Wrth i Ddydd Gŵyl Dewi agosau (1 Mawrth) mae busnesau bwyd ledled y DU yn cael eu hannog i fanteisio i’r eithaf ar y diddordeb cynyddol ym mwyd a diod Cymru.
I hyrwyddo eu hymgyrch Dydd Gŵyl Dewi, mae Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru wedi datblygu pecyn cymorth i helpu busnesau hyrwyddo bwyd a diod Cymreig fel rhan o’r dathliadau.
Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys cyngor ag awgrymiadau defnyddiol ar sut y gall busnesau gymryd rhan, tra eu bod ar yr un pryd yn cynyddu defnydd ac yn rhoi hwb i werthiant. Hefyd wedi eu cynnwys mae deunyddiau marchnata, ffeithiau difyr a ryseitiau blasus - os oeddech chi'n meddwl fod cynnyrch y genedl yn cychwyn gyda chacennau cri ac yn gorffen gyda chawl, yna dyma’r amser i ail-feddwl.
Mae ymchwil diweddar yn dangos fod dros hanner defnyddwyr y DU (y tu allan i Gymru) yn credu fod Cymru’n enwog am gynhyrchu cynnyrch o ansawdd da ac mae bron i draean eisiau mwy ohono ar gael yn eu siopau. Yn ychwanegol at hynny, dywedodd un o bob pum defnyddiwr y byddent yn dewis menyn, caws a dŵr o Gymru dros eraill, ac yn credu fod ei chynnyrch yn fwy 'naturiol' o’i gymharu â gweddill y DU.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, Andy Richardson, “Yn eistedd yn gyfleus rhwng dydd San Ffolant a’r Pasg, mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle marchnata delfrydol ar gyfer unrhyw fusnes bwyd a diod ac mae’n prysur sefydlu ei hun fel dyddiad pwysig yn y calendr. Mae ymchwil yn dangos fod defnyddwyr yn gwerthfawrogi’r hyn sydd yn dda, yn newydd ac yn gyffrous am gynnyrch Cymru a byddwn yn annog busnesau i edrych ar y pecyn cymorth a gweld sut allai fod o fudd i’w busnes.”
Mae'r pecyn cymorth yn rhan o ymgyrch Dydd Dewi Sant ehangach, sy'n dathlu'r gorau o fwyd a diod y genedl. Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod gorau Cymru yn arddangos eu cynnyrch yn rhai o siopau mwyaf mawreddog Llundain ac mewn digwyddiadau o ddiwedd Chwefror hyd ddechrau mis Mawrth.
Os ydych chi’n adwerthwr yng Nghymru yna bydd eich cwsmeriaid yn gwerthfawrogi eich bod wedi dewis dathlu nawddsant eich cenedl ac os ydych chi wedi eich lleoli y tu allan i Gymru, yna bydd eich cwsmeriaid am ddysgu mwy am gynnyrch o Gymru, ac am ei flasu.
Mae’r pecyn cymorth ‘Dyma ddathliad. Gwlad Gwlad’ ar gael i’w lawrlwytho o wefan Bwyd a Diod Cymru www.llyw.cymru/bwydadiodcymru