Gyda llai na 50 diwrnod i fynd mae gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn cael eu hannog i sicrhau eu tocynnau ar gyfer BlasCymru/TasteWales 2023.

Mae’r digwyddiad blaenllaw deuddydd o hyd yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC Cymru) yng Nghasnewydd ar 25-26 Hydref, ac yn cael ei drefnu gan Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru o dan faner Bwyd a Diod Cymru.

Mae fersiynau blaenorol y digwyddiad masnach bwyd a diod pwysig hwn wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth ddod â gweithwyr proffesiynol blaenllaw’r diwydiant o bob rhan o’r byd at ei gilydd, i sicrhau bargeinion busnes a dysgu mwy am ddiwydiant bwyd a diod dilys, deinamig Cymru.

Bydd cymysgedd hybrid o seminarau, cyflwyniadau a thrafodaethau panel yn cael eu cynnal yn ystod y digwyddiad gan arweinwyr dylanwadol y diwydiant a gwesteion rhyngwladol. Bydd y seminarau hyn yn canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion ymarferol i rai o’r heriau hollbwysig sy’n wynebu’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru yn ystod y cyfnod cythryblus hwn. Mae rhaglen fanwl o'r digwyddiadau bellach ar gael ar y wefan.

Bydd cipolwg bach o'r themâu a drafodir yn cynnwys ffyrdd o wella cynhyrchiant, helpu i godi arian, arloesi mewn pecynnu, datblygu cynhyrchion bwyd cynaliadwy, rheoli gwastraff, a phwysigrwydd cynyddol bwydydd iachach a dietau yn y dyfodol mewn marchnad sy'n newid.

Ymysg y rhai sy’n cymryd rhan mae arbenigwyr dadansoddi ac arloesi o Kantar, IGD, Arloesi Bwyd Cymru ac AberInnovation. Prif siaradwr y diwydiant fydd Shelagh Hancock, Prif Weithredwr First Milk. Gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y sectorau cyflenwi bwyd ac amaethyddol, mae Shelagh yn gweld ethos First Milk yn cyd-fynd yn fawr â’r weledigaeth bwyd a diod yng Nghymru. Meddai, “Rwy’n falch iawn o fod wedi cael cais i roi’r prif gyflwyniad diwydiant yn BlasCymru/TasteWales 2023. Mae’n anrhydedd ac yn dyst i’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd gan First Milk a’n haelodau sy’n ffermwyr o bob rhan o’r wlad.

“Fel B Corp ardystiedig sydd wedi ymrwymo i ddefnyddio arferion adfywiol i sicrhau ein bod yn rym er daioni tra’n cynhyrchu bwyd blasus, maethlon, mae’n wych gweld ein cydweithwyr yng Nghymru yn gwneud ymrwymiadau tebyg, gan osod materion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd ac arloesedd wrth galon y digwyddiad. Rwy’n siŵr, trwy gydweithio, y gallwn greu diwydiant arloesol a gwydn sy’n gweithio er lles cenedlaethau’r dyfodol.”

Hefyd yn siarad bydd Donald Webb, Cyfarwyddwr Brookdale Consulting Ltd, a fydd yn mynegi ei farn ar y sefyllfa economaidd ehangach a’i goblygiadau i fusnesau bwyd a diod. Wrth wneud sylw cyn y digwyddiad dywedodd Donald, “Mae BlasCymru/TasteWales nid yn unig yn gyfle i arddangos cynnyrch Cymreig anhygoel a chwrdd â phrynwyr, ond mae hefyd yn gyfle i ddod oddi ar y llawr cynhyrchu i ehangu eich gorwelion gyda rhaglen lawn o seminarau a thrafodaethau.

“Fel rhan o fy nghyflwyniad byddaf yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd yn yr economi a marchnadoedd bwyd a diod allweddol a sut y gallai hyn effeithio ar fusnesau o fewn y diwydiant.”

Bydd y rhaglen seminarau hefyd yn amlinellu datrysiadau busnes go iawn wrth fabwysiadu Diwydiant 4.0, gyda siaradwyr o Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru a bydd yn rhannu sut y gall y sector ysgogi cyfnod newydd o arloesi a yrrir gan ddata wrth gynhyrchu Bwyd a Diod yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran AMRC Cymru, “Mae AMRC Cymru yn falch o fod yn bresennol yn nigwyddiad BlasCymru/TasteWales i ddangos y dechnoleg cost isel a all helpu busnesau i wella cynhyrchiant, lleihau carbon a gwella gwydnwch eu busnes ar adeg pan fo problemau costau a llafur yn peri cymaint o bryder yn y sector.

“Bydd y sector bwyd a diod yn gallu trafod atebion ymarferol gyda pheirianwyr arloesi a chael cyngor campus ar feysydd problemus busnes go iawn sydd wedi cael eu trafod gyda manwerthwyr mawr.

“Mae pwysigrwydd mynychu’r digwyddiad yn eithaf syml, os nad ydych chi’n ystyried cynhyrchiant uwch, costau is ac atebion gwirioneddol i gynaliadwyedd, a fydd eich busnes yn gallu ymateb i’ch cystadleuaeth a gwir ofynion eich cwsmeriaid?”

Thema digwyddiad eleni yw ‘Pwerus gyda’n gilydd: O her i lwyddiant. Rôl gwydnwch, arloesedd ac optimistiaeth’.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths AS: “Mae BlasCymru/TasteWales bob amser wedi bod yn llwyfan gwych i’n diwydiant bwyd a diod sy’n tyfu i arddangos eu cynnyrch o’r radd flaenaf. Mae hefyd yn rhoi cyfle pwysig i bawb yn y sector ddod at ei gilydd i drafod sut y gallant gwrdd â'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'u blaenau.

“Rwy’n siŵr y bydd digwyddiad eleni yn adeiladu ar lwyddiannau blaenorol ac rwy’n annog pawb sy’n gweithio yn y diwydiant bwyd a diod i fynychu achlysur sy’n sicr o fod yn wych.”

Yn ogystal â’r rhaglen seminarau, bydd cyfle i rwydweithio a chwrdd â gweithwyr proffesiynol y diwydiant mewn parthau thema, a fydd yn amlygu rhai o’r datblygiadau diweddaraf ym myd bwyd a diod, gan gynnwys cynaliadwyedd, masnach ryngwladol ac arloesi.

I ddarganfod mwy am y digwyddiad a’r rhaglen seminarau, yn ogystal â sicrhau eich tocyn, ewch i tastewales.com.

Share this page

Print this page