Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru yn mynd i Gaeredin y mis hwn i gymryd rhan yn Sioe Frenhinol yr Ucheldir, prif ddigwyddiad y calendr amaethyddol yn yr Alban.  A gyda 2022 yn nodi 200 mlynedd ers cynnal Sioe Frenhinol yr Ucheldir am y tro cyntaf yn 1822, mae’r digwyddiad yn argoeli i fod yn ddathliad gwych. 

Mae stondin fasnach Cymru’n rhan o’r prosiect “Cysylltiadau Celtaidd”, sy’n cael ei ariannu gan y Gronfa Datgarboneiddio ac Adfer Covid a lansiwyd gan Fwyd a Diod Cymru yn 2021.  Dan arweiniad bragdy Mŵs Piws o Borthmadog, mae 10 o gynhyrchwyr yn cydweithio i gynyddu ymwybyddiaeth defnyddwyr a masnachwyr o fwyd a diod o Gymru drwy Dreftadaeth Geltaidd a rennir.  Nod y prosiect yw manteisio ar y dreftadaeth Geltaidd a rennir rhwng Cymru, yr Alban, Iwerddon a Cumbria i greu cyfleoedd i arddangos bwyd a diod o Gymru i ddefnyddwyr a chwsmeriaid masnach fel cyfanwerthwyr a dosbarthwyr. 

Dywedodd Ceri Owen o Mŵs Piws, “Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni’n arwain y prosiect Celtic Connections ac yn mynd i’r gogledd i gymryd rhan yn Larder Live! yn Sioe Frenhinol yr Ucheldir.  Rydyn ni’n awyddus i ehangu ein dosbarthiad i ogledd Lloegr a’r Alban ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddangos ein cynnyrch Cymreig gwych i bobl yr Alban.”

Dywedodd Lesley Griffiths y Trefnydd â’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru: “Rydw i wrth fy modd y bydd ein cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn cael cyfle i gymryd rhan yn Sioe Frenhinol yr Ucheldir, yn enwedig wrth i Gymdeithas Amaethyddol ac Ucheldir Frenhinol yr Alban ddathlu ei phen-blwydd yn 200 oed.

“Mae gan Gymru a’r Alban lawer yn gyffredin, gan gynnwys ein treftadaeth Geltaidd a’n diwylliant a’n hiaith unigryw, a hoffwn ddymuno sioe lwyddiannus iawn i’r cynhyrchwyr wrth iddyn nhw ddatblygu cysylltiadau newydd â’n cyfeillion yn yr Alban.”

Y 10 o gynhyrchwr sy’n cymryd rhan ym mhrosiect y Cysylltiadau Celtaidd yw:

  • Mŵs Piws
  • Cwm Farm
  • Samosaco
  • Mêl Hilltop
  • Tregroes Waffles
  • Radnor Preserves
  • Dà Mhìle
  • Daffodil Foods
  • Caws Teifi
  • Coaltown Coffee

Dywedodd Bill Gray, Cadeirydd Sioe Frenhinol yr Ucheldir a Chymdeithas Amaethyddol yr Alban, “Dyma’r tro cyntaf i ni gael stondin fasnach o Gymru yn Larder Live! ac rydyn ni’n arbennig o falch o groesawu Cymru i’r sioe arbennig hon sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 200 oed.  Fel yr Alban, mae gan Gymru enw rhagorol am fwyd a diod o safon, sydd wedi’i wreiddio mewn traddodiad ac sy’n croesawu arloesedd ar yr un pryd.  Rydw i’n edrych ymlaen at flasu’r bwyd a diod o Gymru a gobeithio y bydd y cynhyrchwyr yn mwynhau eu profiad yn Sioe Frenhinol yr Alban.” 

Share this page

Print this page