Dathlwyd rhai o gynhyrchwyr bwyd a diod mwyaf arloesol a chreadigol Cymru yng Ngwobrau Bwyd a Diod cyntaf Cymru, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 13 Mai 2022.

O gwmnïau sefydledig sydd wedi dod yn enwau cyfarwydd i gwmnïau bach newydd, sefydlwyd y gwobrau busnes i ddathlu ac arddangos y cynhyrchwyr bwyd a diod gorau yng Nghymru, beth bynnag fo'u maint.

Cafodd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eu cymeradwyo am eu syniadau newydd a chyffrous, eu twf a'u gwydnwch, mewn cinio gala a seremoni wobrwyo yng Ngwesty Mercure. Roedd busnesau wedi cyrraedd y rhestr fer mewn amrywiaeth o gategorïau, i adlewyrchu natur amrywiol sector sy'n allweddol yn economi Cymru ac sydd wedi ennill enw da am ragoriaeth yn fyd-eang.

Daeth y busnesau buddugol o bob rhan o Gymru gan amrywio o fwyd môr a gyrchwyd yn gynaliadwy i jel egni fegan.

Cadeiriwyd y panel beirniadu gan Robin Jones, Rheolwr-gyfarwyddwr Village Bakery, y cwmni llwyddiannus o Wrecsam. Dywedodd:

"Roedd y broses feirniadu'n anodd iawn gan fod y safon a welwyd ym mhob categori yn gwbl eithriadol – ac roedd yn anodd llunio rhestr fer gan fod cynifer o gynigion wedi dod i law.

Cefais fy mhlesio'n fawr gan angerdd y cynhyrchwyr a'u harloesedd ynghyd â'u gwydnwch a'u dyfeisgarwch dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Hoffwn longyfarch pob un ohonynt – maent yn credyd iddyn nhw eu hunain ac i Gymru.”

Cefnogwyd Gwobrau Bwyd a Diod Cymru gan y prif noddwr, Bwydydd Castell Howell, un o brif gyfanwerthwyr bwyd annibynnol y DU.

Dywedodd Kathryn Jones o gwmni Castell Howell:

"Mae ein sector bwyd yng Nghymru yn gwneud cyfraniad pwysig i'n cyfansoddiad economaidd a chymdeithasol; felly, roedd yn naturiol ein bod yn cefnogi digwyddiad sy'n cydnabod busnesau sydd wedi rhagori dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn ystod pandemig Covid ac wedi hynny"

Lansiwyd Gwobrau Bwyd a Diod cyntaf Cymru yn gynharach eleni gan y sylfaenwyr, Liz Brookes, Cyfarwyddwr Grapevine Event Management a'r darlledwr, Sian Lloyd. Cawsant eu noddi gan: Castell Howell, Hyfforddiant Cambrian, Cymdeithas Goginio Cymru, Cywain, Business News Wales, yr Adran Fasnach Ryngwladol, Arloesi Bwyd Cymru, HSBC, Hugh James, Hybu Cig Cymru, Menter Môn, Stills, Village Bakery, Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.

Dywedodd Liz Brookes "Roedd yn anhygoel gweld pawb yn dod ynghyd i ddathlu ar ôl dwy flynedd heriol iawn. Mae gan Gymru lu o gynhyrchwyr bwyd a diod angerddol a hoffwn longyfarch pob un ohonynt am eu cyflawniadau".

Dywedodd Sian Lloyd "Rwyf wedi cefnogi bwyd a diod o Gymru erioed, ac mae wedi bod yn ddifyr dysgu mwy am y sector hynod greadigol a hanfodol hwn. Gwelwyd cynigion gan fusnesau o bob cwr o Gymru ac roedd yr angerdd am eu cynhyrchion yn amlwg iawn. Mae llawer o'r straeon y tu ôl i'r busnesau hyn yn ysbrydoledig, a gan fod cynifer o gynigion o safon uchel, rwy'n falch mai cyflwyno'r seremoni oedd fy nhasg i yn hytrach na beirniadu'r gwobrau! Llongyfarchiadau i bawb.”  

Enillwyr Gwobrau Bwyd a Diod Cymru 2022 yw:

Busnes Newydd y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru - Do Goodly Foods

Gwobr Gymunedol Leol Bwyd a Diod Cymru - Tiny Rebel

Gwobr Gwydnwch Covid-19 Bwyd a Diod Cymru - In the Welsh Wind Distillery

Entrepreneur y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru - Danny Curtis, Lobster & Môr

Gwobr Seren y Dyfodol Bwyd a Diod Cymru - Charlotte Clark, Pembrokeshire Gin Company

Cynhyrchwr y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru - Coaltown

Allforiwr y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru - The Lobster Pot

Cynhyrchwr y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru - Llaeth y Llan - Village Dairy

Gwobr Arloesedd Bwyd a Diod Cymru - Vala Energy

Prentis y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru - Ben Roberts - M. E. Evans Ltd

Busnes Artisan y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru - Caws Teifi

Busnes Sydd Wrthi'n Tyfu Bwyd a Diod Cymru - Hilltop Honey

Busnes Cynaliadwy y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru - Cwmni Jin Gŵyr                                                                                 

Canmoliaeth Uchel

Busnes Newydd y Flwyddyn - Old Farmhouse Brewery Ltd.

Gwobr Gymunedol Leol - MamGu Welshcakes

Gwobr Gwydnwch Covid-19 - Bang on Brewery

Entrepreneur y Flwyddyn - Michael Beynon, Coalpit Welsh Cakes

Gwobr Seren y Dyfodol - Lauren Price, Kepak

Allforiwr y Flwyddyn - AU Vodka

Cynhyrchwr Bwyd y Flwyddyn - The Authentic Curry Company

Prentis y Flwyddyn - Joseph Hembrough, Cwmni Bwyd Môr Menai

Busnes Artisan y Flwyddyn - Pembrokeshire Chilli Farm

Busnes Sydd Wrthi'n Tyfu - Lilo's Pasta

Gwobr Gwerthoedd Cynaliadwy - Pembrokeshire Lamb

Cynhyrchwr Diodydd y Flwyddyn - Cotteswold Dairy

Arloeswr y Flwyddyn - Daffodil Foods

Hyrwyddwr y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru - Colin Gray, Capital Cuisine

Gwobr Cyflawniad Oes - Brian Jones MBE, Castell Howell

Ceir rhagor o fanylion am Wobrau Bwyd a Diod Cymru, a fydd yn dychwelyd yn 2023, ar y wefan https://foodanddrinkawards.wales/

 

Share this page

Print this page