Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn teithio i Dubai yn ddiweddarach y mis hwn i fynychu Gulfood, un o arddangosfeydd masnach bwyd a diod mwyaf y byd sy’n ymestyn allan i wledydd allweddol o fewn rhanbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (MENA).
Bydd Gulfood yn cael ei gynnal rhwng 20-24 Chwefror yng Nghanolfan Masnach y Byd Dubai, ble bydd brandiau rhyngwladol yn arddangos eu cynhyrchion a’u gwasanaethau bwyd a diod diweddaraf.
Mae'r arddangosfa’n denu dros 5000 o gwmnïau o fwy na 120 o wledydd sy’n datgelu cyfleoedd busnes newydd, gan ddarparu atebion i heriau byd-eang newydd ac esblygol. Mae hefyd yn rhoi cyfle i arddangoswyr gwrdd â chyflenwyr, blasu bwydydd newydd, a dysgu am y tueddiadau bwyd a diod diweddaraf.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd 14 o gwmnïau bwyd a diod o Gymru yn mynychu Gulfood 2023 i ddenu busnes tramor ychwanegol, o dan faner Cymru.
Mae gan Gymru gysylltiad hir â Gulfood, gyda llawer o lwyddiant wrth ddod ag amrywiaeth o gynnyrch Cymreig i ranbarth Cyngor Cydweithrediad y Gwlff (GCC).
Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:
“Mae bwyd a diod o Gymru gyda’r gorau yn y byd ac mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi cyfle gwych i’n busnesau arddangos eu cynnyrch o ansawdd uchel, sydd wedi’i wneud yng Nghymru.
“Mae sicrhau marchnadoedd allforio newydd, meithrin perthnasoedd gwaith a chodi ein proffil rhyngwladol yn hanfodol i’r diwydiant ac rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cwmnïau i wneud hyn.”
Ymhlith y busnesau Cymreig sy’n arddangos mae Rachel’s Dairy, Dairy Partners, Daioni Organic, Hilltop Honey, Tŷ Nant, Buckley Foods Ltd, The Lobster Pot, Aforza Ltd, Ocean Bay Seafoods Ltd, Old Coach House Distillery, Hybu Cig Cymru, Edwards of Conwy, Llaeth Organig Calon Wen ac Arloesi Bwyd Cymru.
Bydd y cwmni o Sir Benfro, Daioni Organic, yn arddangos eu detholiad blasus a hufennog o litr o laeth cyflawn, hanner sgim a sgim, yn ogystal â’u detholiad o laeth â blas. Byddant hefyd yn arddangos manylion eu detholiad coffi newydd a fydd yn cael ei lansio ym mis Ebrill, sy'n cynnwys y blasau Caffe Latte, Salted Caramel Latte a Macchiato Latte.
Dywedodd Cyfarwyddwr Masnachol Daioni, Adam Fitzpatrick,
“Byddaf yn mynychu’r sioe gyda’r disgwyliad o gwrdd â pherchnogion manwerthu, prynwyr, a dosbarthwyr ar draws rhanbarthau’r Gwlff i gynnig atebion i’w gofynion llaeth, organig ac iechyd wrth i ni geisio parhau â’n categori digid byd-eang sy’n arwain ymgyrch twf i mewn i ranbarth y Gwlff.”
Bydd y cigyddion o’r gogledd, Edwards, yn mynychu ac yn defnyddio Gulfood fel llwyfan i hyrwyddo enw eu brand sydd newydd newid. Dyma’r tro cyntaf i’r cwmni fynychu Gulfood ac maent yn teimlo’n barod i ehangu i farchnadoedd allforio newydd fel y dywedodd Jeremy Stoker, Rheolwr Datblygu Gwerthiant y DU a Rhyngwladol,
“Nod mynychu Gulfood yw creu ymwybyddiaeth o Edwards, y Cigydd Cymreig. Mae ein hanes fel cigydd stryd fawr wedi tyfu i gyflenwi cwsmeriaid manwerthu, ar-lein a gwasanaethau bwyd mawr yn y DU trwy gynhyrchu selsig, byrgers, peli cig a chig moch o safon uchel (gan gynnwys achrediad y Tractor Coch a Chig Eidion Cymru PGI) mewn cyfleuster cynhyrchu BRC “AA”.
“Hoffem gwrdd â manwerthwyr, dosbarthwyr manwerthu a gwasanaethau bwyd a chyfanwerthwyr cig yn yr Emiradau Arabaidd Unedig sy'n gallu gwerthu ein detholiad presennol o selsig, byrgers, peli cig a chig moch yn ogystal â chyngor ar y galw a datblygu detholiad wedi'i deilwra o gynhyrchion Edwards i’w werthu ar draws rhanbarth y GCC.”
Mae Buckley Foods Ltd yn mynychu Gulfood fel rhan o'r ymweliad allforio ac yn gobeithio dod o hyd i bartner masnachu addas yn y rhanbarth.
Dywedodd Richard Jones, Rheolwr Manwerthu Allforio Buckley Foods,
“Rydym yn mynychu Gulfood eleni fel rhan o’r ymweliad allforio gan i ni sylwi bod llu o ddosbarthwyr sefydledig yn y sioe, felly byddwn yn ymweld â nhw i geisio dod o hyd i bartner masnachu addas ar gyfer 2023 a thu hwnt.
“Byddwn hefyd yn cwrdd â chwsmeriaid sy’n ymweld â’r sioe o wledydd eraill ac yn rhwydweithio gyda nhw a’u cydweithwyr.”
Mae Gulfood, Dubai yn ddechrau ar nifer o sioeau masnach a digwyddiadau wedi’u targedu y bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn eu mynychu eleni gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, trwy’r Rhaglen Digwyddiadau Masnach Bwyd a Diod. Mae ymweliadau datblygu masnach arfaethedig yn y dyfodol yn cynnwys Saudi Arabia, De Corea, a Foodex yn Tokyo. Byddant hefyd yn mynd i arddangosfeydd masnach yn Ffrainc a'r digwyddiad ProWein yn Dusseldorf.
Mae'r dyddiad hefyd wedi'i gyhoeddi ar gyfer prif ddigwyddiad masnach bwyd a diod rhyngwladol Cymru - BlasCymru/TasteWales 2023. Bydd y digwyddiad deuddydd a drefnir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gynnal ar 25 a 26 Hydref yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC Cymru), yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd. Bydd y digwyddiad yn dod â chynhyrchwyr bwyd a diod ynghyd â phrynwyr cenedlaethol a rhyngwladol a gweithwyr proffesiynol y diwydiant.