Gyda llai na phythefnos nes y bydd digwyddiad masnach bwyd a diod rhyngwladol mwyaf Cymru, BlasCymru/TasteWales, yn dychwelyd, mae llu o sefydliadau Cymreig blaenllaw wedi’u datgelu fel noddwyr ar gyfer y digwyddiad blaenllaw.

Yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC) Cymru, Casnewydd, ar 25-26 Hydref, hon fydd y bedwaredd sioe fasnach o dan faner Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru.

Gyda’r digwyddiad yn nesáu, mae gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn cael eu hannog i wneud y mwyaf o gyfle unigryw i ymuno â chynhyrchwyr, prynwyr cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer dathliad o ddiwydiant bwyd a diod ffyniannus Cymru.

Mae cyfres o sefydliadau blaenllaw yn noddi’r digwyddiad eleni, gan gynnwys Hybu Cig Cymru (HCC), Arloesi Bwyd Cymru, Bwydydd Castell Howell, AMRC, Hyfforddiant Cambrian, Rachel’s Dairy, Puffin Produce, BIC Innovation, Banc Datblygu Cymru, Azets, William Reed, Lager Wrecsam, Coffi Ferrari a Distyllfa Cygnet.

Dywedodd Rachael Madeley-Davies, Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol HCC, y corff sy’n gyfrifol am godi proffil cig coch Cymru gartref a thramor:

“Mae’r digwyddiad yn gyfle gwych i werthu cynnyrch Cymreig i’r byd. Credwn yn gryf fod cynnyrch fel Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI ymhlith y gorau, a dyna pam eu bod wedi cael statws daearyddol gwarchodedig ers dros ugain mlynedd.

“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn un o’r noddwyr eleni, yn enwedig gan fod materion yn ymwneud â chynaliadwyedd yn ganolog i’r digwyddiad. Mae gennyn ni stori wych i’w hadrodd am gynhyrchu bwyd cynaliadwy yng Nghymru, ac mae ein diwydiant cig coch yn bwriadu bod ar flaen y gad o ran sicrhau ein bod yn cynhyrchu bwyd maethlon a chynaliadwy o’r ansawdd gorau am flynyddoedd i ddod.”

Yn y cyfamser, dywedodd Matt Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Bwydydd Castell Howell, sy’n un o brif gyfanwerthwyr gwasanaethau bwyd annibynnol Cymru:

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn rhan o BlasCymru/TasteWales unwaith eto eleni ac mae’r digwyddiad wedi profi’n gyson i fod yn sylfaen ar gyfer arloesi a chydweithio o fewn y diwydiant bwyd a diod.

“Mae ein hymrwymiad i ragoriaeth yn cyd-fynd yn berffaith â chenhadaeth y digwyddiad i helpu tyfu diwydiant bwyd arloesol, cynaliadwy a llewyrchus yng Nghymru.”

Wrth wneud sylwadau ar ran Arloesi Bwyd Cymru, dywedodd Martin Jardine o’r Ganolfan Technoleg Bwyd ar Ynys Môn, sy’n un o dair rhan Arloesi Bwyd Cymru,

“Mae Arloesi Bwyd Cymru yn falch iawn o gefnogi BlasCymru/TasteWales yn dilyn ei lwyddiannau yn y gorffennol. Rydym yn gyffrous i weld cymaint o'n cleientiaid yn arddangos eu cynnyrch gwych yn y digwyddiad.

“Mae llawer o’r busnesau bwyd a diod Cymreig yma yn elwa ar Brosiect HELIX a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n anelu at hybu effeithlonrwydd ac arloesedd ymhellach yn niwydiant bwyd a diod Cymru. Mae’r cymorth hwn ar waith tan fis Mawrth 2025, drwy’r Cynllun Arloesi Strategol ac mae’n darparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau cymorth busnes i gynhyrchwyr bwyd a diod ledled Cymru.

“Os nad yw eich cwmni wedi derbyn cefnogaeth trwy Brosiect HELIX eto, byddwn yn eich annog i ddod i’n gweld yn y Parth Arloesi yn BlasCymru/TasteWales i drafod y gwahanol fathau o gymorth y gallwn ei ddarparu.”

Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru, a’r Trefnydd Lesley Griffiths AS a fydd yn agor y digwyddiad yn swyddogol,

“Mae ein noddwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin cydweithredu, arddangos rhagoriaeth, a sbarduno twf yn ein sector bwyd a diod bywiog. Mae eu hymrwymiad i BlasCymru/TasteWales yn adlewyrchiad o’u hymroddiad i’n nodau cyffredin o hyrwyddo bwyd a diod ac arbenigedd Cymreig i gynulleidfa ehangach.

“I’r rhai sy’n dal heb benderfynu a ydynt am fynychu, byddwn yn eich annog i ddod draw i ddysgu mwy am ein diwydiant bwyd a diod gwych. Estynnwn groeso cynnes i bawb sy’n cymryd rhan ac edrychwn ymlaen at ddigwyddiad llwyddiannus ac ysbrydoledig.”

Mae prif uchafbwyntiau’r digwyddiad yn cynnwys:

• Arddangos cynhyrchwyr a'u cynnyrch i gynulleidfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol

• Broceru perthnasau rhwng cynhyrchwyr a phrynwyr trwy gyfarfodydd partneru

• Ardaloedd â themâu yn arddangos y gorau o fwyd a diod Cymru, ynghyd â rhaglen ddifyr o seminarau gydag arbenigwyr blaenllaw’r diwydiant

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a’i noddwyr, manylion am y rhaglen seminarau ynghyd â sicrhau eich tocyn, ewch i www.tastewales.com/

Share this page

Print this page