Mae cwmni o Grughywel sy'n cynhyrchu'r microwyrddion maethlon sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd wedi ddarganfod bwlch yn y farchnad yn ne-ddwyrain Lloegr. Mae Dragon Microgreens bellach yn cyflenwi nifer o fwytai gorau Brighton ar ôl gorfod chwilio am gwsmeriaid newydd pan fu'n rhaid i'r busnes gau ym mis Mawrth oherwydd pandemig COVID-19.
Microwyrddion yw planhigion ifanc perlysiau a phlanhigion deiliog sy'n cael eu cynaeafu cyn iddyn nhw dyfu i'w llawn faint. Mae'n hawdd gweld pam eu bod wedi dod yn gynhwysyn poblogaidd gan eu bod yn ffordd syml o gael eich pump y dydd.
Wrth i'r cyfnod clo daro, bu'n rhaid i'r perchnogion Jamie a Nick roi'r gorau i’r gwaith ar unwaith ac roedd y dyfodol yn edrych yn llwm. Fodd bynnag, fel busnes bach newydd a gefnogwyd gan grŵp Clwstwr Maeth Cymru Llywodraeth Cymru a Grŵp Diddordeb Arbennig Amaethyddiaeth yr Amgylchedd Rheoledig, roedden nhw’n benderfynol o ddod o hyd i ateb, fel yr esbonia Jamie Walker, Cyd-sylfaenydd ac Ysgrifennydd y Cwmni:
"Rydym ni’n ffodus iawn o allu ffermio ein microwyrddion yn fertigol ar ein fferm ym Mannau Brycheiniog, gan ddefnyddio dŵr ffynnon mynydd ffres gyda gwrtaith a phriddoedd organig, ynghyd â digon o gariad, i gynhyrchu'r microwyrddion mwyaf blasus a ffres sydd ar gael.
"Ar ôl profi bod ganddyn nhw, ar gyfartaledd, hyd at 40 gwaith gwerth maethol llysiau wedi'u tyfu'n llawn, mae microwyrddion yn dod yn fwyfwy poblogaidd gan fod astudiaethau diweddar wedi dangos eu manteision iechyd, felly dechreuom ni ein busnes microwyrddion ychydig dros flwyddyn yn ôl.
"Fodd bynnag, pan drawodd pandemig COVID-19, caeodd ein busnes dros nos. Bu'n rhaid i ni chwilio'n sydyn am gleientiaid newydd i werthu ein cynnyrch iddyn nhw ac i allu dechrau gweithredu eto.
"Buom ni’n gweithio’n galed yn ffonio bwytai yn ne-ddwyrain cyfoethog Lloegr, a dalodd ar ei ganfed. Felly ers diwedd mis Awst rydym ni wedi dechrau gwasanaeth dosbarthu wythnosol i 10 bwyty yn Brighton, gan gynnwys y Salt Room Restaurant mawreddog yng ngwesty’r Hilton Brighton Metropole. Gyda nifer yr archebion yn tyfu’n gyflym, ein nod yw cynyddu nifer ein cwsmeriaid ac rydym ni bellach yn canolbwyntio ar ddod o hyd i gwsmeriaid yng Nghymru."
Mae Dragon Microgreens yn tyfu microwyrddion amrywiol gan gynnwys coriander, brocoli, basil, amaranth, cêl, radish, blodyn haul ynghyd â rhai mwy prin fel shiso. Mae Jamie a'i bartner Nick wedi'u cyffroi gan yr adborth cadarnhaol maen nhw’n ei gael yn rheolaidd gan y siopau a'r bwytai:
"Mae blas anhygoel ar ficrowyrddion ac maen nhw’n ffynhonnell wych o faetholion i'w hychwanegu at brydau. Mae'r cynhyrchion hyn yn tyfu'n dda yn ein huned amgylchedd rheoledig, ac mae'r bwytai wrth eu bodd, ac weithiau hyd yn oed yn newid ryseitiau yn ôl argaeledd. Mae rhai bwytai sydd erioed wedi'u defnyddio o'r blaen, ond gan fod iddyn nhw flasau mawr a phrisiau rhesymol maen nhw bellach yn eu cynnwys yn rheolaidd ar eu bwydlenni.
"Gyda chymorth Clwstwr Maeth Cymru Llywodraeth Cymru rydym ni’n dechrau ailafael ynddi. Mae'r gweithdai a'r digwyddiadau rhithwir wedi bod yn amhrisiadwy, ac rydym ni wedi dysgu cymaint."
A hwythau bellach wedi prynu fan, mae Jamie a Nick nawr yn canolbwyntio ar Gymru a sicrhau busnes newydd yn lleol. Maen nhw hefyd yn gweithio ar fodelau masnachfraint i'r rhai sydd â diddordeb mewn tyfu eu cynnyrch eu hunain, a fydd yn helpu i ddarparu cyfleoedd gwaith ac yn ffynhonnell o gynhwysion iach I gymunedau.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
"Mae Dragon Microgreens yn enghraifft wych o fusnes bach newydd, diweddar sydd bellach yn defnyddio'r cymorth sydd ar gael i adfywio ar ôl cyfnod clo COVID-19 yn gynharach eleni.
"Gall bod yn rhan o grŵp datblygu clwstwr roi cipolwg a deallusrwydd i fusnesau bwyd a diod fel Dragon Microgreens yn y farchnad lle mae bwyd, iechyd, maeth a lles yn cydgyfarfod.
"Mae'r clystyrau'n harneisio arbenigedd ym mhrifysgolion Cymru, iechyd cyhoeddus a'r canolfannau bwyd i ysgogi ymchwil, arloesi a datblygu cynnyrch ar y cyd, a helpu i gael mynediad i farchnadoedd newydd.
"Mae hwn yn gyfnod eithriadol o anodd i economi Cymru gyfan, ond gyda'r gefnogaeth mae'r Llywodraeth yn ei darparu rydym ni’n gobeithio helpu cynifer o fusnesau bwyd a diod â phosibl drwy'r pandemig."
I gael rhagor o wybodaeth am Dragon Microgreens a'u detholiad o gynhyrchion ewch i: https://dragonmicrogreens.co.uk/.
I gael rhagor o wybodaeth am gymorth COVID-19 i Fusnesau gan Lywodraeth Cymru ewch i:
https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/
A gwybodaeth i fusnesau bwyd a diod Cymru am wahanol grwpiau clwstwr Llywodraeth Cymru:
https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/growing-your-business/clusters