Mae Cwmni Halen Môn wedi ennill statws B Corp ar ôl dangos y safonau cymdeithasol ac amgylcheddol uchaf.

Mae'r ardystiad yn golygu y bydd y busnes o’r gogledd, sy'n creu amrywiaeth o gynhyrchion halen môr sydd wedi'u hidlo'n naturiol ac sydd wedi ennill gwobrau, yn ymuno â grŵp cynyddol o 29 o gwmnïau yng Nghymru sydd eisoes wedi ennill yr achrediad.

Mae cymuned gynyddol B Corp yn fusnesau sy'n bodloni'r safonau uchaf o berfformiad cymdeithasol ac amgylcheddol wedi'i ddilysu, tryloywder cyhoeddus, ac atebolrwydd cyfreithiol i gydbwyso elw a phwrpas. Maent yn amrywio o gorfforaethau rhyngwladol i is-gwmnïau sy'n eiddo llwyr a busnesau bach.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr a’r cyd-sylfaenydd, Alison Lea-Wilson,

“Mae Halen Môn wastad wedi rhoi’r amgylchedd wrth ei galon, wedi’r cyfan, rydyn ni’n dibynnu ar foroedd glân am ein prif gynhwysyn. Mae hwn yn ardystiad diamwys a thrylwyr. Mae wedi gwneud inni edrych ar bob agwedd ar ein busnes, nawr ac yn y dyfodol.

“Mae wedi dangos i ni faint mwy sydd i’w wneud. Nid yw’n rhywbeth rydych chi’n ei ‘gael’ ac yna’n ei roi o’r neilltu. Mae’n rhywbeth sy’n sail i bopeth a wnawn. Mae’n eistedd yn falch ochr yn ochr â’n hachrediad diogelwch bwyd BRC Gradd AA, a’n statws Dynodiad Tarddiad Gwarchodedig (PDO).

“Rwy’n falch o’r hyn mae Halen Môn wedi’i gyflawni ac yn ddiolchgar i fy nhîm.”

Wedi’i sefydlu ym 1997 gan Alison a David Lea-Wilson, mae’r cwmni’n parhau i fod yn eiddo i deulu ac wedi llwyddo i ddatblygu a chynnal busnes cynaliadwy, llwyddiannus sy’n cyflogi pobl leol, wedi’i seilio ar egwyddorion amgylcheddol ac addysgol tra hefyd yn denu twristiaid i ardal wledig, arfordirol o Gymru. Maent yn hyrwyddo eu staff ac wedi ymrwymo i dalu mwy na’r Cyflog Byw a darparu cymorth proffesiynol, cymdeithasol a lles. Mae eu diwylliant busnes yn bwysig iawn iddynt.

Mae Halen Môn wedi ymrwymo i yrru’r busnes yn ei flaen tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy wrth iddynt symud yn nes at eu hamcan o sero i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn drwy gymhwyso egwyddorion ‘Lleihau, Ailddefnyddio ac Ailgylchu’ i bob gwastraff a chyd-gynnyrch.

Dywedodd Alison hefyd,

“Nid tystysgrif yn unig yw B Corp, mae’n cydnabod diwylliant ac ethos pwy ydym ni. Mae wedi cymryd deng mis i fynd drwy’r broses wirio drylwyr, sy’n cwmpasu llywodraethu, cynaliadwyedd, sut rydyn ni’n cefnogi ein staff a’n cymuned.

“Mae B Corp yn rhaglen o welliant parhaus ac er mwyn cynnal yr ardystiad mae’n rhaid i ni barhau i wella ac rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i hynny.

“Wrth ennill y dystysgrif hon hoffwn hefyd dalu teyrnged i’n Rheolwr Cyffredinol, Beth Tasker a dreuliodd oriau’n paratoi’r cais, ac i Glwstwr Cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yno ers y diwrnod cyntaf i gael cymorth a chefnogaeth drwy’r broses.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Clwstwr i ledaenu’r gair i gynhyrchwyr eraill fel y gall Cymru ddangos màs critigol o fusnesau B Corp ardystiedig sy’n adlewyrchu gwerthoedd ac ethos ein cenedl.”

Rôl Clwstwr Cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru yw cefnogi a datblygu arferion busnes cynaliadwy ar draws diwydiant bwyd-amaeth Cymru. Cyflawnir hyn drwy ddefnyddio’r dull helics triphlyg llwyddiannus, gyda’r llywodraeth, y diwydiant a’r byd academaidd yn gweithio law yn llaw i fynd i’r afael â phroblemau cyffredin yn y diwydiant. Y Clwstwr yw’r canolbwynt canolog, sy’n darparu gwybodaeth i fusnesau, gan ddod yn llygaid a chlustiau i’r diwydiant trwy ddatblygu rhwydweithiau ac arbenigedd yn y diwydiant i helpu Cymru i ddod yn arweinydd byd ym maes cynaliadwyedd.

Dywedodd Lauren Smith, Rheolwr Clwstwr yn Levercliff sy’n hwyluso’r Clwstwr Cynaliadwyedd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Mae wedi bod yn wych cefnogi Halen Môn ar eu taith B Corp. Gall fod yn broses frawychus, ond mae tîm Halen Môn wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol a thrwy weithio gyda’r Clwstwr, rydym wedi cyflymu eu cynnydd a’i gwneud yn dasg llawer llai brawychus. Mae cymorth un-i-un ar gael i holl fusnesau bwyd a diod Cymru sydd eisiau ardystio fel B Corp, drwy’r Clwstwr Cynaliadwyedd, ac edrychwn ymlaen at dyfu’r gymuned yng Nghymru.”

Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:

“Hoffwn longyfarch Halen Môn. Mae dod yn B Corp ardystiedig yn dyst i waith caled ac ymrwymiad hirdymor y busnes.

“Rydym wedi ymrwymo i helpu busnesau bwyd a diod Cymru i ganolbwyntio ar dwf cynaliadwy a chynhyrchiant, eu heffaith hinsawdd ac ecolegol yn ogystal â gwaith teg a chodi safonau ar draws y diwydiant. Rydym eisiau i Gymru fod yn un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd yn ogystal â pharhau i fod ag enw byd-eang am ragoriaeth.”

I gael rhagor o wybodaeth am Glwstwr Cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru, cysylltwch â Mark Grant yn mark.grant@levercliff.co.uk.

Share this page

Print this page