Mae Princes Limited, un o'r enwau mwyaf yn niwydiant bwyd a diod y DU, wedi cael ei enwi  fel prif noddwr y digwyddiad masnach rhyngwladol BlasCymru 2021.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol, Gwesty’r Celtic Manor, Casnewydd (27-28 Hydref 2021), a bydd yn croesawu prynwyr bwyd a gweithwyr proffesiynol y diwydiant o dan yr un to i gwrdd â busnesau bwyd a diod blaenllaw Cymru.

Mae ffigyrau diweddar wedi tynnu sylw ymhellach at y rôl hanfodol mae'r digwyddiad yn ei chwarae wrth ddod â phrynwyr a busnesau ynghyd, gyda digwyddiad 2019 wedi creu bron i £20m o werthiant wedi'i gadarnhau ar gyfer cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru.

Wrth sôn am y cyhoeddiad dywedodd Andy Hargraves, Cyfarwyddwr Grŵp Diodydd Meddal Princes:

“Mae Princes yn falch iawn o roi ei gefnogaeth i BlasCymru 2021 yn dilyn ei lwyddiannau yn y gorffennol. Mewn sawl ffordd, mae’r amseru’n cyd-fynd yn berffaith â’n hymrwymiad parhaus i weithgynhyrchu yng Nghymru, wrth i ni gwblhau buddsoddiad cyfalaf mwyaf y Grŵp erioed mewn diodydd meddal ar ein safle yng Nghaerdydd.”

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a Threfnydd Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths:

“Gyda sefyllfa’r coronafeirws yn parhau i wella yma yng Nghymru, rydym ni’n obeithiol iawn ac yn edrych ymlaen at groesawu cyflenwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd i’r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Ngwesty’r Celtic Manor yn ddiweddarach eleni ar gyfer BlasCymru 2021.

“Mae'r digwyddiad yn cynnig cyfle arbennig i arddangos y gorau o Gymru ac mae'n braf meddwl y bydd mwy na 200 o gynhyrchion newydd yn cael eu lansio dros y ddeuddydd sy'n newyddion gwych wrth i'r diwydiant barhau i wella o effaith Covid19.

“Bydd cynaliadwyedd, wrth gwrs, yn ganolog yn y digwyddiad wrth i ni adeiladu ar ein gweledigaeth strategol i ddod yn arweinydd byd-eang yn y maes.”

Gyda dros 200 o gynhyrchion newydd i'w lansio yn BlasCymru mewn ystod eang o gategorïau, mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio i sicrhau'r gwerth mwyaf posibl i brynwyr gan eu helpu trwy:

• ddarparu arddangosfa fawr o gynhyrchion;

• cyrchu bwyd a diod o Gymru – o frandiau i labeli preifat;

• cwrdd ag ystod eang o gyflenwyr;

• fformat cyfarfod rhagarweiniol effeithlon o ran amser.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb yn BlasCymru 2021 ewch i www.blascymru.com/   

Share this page

Print this page