Yn ôl gwaith ymchwil newydd, mae mwy o bobl yn dymuno gweld prydau bwyd sy’n cynnwys cynhwysion Cymreig mewn llefydd fel bwytai, caffis a siopau tecawê.

Cymerodd mwy na 1,400 o bobl ran yn yr arolwg, ac roedd 90% o westeion o’r farn ei bod hi’n bwysig i leoliadau fod â dewis eang o brydau bwyd sy’n cynnwys cynhwysion Cymreig – dyma gynnydd ers 2017, pan oedd y ffigur yn 77%.

Ymhellach, dengys gwaith ymchwil Gwerth Cymreictod fod 93% o westeion o’r farn y dylid hyrwyddo bwydydd a diodydd Cymreig mewn lleoliadau, a byddai nifer o westeion yn fodlon talu mwy am hyn.

A dywedodd chwarter y bobl a arolygwyd eu bod yn llai tebygol o ymweld â llefydd nad ydynt yn cynnig bwydydd a diodydd Cymreig.

Bydd canlyniadau’r gwaith ymchwil hwn, a ddeilliodd o Raglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru, yn allweddol o ran helpu busnesau yn y sector i ddeall pa mor bwysig yw cynnyrch Cymreig i ddefnyddwyr ledled y DU. Gan ganolbwyntio’n arbennig ar ganfyddiadau ac agweddau yn y sector gwasanaethau bwyd y tu allan i’r cartref, megis pobl sy’n bwyta mewn bwytai a chaffis a phobl sy’n archebu bwydydd tecawê, mae’r gwaith ymchwil hwn yn hollbwysig o ran dangos beth yw’r farn ynglŷn â Chynhwysion Cymreig a Diodydd Cymreig.

Yn ôl Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: “Mae gan Gymru gynnyrch gwych i’w gynnig i bobl drwy’r DU a ledled y Byd.

“Mae’r gwaith ymchwil hwn yn dangos yn glir pa mor bwysig yw Cymreictod yn y sector bwyd a diod. Gobeithio y bydd hyn yn helpu busnesau i gynllunio’r bwydlenni a’r cynhyrchion a gynigir ganddyn nhw nawr ac yn y dyfodol.”

NODYN

Mae’r adroddiad ar gael i holl fusnesau Bwyd a Diod Cymru a gellir cael gafael arno trwy gyfrwng yr Hwb Mewnwelediad yn Adran Aelodau Bwyd a Diod gwefan Llywodraeth Cymru.

https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/ardal-aelodau 

Share this page

Print this page