Mae un o wirodydd mwyaf poblogaidd Cymru, y Wisgi Cymreig Brag Sengl, bellach wedi'i ddiogelu'n swyddogol ar ôl iddo sicrhau statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig y DU.

Dyma'r gwirod newydd cyntaf yn y DU i ennill statws Dynodiad Daearyddol ers lansio Dynodiad Daearyddol y DU a dyma hefyd wirod Dynodiad Daearyddol cyntaf Cymru.

Wisgi Cymreig Brag Sengl bellach yw'r 20fed aelod o deulu cynhyrchion Dynodiad Daearyddol Cymru, gan ymuno â chynnyrch gwych eraill fel Enw Tarddiad Gwarchodedig Halen Môr Môn, Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Cig Oen Cymru, Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Cig Eidion Cymru a Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Cennin Cymru. 

Sefydlwyd cynllun Dynodiad Daearyddol y DU ar ddechrau 2021, ar ôl i'r DU ymadael â'r UE, ac mae'n sicrhau y gall rhai cynhyrchion bwyd a diod barhau i gael eu gwarchod yn gyfreithiol rhag eu dynwared a’u camddefnyddio.

Mae diwydiant wisgi Cymru wedi ehangu'n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ers adfywio ac ail-lansio 'Wisgi Cymreig Brag Sengl' gan ddistyllfa Penderyn ar 1 Mawrth 2004 ac mae'r galw am 'Wisgi Cymreig Brag Sengl' yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.

Mae'r cynnydd yn nifer y cynhyrchwyr Wisgi yng Nghymru wedi arwain at gasgliad o bedair distyllfa yng Nghymru yn rhan o'r cais terfynol am statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig - Penderyn, In the Welsh Wind, Da Mhile, a Coles.

Meddai Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd, Lesley Griffiths: "Mae'n newyddion gwych bod Wisgi Cymreig Brag Sengl wedi ymuno â theulu Dynodiad Daearyddol Cymru gyda'i enw bellach wedi'i ddiogelu.

"Mae'r diwydiant wisgi yng Nghymru yn parhau i fynd o nerth i nerth, gan chwarae rhan bwysig yn y sector bwyd a diod yma yng Nghymru.

"Rwy'n falch iawn dros bawb sy'n ymwneud â chael y statws pwysig hwn gan sicrhau bod y cynnyrch gwych hwn yn ennill y gydnabyddiaeth a'r bri y mae'n ei haeddu."

Meddai Stephen Davies, Prif Weithredwr Penderyn: 'Mae cael statws Dynodiad Daearyddol y DU ar gyfer Wisgi Cymreig Brag Sengl yn garreg filltir arwyddocaol i Benderyn fel cynhyrchydd, a hefyd i'r diwydiant wisgi ehangach yng Nghymru.  Mae'n helpu i ddiogelu ansawdd y cynnyrch a hefyd ei ffynhonnell wreiddiol.

"Mae'n gam cyffrous ymlaen ac yn un sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant sydd wedi tyfu'n gyson dros yr 20 mlynedd diwethaf."

Mae Wisgi Cymreig Brag Sengl yn gwneud cyfraniad sylweddol i economi bwyd a diod Cymru ac erbyn hyn mae'n un o allforion mwyaf dylanwadol Cymru, sy'n cael ei allforio i dros 45 o wledydd ar hyn o bryd. 

Rhagwelir y bydd yn cynhyrchu refeniw o £23 miliwn yn y flwyddyn ariannol bresennol gan gynnwys gwerthiannau domestig, allforio a manwerthu teithio.

Mae Wisgi Cymreig Brag Sengl yn cyfuno treftadaeth hir cynhyrchu wisgi gydag ymagwedd arloesol at ddistyllu, gan gynnig ystod eang o flasau ac arddulliau. Mae cynhyrchu wisgi Cymreig hefyd yn bwysig i dwristiaeth gyda'r holl ddistyllfeydd presennol yng Nghymru ar agor fel atyniadau i dwristiaid.

Share this page

Print this page