Fe wnaeth cynhyrchwyr o Gymru mwynhau llwyddiant yn seremoni fawreddog Gwobrau Bwyd a Ffermio’r BBC, a gynhaliwyd yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd ar 25ain Hydref 2023.

Roedd yr enillwyr yn cynnwys y cynhyrchydd caws ac iogwrt o’r gogledd, Cosyn Cymru, a gipiodd brif wobr y noson, gan ennill gwobr ‘Cynhyrchydd Bwyd Gorau’ y DU.

Yr enillwyr eraill o Gymru oedd caffi Maasi’s Caerdydd, a gafodd ei enwi’n ‘Bwyd Stryd, Tecawê neu Fwyty Bach Gorau’ yn y DU. Yn y cyfamser, curodd Peterston Tea o Fro Morgannwg gystadleuaeth frwd gan ei gyd-gynhyrchwyr Cymreig, Pembrokeshire Lamb a Velfrey Vineyard, i ennill gwobr ‘Cynhyrchydd Bwyd a Diod Gorau Cymru gyda BBC Cymru Wales’.

Datganiad cenhadaeth Gwobrau Bwyd a Ffermio’r BBC, ers ei sefydlu yn 2000, yw “anrhydeddu’r rhai sydd wedi gwneud y mwyaf i hyrwyddo achos bwyd da”, ac mae’r enillwyr o Gymru wedi profi bod ganddyn nhw’r hyn sydd ei angen i ddisgleirio ymhlith gweddill y DU.

Cafodd y gwobrau eu beirniadu a’u cyflwyno gan gyflwynwyr yn cynnwys Thomasina Miers, cogydd, cyflwynydd teledu a chyd-sylfaenydd y gadwyn Wahaca o fwytai Mecsicanaidd, Jaega Wise a Dan Saladino o The Food Programme ar Radio 4, y cyflwynydd bwyd Leyla Kazim a’r ffermwr enwog Will Young. Dywedodd Sheila Dillon, Cyflwynydd The Food Programme, “Mae Gwobrau Bwyd a Ffermio’r BBC yn falch iawn o fod yn dathlu eleni yng Nghymru. Yn enwedig ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ffermio a bwyd o fewn ei ffiniau’n fodel ar gyfer gweddill y DU.”

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo, oedd yn dychwelyd i Gymru am yr eildro yn ei hanes 23 mlynedd, ochr yn ochr â digwyddiad masnach bwyd a diod blaenllaw Llywodraeth Cymru, BlasCymru/TasteWales, sydd hefyd yn cael ei gynnal yn yr un lleoliad.

Wedi’i drefnu gan Bwyd a Diod Cymru, mae cannoedd o weithwyr proffesiynol y diwydiant o bob rhan o’r byd wedi ymgasglu ar gyfer pedwerydd rhifyn y digwyddiad, sy’n cynnwys dau gant o gynhyrchion bwyd a diod newydd o Gymru yn cael eu lansio yn yr hyn y disgwylir iddo fod yn hwb gwerth miliynau o bunnoedd mewn gwerthiant i gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru.

Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, y Gogledd a’r Trefnydd, Lesley Griffiths: “Llongyfarchiadau i Cosyn Cymru, Maasi’s Café a Peterston Tea ar eu llwyddiant yng Ngwobrau Bwyd a Ffermio’r BBC.

“Mae eu hymrwymiad i gynhyrchu cynnyrch o ansawdd uchel yn glir ac rwy’n falch bod hyn wedi’i gydnabod yn iawn.

“Rwy’n falch o waith caled pob un o’n busnesau bwyd a diod Cymreig ac mae eu hawydd i lwyddo yn gweld y diwydiant yn parhau i fynd o nerth i nerth.”

Enillwyr Cymru oedd:

Cynhyrchydd Bwyd Gorau: Cosyn Cymru (Gogledd Cymru)

Wedi’i hysbrydoli gan amrywiaeth o wneuthurwyr caws meistrolgar, mae Carrie Rimes yn gwneud cynhyrchion llaeth ei mamogiaid â llaw mewn sypiau bach gyda chynhwysion naturiol, gan ddefnyddio dulliau traddodiadol.

Gan arbenigo mewn caws ac iogwrt hufennog o laeth mamogiaid heb ei basteureiddio i amlygu rhinweddau gorau'r llaeth, mae'r holl gynhyrchion yn cael eu gwneud â llaw mewn sypiau bach gan ddefnyddio cynhwysion naturiol, dulliau traddodiadol, a digon o amynedd.

Wrth siarad am ei llawenydd wrth ennill y brif wobr, dywedodd Carrie Rimes, “Rydw i wrth fy modd fy mod wedi cael fy enwi fel ‘Cynhyrchydd Bwyd Gorau’ y DU yng Ngwobrau Bwyd a Ffermio’r BBC. Mae’n anrhydedd anhygoel, ac yn adlewyrchiad gwych o’r diwydiant bwyd a diod ffantastig sydd gennyn ni yng Nghymru.

“Mae cynhyrchu caws ac iogwrt o safon yn destun angerdd i mi, ac mae gweld y gwaith caled yn cael ei wobrwyo gyda gwobr mor fawreddog yn deimlad braf. Rwy’n ddiolchgar i fod yn rhan o sîn fwyd mor fywiog yng Nghymru, ac i fod wedi elwa o weithio’n agos gydag eraill ar draws y diwydiant i’n helpu i ffynnu a llwyddo.”

Y Bwyd Stryd, Tecawê neu Fwyty Bach Gorau: Maasi’s (Caerdydd)

Bwyd Pacistanaidd ffres a blasus wedi'i goginio gyda chynhwysion ffres gyda thîm o ferched yn unig. Dechreuwyd Maasi's, sy'n golygu ‘modryb’ yn Pwnjabi gan Sabrina Khan pan ddaeth ei bwyd yn boblogaidd yn ystod y cyfnod clo.

Meddai’r perchennog, Sabrina Khan, “Rydw i wrth fy modd yn coginio ac wrth fy modd â bwyd felly rwy’n ddiolchgar o fod wedi cael y cyfle i fyw fy angerdd, ac mae ennill gwobrau fel y rhain yn goron ar y cyfan.

“Dechreuon ni gyda thîm o ferched yn unig gyda’r nod o ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fenywod i roi cynnig ar weithio mewn cegin broffesiynol, ac i roi llais i’r rhai nad ydynt yn cael eu cynrychioli ac sy’n cael eu hymyleiddio. Mae’r wobr yn dyst i’w gwaith caled a’u dawn anhygoel, ac ni allwn fod yn fwy balch.”

Gwobr Cynhyrchydd Bwyd a Diod Gorau Cymru gyda BBC Cymru Wales: Peterston Tea (Bro Morgannwg)

Mae Peterson Tea yn tyfu te dail rhydd ystâd sengl arbenigol, wedi'i ddewis â llaw a'i brosesu ym Mro Morgannwg.

Dywedodd Lucy George o Peterston Tea, “Ar ôl dechrau tyfu te ar ein fferm deuluol yn gynnar yn 2015, fydden ni byth wedi rhagweld bod lle rydyn ni nawr ac ennill gwobr mor fawreddog.

“Mae’r hyn sydd wedi dechrau fel prosiect bach wedi tyfu i fod yn llawer mwy ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cael ein henwi fel y cynhyrchydd bwyd a diod gorau yng Nghymru. Mae cymaint o waith da a chynnyrch arloesol yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru, ac rydyn ni’n falch o fod yn rhan o sîn mor fywiog.”

Share this page

Print this page