthu ein cynnyrch yn ystod y cyfnod hwn.

"Nawr rydyn ni'n edrych i'r dyfodol ac yn agor bar coffi a chaffi pwdinau newydd ar lan y môr yn Aberystwyth. Rydyn ni’n gobeithio'n fawr y byddwn yn parhau I weithio gyda Chanolfan Bwyd Cymru ac mae'n rhyddhad gwybod bod cymaint o gefnogaeth ar hyd y ffordd.

"Mae'r cyllid sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru yn hynod ddefnyddiol, a byddai'r broses hon wedi cymryd llawer mwy o amser pe na baen ni wedi cael y cymorth hwn a byddai twf y busnes wedi cael ei oedi’n sylweddol."

Mae Canolfan Bwyd Cymru wedi ei lleoli yn Horeb, Ceredigion ac mae'n ganolfan technoleg bwyd bwrpasol sy'n cynnig cyngor, gwasanaethau technegol a hyfforddiant i fusnesau newydd, busnesau bach a chanolig a chynhyrchwyr bwyd presennol.

Ychwanegodd y Technolegydd Bwyd Sarah Ivens, sydd wedi bod yn cynorthwyo Ridiculously Rich, "Oherwydd effaith Covid-19, bu'n rhaid i fusnesau addasu'n gyflym i newidiadau a achoswyd gan y pandemig, a oedd yn golygu bod yn rhaid cyflymu'r broses a fyddai fel arfer yn cael mwy o amser ac adnoddau i asesu a rheoli. Roedden ni ar gael i gynghori Ridiculously Rich ar greu labeli sy'n cydymffurfio â'r gyfraith drwy sicrhau eu bod yn dilyn yr holl ofynion a rheoliadau cyfreithiol."

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Yn ystod y cyfnod heriol hwn i'r sector Bwyd a Diod yng Nghymru rydyn ni eisiau cynnig y cymorth gorau i fusnesau, diogelu swyddi a chreu hwb i'r sector yn enwedig ar ôl y cyfnod clo cenedlaethol.

"Rydyn ni’n gwybod, os ydyn ni eisiau sicrhau hyder cwsmeriaid yn ein cynnyrch a'n gwasanaethau, fod enw da bwyd a diod Cymru yn mynd law yn llaw â gwella diogelwch a safonau bwyd. Mae angen i bob un ohonon ni chwarae ein rhan i sicrhau bod y gadwyn fwyd yng Nghymru yn darparu bwyd a diod diogel a chynaliadwy o ansawdd uchel, ac mae Llywodraeth Cymru ar flaen y gad o ran sicrhau diogelwch bwyd.

"Mae Ridiculously Rich by Alana wedi dangos eu bod, drwy weithio gyda chanolfan bwyd bwrpasol, wedi gallu symud y busnes yn ei flaen yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Mae Arloesi Bwyd Cymru wedi agor llinell gymorth ym mhob un o'i hardaloedd daearyddol i gynorthwyo unrhyw fusnes bwyd a diod gyda dilyniant diogelwch bwyd, technegol neu gadwyn gyflenwi.

P'un a ydych yn fusnes newydd, angen help i dreialu cynnyrch newydd, neu’n chwilio am hyfforddiant a chyngor arbenigol, gall y timau gwybodus hyn helpu darparu'r atebion."

Am ragor o wybodaeth am y llinellau cymorth sydd ar gael, ewch i: https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/how-we-can-help/innovation-centres

 

 

Share this page

Print this page