Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru wedi dod at ei gilydd i roi Cymru ar y map, wrth sicrhau rhestrau cynnyrch gyda'r gadwyn archfarchnad flaenllaw yn y Dwyrain Canol, Choithrams.

O 12 Mai ymlaen, bydd brandiau bwyd a diod o Gymru ar werth mewn 9 siop Choithrams yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig fel rhan o weithgaredd manwerthu, gan hyrwyddo cynnyrch Cymreig a rhoi cyfle i fusnesau fasnachu a gwneud cysylltiadau yn y Dwyrain Canol.

Bydd 11 brand ar gael i'w samplu a'u prynu mewn yn y siopau, gan gynnwys Calon Wen, Cradoc's Savoury Biscuits, Daioni Organic, Halen Môn, Hilltop Honey, Rachel’s Organic, Radnor Preserves, Rhug Estate, Stillers, Tan y Castell a Tŷ Nant.

Mae rhai o'r cynhyrchion a restrir yn cynnwys Organic Mellow Creamy Cheddar gan Calon Wen, cracers tsili a sinsir gan Cradoc's Savoury Biscuits, Latte Caramel Hallt o Daioni, Halen Môn gyda Garlleg Rhost, Mêl Blodeuyn Hilltop, Iogwrt Riwbob Arddull Groeg Rachel’s Organic, Marmaled Mwg Tanau Gwersylla wedi'i dorri â llaw gan Radnor Preserves, coes cig oen Rhug Estate, Bara Brith Tan Y Castell a dŵr llonydd Tŷ Nant glas.

Mae'r prosiect 'Cyrchfan: Dwyrain Canol' a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn brosiect peilot i gefnogi hyrwyddiadau manwerthu yn y farchnad ac ymgysylltu â defnyddwyr mewn masnach. Mae'r Dwyrain Canol wedi bod yn farchnad o ddiddordeb ers sawl blwyddyn bellach, gydag Ymweliadau Datblygiad Masnach bwyd a diod lwyddiannus â'r rhanbarth. Mae’r cynhyrchwyr wedi elwa o gefnogaeth llysgennad brand yn y farchnad sydd wedi bod yn arddangos ansawdd y cynnyrch i amrywiaeth o gogyddion a phrynwyr o’r sector gwasanaethau bwyd.

Bydd cynnyrch Cymreig hefyd yn cael ei roi ar brawf mewn profiad Bwrdd y Cogydd unigryw mewn cydweithrediad â’r cogydd enwog, Nick Alvis. Gwahoddir cogyddion gorau a dylanwadwyr bwytai i brofi'r gorau o Gymru drwy fwydlen Gymreig arbennig, tra dysgu am rinweddau unigryw ac arbennig cynnyrch Cymru. Dechreuodd y cogydd Nick Alvis ar ei yrfa yn nhref wledig hyfryd Tyddewi, Sir Benfro, ac yno y dysgodd wir ystyr cynnyrch lleol, dilys a chynaliadwy.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, “Rwy’n falch iawn o weld cymaint o’n cynhyrchwyr bwyd a diod wych yn cymryd rhan yn ‘Cyrchfan: Dwyrain Canol’ sy’n mabwysiadu dull newydd o ddatblygu masnach allforio ac yn adeiladu ar y buddsoddiad rydym wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf. Nod y prosiect yw cynyddu ymgysylltiad uniongyrchol gyda defnyddwyr a hybu mwy o ymwybyddiaeth am Gymru ac ansawdd ein bwyd a diod. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn gydweithrediad rhwng ein swyddfeydd yn y rhanbarth, ein cynhyrchwyr a’r Clwstwr Allforio, a gweithio gyda phartner yn y farchnad.”

Mae Anglesey Sea Salt/Halen Môn yn un o frandiau mwyaf blaenllaw Cymru ac sydd yn cymryd rhan yn 'Cyrchfan: Dwyrain Canol'. Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Alison Lea-Wilson, “Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn hynod gymwynasgar wrth gefnogi allforwyr bwyd a diod Cymru. Ac mae’r ymgyrch ysgogi brand hon yn y Dwyrain Canol yn enghraifft arall o sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r sector. Hebddyn nhw, fydden ni ddim lle rydyn ni heddiw.”

Share this page

Print this page