Mae detholiad o gwmnïau bwyd a diod o Gymru yn mynd i Efrog Newydd i fynychu Sioe Summer Fancy Food 2022 y Gymdeithas Bwyd Arbenigol rhwng 12 a 14 Mehefin 2022.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd cynrychiolwyr o bedwar cwmni o Gymru yn mynychu Summer Fancy Food, y digwyddiad masnach bwyd arbenigol mwyaf yn America a’r brif arddangosfa o arloesi yn y diwydiant, a fydd yn dod â chynhyrchwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol gorau’r diwydiant bwyd arbenigol ynghyd o dan yr un to.

Ymhlith y cwmnïau Cymreig sy’n mynychu ac yn gobeithio chwilio am farchnadoedd newydd a chynyddu eu gwerthiant mae Princes Foods Ltd, Billington Group/The Easy Food Company, Tŷ Nant a Hufenfa De Arfon.

Mae llwyddiant tîm pêl-droed Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2022, lle byddan nhw’n chwarae yn erbyn UDA yn y camau grŵp, yn golygu bod y digwyddiad yn dod ar adeg amserol, lle gall cwmnïau Cymreig ddefnyddio hyn fel pwynt siarad allweddol gyda phrynwyr o’r Unol Daleithiau.

Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths: “Rydyn ni i gyd yn gwybod bod safon bwyd a diod Cymru gyda’r gorau yn y byd ac mae angen i ni sicrhau ei fod yn cael ei gydnabod yn iawn.

“Rydyn ni’n falch o gefnogi ein cynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig yn y digwyddiad byd-eang pwysig hwn, gan ailddatgan ein hymrwymiad i godi ein proffil rhyngwladol a chefnogi ein busnesau.

“Mae’n wych bod cwmnïau Cymreig yn cael y cyfle hwn i arddangos eu cynnyrch gwych yn yr Unol Daleithiau ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â’n ffrindiau Americanaidd yng Nghwpan Pêl-droed y Byd yn ddiweddarach eleni.”

Un o’r cwmnïau sy’n mynychu’r digwyddiad ac a fydd yn arddangos dau frand newydd o dan fusnes newydd ‘The Easy Food Company’ yw The Billington Group, sydd â chyfleuster gweithgynhyrchu bwyd yng Nghaerffili.

Dywedodd David Wilkinson, Cyfarwyddwr Busnes y Grŵp:

“Rydyn ni wedi creu dau frand mewn jariau gwydr. Y detholiad ‘Very Easy’ o gynhwysion wedi’u torri’n fân ar gyfer y gegin – Sinsir, Garlleg a Tsilis. A’r dewis ‘Glorious’ o sawsiau melys sy’n cynnwys Siocled Tywyll, Ceuled Lemwn, Caramel Hallt a Saws Mafon.

“Rydyn ni’n gobeithio ennill gwerthiant a momentwm i’r brand er mwyn allforio ein cynnyrch o Gymru i’r Unol Daleithiau ac rydyn ni’n gwerthfawrogi’r cyfle i arddangos o fewn ardal Llywodraeth Cymru.”

Bydd y cwmni dŵr mwyn naturiol potel o orllewin Cymru, Tŷ Nant, hefyd yn bresennol. Wedi’i leoli ar odre Mynyddoedd Cambria, mae’r ffynhonnell enwog o ddŵr mwyn naturiol wedi dod yn boblogaidd ledled y byd. Mae Tŷ Nant yn frand byd-eang adnabyddus sy’n cynhyrchu dŵr mwyn, dŵr ffynnon a dŵr tonig naturiol.

Dywedodd Bobby Nanua, Cyfarwyddwr Tŷ Nant:

“Ar hyn o bryd mae dŵr mwyn a dŵr ffynnon naturiol Tŷ Nant yn cael ei stocio mewn llawer o westai a sefydliadau bwyta cain mwyaf unigryw’r byd ac mae’n enwog yn rhyngwladol am ei ddyluniadau poteli arobryn a’i flas pur, glân ac adfywiol. Fodd bynnag, rydyn ni’n dal i gredu bod gwerth mawr mewn mynychu digwyddiadau fel Summer Fancy Food.

“Mae’n rhoi’r cyfle i ni gwrdd â phrynwyr o bob rhan o’r byd, gan ei gwneud hi’n bosibl cynyddu ein busnes rhyngwladol ymhellach a rhoi cyfle i gwrdd â rhai o’n cwsmeriaid byd-eang yn bersonol, tra’n hyrwyddo ansawdd y cynnyrch sy’n dod o Gymru.”

Cwmni Cymreig arall sy’n cymryd rhan yn y Sioe fel rhan o Ymweliad Allforio Bwyd a Diod Cymru ac sy’n gweld y digwyddiad yn gyfle gwych i rwydweithio ac arddangos eu cynnyrch yw Hufenfa De Arfon. Dywedodd Kirstie Jones o’r cwmni,

“Rwy’n gyffrous iawn am y daith i Efrog Newydd. Mae digwyddiadau fel y rhain yn wych i unrhyw fusnes, a gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru gallaf ymweld â dosbarthwyr a chyflenwyr a rhwydweithio gyda nhw. Mae cyfarfodydd eisoes wedi’u trefnu ac rwy’n gobeithio y bydd yr ymweliad hwn yn arwain at o leiaf un cyfle.”

Mae Summer Fancy Food yn ddigwyddiad tridiau sy’n rhoi cyfle i fusnesau bwyd a diod ddarganfod y tueddiadau diweddaraf a’r cynhyrchion gorau, gwneud cysylltiadau busnes allweddol a rhwydweithio gyda phrynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Bydd y digwyddiad yn cynnwys mwy na 180,000 o gynhyrchion, 25,000 o brynwyr a 2,500 o arddangoswyr.

Share this page

Print this page