Bydd dros 100 o gynhyrchion bwyd a diod newydd yn cael eu lansio gan y diwydiant yn nigwyddiad masnach rhyngwladol BlasCymru/TasteWales a gynhelir cyn bo hir (Mawrth 20-21).

Cyrhaeddwyd y garreg filltir diolch yn rhannol i’r cynlluniau a wnaed gan Fwyd & Diod Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, megis eu Rhwydweithiau Clwstwr sy’n dod â busnesau o’r un anian at ei gilydd i rannu arfer gorau a datblygu syniadau newydd. Rhoddwyd hwb bellach i hyn trwy’r gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau newydd gan Cywain a rhaglen Prosiect HELIX sy’n canolbwyntio ar arloesi.

Mae’r cynhyrchion newydd fydd yn cael eu lansio yn amrywio’n fawr ac maent yn  cynnwys iogyrtiau newydd, cynnyrch pob a chynigion gweini bwyd a phecynnu cynnyrch newydd. Byddant yn rhannu’r llwyfan hwnnw gyda rhai o siaradwyr a meddylwyr bwyd amlycaf y byd fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad a’r gynhadledd sy’n rhan ohono, wrth i fwyd a diod o Gymru barhau i ddatblygu ei enw da ar y llwyfan rhyngwladol. Mae’r rhain yn cynnwys Claus Meyer, y cafodd ei fwyty Noma ei enwi’n fwyty gorau’r byd bedair gwaith.

Un o’r cwmnïau sy’n lansio cynhyrchion newydd yw’r busnes llysieuol a fegan arloesol, The Parsnipship Ltd. Wrth gyfeirio at eu cynlluniau, dywedodd y Cyfarwyddydd Flo Ticehurst: “Mae gennym bedair llinell newydd, dau fyrgyr llysieuol a dau fegan. Cawsom ein hysbrydoli i gychwyn ein busnes ar ôl blynyddoedd o gael ein siomi gan yr arlwy ddiflas oedd yn cael ei chynnig i lysieuwyr a feganiaid. Mae’r digwyddiad masnach hwn yn gyfle gwych i arddangos rhywfaint o gynhyrchion newydd yn ogystal â’n dewis cyffredinol.”

Wrth edrych ymlaen at BlasCymru/TasteWales ychwanegodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Gallwn weld yn glir fod y gefnogaeth ychwanegol a roddwyd yn y diwydiant bwyd a diod dros y blynyddoedd diwethaf, o’r Rhwydweithiau Clwstwr i arloesiadau bwyd a rhaglenni cychwyn busnes, yn parhau i helpu’r diwydiant i arwain y ffordd gyda chynhyrchion arloesol newydd. Wrth inni wynebu her Brexit mae’n bwysicach nac erioed ein bod yn cefnogi busnesau bwyd a diod o Gymru ymhob ffordd y gallwn a helpu sicrhau eu bod yn gynaliadwy i’r dyfodol.

“Mae llwyddo i lansio dros 100 o gynhyrchion newydd yn ystod y digwyddiad yn ddathliad ychwanegol o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig yn y farchnad gartref ac yn rhyngwladol.”

Ymhlith y cwmnïau eraill fydd yn bresennol yn lansio cynhyrchion newydd mae Radnor Hills, fydd yn lansio cyfres o Ddyfroedd Egni Naturiol, sy’n cynnwys dim siwgr a fitaminau B ychwanegol. Dywedodd William Watkins, Rheolwr Gyfarwyddwr Radnor Hills: “Roeddem eisiau creu’r dŵr egni eithaf sy’n cynnwys caffein naturiol ac sy’n anelu at roi chwistrelliad egni cyfleus i ddefnyddwyr heb y llwyth siwgr arswydus. Cynlluniwyd y gyfres yn benodol ar gyfer y sector cyfleustra, bachu a mynd trwy gynnig egni wrth symud, sy’n ddi siwgr ac yn cynnwys caffein natural. Rydym ni yn Radnor Hills yn gobeithio adnewyddu, adfywio a thorri syched y genedl mewn ffordd iachus, naturiol.”

Mae The Coconut Kitchen, cynhyrchwyr arobryn o sawsiau, marinadau a phastiau cyri Thai o’r iawn ryw yn lansio cyfres gweini bwyd ar gyfer pedwar o’u cynhyrchion fydd yn dod mewn caniau jeri 2.5 litr.

Meddai’r Cyfarwyddwr Paul Withington: “Cawsom lawer o geisiadau am gynnyrch gweini bwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a chan ein bod wedi gwerthu ein bwyty erbyn hyn, dyma benderfynu mai dyma’r amser i fynd i mewn i’r farchnad hon gyda dau o’n pastiau cyri a saws tro-ffrïo fegan mwyaf poblogaidd.”

Wrth i baratoadau Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru fynd rhagddynt yn hwylus, mae ffigyrau newydd yn dangos fod y BlasCymru/TasteWales cyntaf yn 2017 wedi cynhyrchu dros £14 miliwn o werthiannau a chontractau ychwanegol, ac mae gobaith gwirioneddol y ceir perfformiad gwell fyth y tro hwn.

Cyhoeddwyd y llynedd y cafodd un o gewri’r diwydiant, Princes, eu cyhoeddi’n brif noddwyr, a bod nifer o gwmnïau eraill yn cynnig eu cefnogaeth ar gyfer yr arddangosiad mwyaf o fwyd a diod o Gymru a drefnwyd erioed.

 

Share this page

Print this page