• Mae gweithwyr bwyd proffesiynol o bob rhan o'r byd yn mynychu sioe fawreddog masnach bwyd a diod deuddydd yn yr ICCW, Casnewydd
  • Mae cynhyrchion newydd yn cael eu lansio gan gynhyrchwyr Cymreig blaenllaw, yn yr hyn y disgwylir iddo arwain at filiynau o bunnoedd o werthiant
  • Hefyd yn cael eu lansio eleni mae cynhyrchion sy’n gysylltiedig ag enwogion Cymru, megis Katherine Jenkins, Alun Wyn Jones, Mike Phillips, James Hook, Shane Williams, Lee Byrne a Richard Hibbard

Bydd mwy na 200 o gynhyrchion bwyd a diod newydd gan fusnesau Cymreig yn cael eu harddangos yn BlasCymru/TasteWales, mae Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig Gogledd Cymru a’r Trefnydd Lesley Griffiths wedi cyhoeddi.

Digwyddiad eleni, a drefnir gan Bwyd a Diod Cymru (Llywodraeth Cymru) ac a gynhelir bob yn ail flwyddyn, fydd y pedwerydd digwyddiad masnach bwyd a diod rhyngwladol i gwmnïau Cymreig. Gyda miloedd o gyfarfodydd a channoedd o weithwyr proffesiynol y diwydiant o bob rhan o'r byd, mae disgwyl i'r digwyddiad arwain at werth miliynau o bunnoedd i gynhyrchwyr.

Mae digwyddiad eleni yn cynnwys rhai o enwogion mwyaf blaenllaw Cymru, sydd wedi ehangu i ddiwydiant bwyd a diod genedl sy’n tyfu. Mae’r rhain yn cynnwys diod newydd gan gwmni jin Cygnet y gantores Katherine Jenkins.

Yn y cyfamser, bydd digon o gyn-sêr rygbi Cymru hefyd yn cael eu cynrychioli gyda ‘Mimosa Rum Espiritu’ Alun Wyn Jones a rỳm ceirios du sbeislyd Richard Hibbard. Yn y cyfamser, bydd cwmni coffi Fab Four Mike Phillips, James Hook, Shane Williams a Lee Byrne yn lansio eu coffi ‘Grand Slam’ newydd.

Fodd bynnag, mae’r digwyddiad yn ymwneud â llawer mwy nag enwogion, gyda dros ddau gant o gynhyrchion newydd yn adlewyrchu blasau amrywiol byd coginio arloesol Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys byrgyrs figan, te pefriog, cig carw sych, mêl blodyn yr haul Wcreinaidd, sos coch garlleg du, picls oergell ciwcymbr a llawer mwy.

Mae’r arlwy amrywiol yn rhannol oherwydd mentrau a roddwyd ar waith gan Bwyd a Diod Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, megis eu dull Rhwydwaith Clwstwr sy’n dod â busnesau o’r un anian ynghyd i rannu arfer gorau a datblygu syniadau newydd. Mae hyn wedi’i hybu ymhellach gan y cymorth sydd ar gael i fusnesau newydd drwy Cywain a’r rhaglen Arloesi Bwyd Cymru sy’n canolbwyntio ar arloesi.

Un o’r cwmnïau fydd yn y digwyddiad yw Puffin Produce, sy’n arddangos eu ‘Root Zero Baby Potatoes’ carbon niwtral. Meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr Huw Thomas, “Rydyn ni’n ddiolchgar i BlasCymru/TasteWales, sy’n rhoi llwyfan heb ei ail i gwmnïau bwyd a diod o Gymru arddangos eu cynnyrch i’r byd.

“Mae cymaint o waith da yn digwydd yng Nghymru ac mae ond yn iawn bod y byd yn eistedd i fyny ac yn cymryd sylw. Yn Puffin, rydyn ni’n hynod falch o’r gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud dros y ddegawd ddiwethaf gyda’n tyfwyr, gan gynnwys cyflwyno Cynllun Rheoli Carbon Ffermydd Puffin, sy’n ein galluogi i addasu ein harferion ffermio a chydweithio i fynd i’r afael â’r materion rydyn ni i gyd yn eu hwynebu ynghylch newid hinsawdd.

“Mae’r argyfwng hinsawdd yn fater sy’n bwysig i ni, ac mae hynny’n cael ei atgyfnerthu gan ein targedau uchelgeisiol ar draws y busnes, yn fwy diweddar SBTi a’r targedau 2040 Sero Net rydyn ni wedi’u cyflwyno. Rwy’n gwybod bod hyn yn rhywbeth sy’n cael ei gymryd o ddifri gan ddiwydiant bwyd a diod Cymru yn eang, wrth i ni weithio gyda’n gilydd i greu cadwyn gyflenwi sy’n fwy ecogyfeillgar.”

Mae ffigurau a ryddhawyd dros yr haf yn dangos bod allforion bwyd a diod o Gymru i farchnadoedd newydd a phresennol wedi tyfu yng Nghymru yn gyflymach na gweddill y DU, gyda Llywodraeth Cymru yn targedu mwy o farchnadoedd newydd i alluogi’r diwydiant i ffynnu.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths: “Rwy’n falch o’n diwydiant bwyd a diod amrywiol, sy’n parhau i fynd o nerth i nerth.

“Mae’n wych gweld mwy a mwy o bobl o bob rhan o’r byd yn mwynhau bwyd a diod o Gymru gydag allforion rhwng 2020 a 2022 wedi cynyddu 44% o gymharu ag 16% ar gyfer y DU yn gyffredinol.

“Bydd mwy na 200 o gynhyrchion bwyd a diod newydd sy’n cael eu gwneud yng Nghymru yn cael eu harddangos yn BlasCymru/TasteWales eleni sy’n dyst i’r arloesedd, yr ymrwymiad a’r awydd y mae busnesau Cymreig yn ei ddangos o hyd. Mae gennym stori gref i’w hadrodd a chynhyrchion o’r radd flaenaf i’w gwerthu.”

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiad BlasCymru/TasteWales eleni ewch i: https://www.tastewales.com/ 

Share this page

Print this page