Gyda diwrnodau i fynd nes y bydd tîm Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd FIFA ers dros 60 o flynyddoedd, mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn dathlu rhagoriaeth yn y byd chwaraeon ac yn codi ymwybyddiaeth o gynnyrch o'r radd uchaf.

Mae dros 150 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru o bob maint yn cymryd rhan yn ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste yr hydref. Maent yn defnyddio 'Tîm Cymru' i ddangos ysbryd y wlad yn y byd chwaraeon wrth i dimau pêl-droed a rygbi cenedlaethol frwydro dros lwyddiant  rhyngwladol y mis hwn.

Yn fwy, yn well, ac yn fwy mentrus nag erioed o'r blaen, mae'r ymgyrch dwyieithog wedi'i drefnu gan Raglen Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru ac mae'n cael ei gynnal hyd at 29 Tachwedd.

Yn defnyddio'r is-benawdau  Pêl-droed, Bwyd, Diod y cyfuniad perffaith a Rygbi, Bwyd, Diod y cyfuniad perffaith.  

mae'r ymgyrch yn gyfuniad o hysbysebu digidol yn yr awyr agored a hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae pump ar hugain o frandiau bwyd a diod yn rhan o'r ymgyrch hysbysebu digidol yn yr awyr agored gyda 30 o hysbysebion ledled Cymru, gan gynnwys y tu allan i archfarchnadoedd mawr.  

Ac mae deunydd pwynt gwerthu wedi'i greu ar gyfer allfeydd lletygarwch yng Nghymru.

Mae pecyn cymorth wedi'i greu'n arbennig i fynegi dychymyg cynhyrchwyr, sy'n rhoi'r gair ar led ar-lein ynghylch eu brandiau a bwyd a diod o Gymru gan ddefnyddio'r hashnod #CaruTîmCymru #LoveTeamWales.

Mae rhai cwmnïau wedi mynd ati i greu cynhyrchion yn seiliedig ar Gwpan y Byd, gan gynnwys: Hensol Castle Distillery (Jin Sych Cymreig #TOGETHERSTRONGER Hensol Castle), Penderyn Distillery ( Penderyn Icons of Wales #10 - YMA O HYD),

Brecon Brewing (FAW Lager (breconbrewing.co.uk) a FAW Cider (breconbrewing.co.uk), a Glamorgan Brewing Company - Bale lager a Bale Ale. 

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd:

"Mae'n gyfnod cyffrous i Gymru wrth i ni baratoi at ein gêm gyntaf yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ers 64 o flynyddoedd ac hefyd Cyfres Cenedlaethol yr Hydref  ar y gweill.  

 "Mae ein cynhyrchion bwyd a diod o ansawdd yn rhan fawr o ddiwylliant a hunaniaeth Cymru, a thrwy ddangos eu cefnogaeth tuag at dîm pêl-droed Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, mae ein cynhyrchwyr bwyd a diod yn mabwysiadu ysbryd tîm fel rhan o ymgyrch yr hydref.

Share this page

Print this page