Daw’r newydd ar ail ddiwrnod y digwyddiad bwyd a diod mawr sy’n dychwelyd yng Nghymru, BlasCymru/TasteWales, a gynhelir yng Nghasnewydd.

Menter Cymru gyfan yw Prosiect HELIX, a ddechreuodd yn 2016, sy’n cael ei gyflwyno gan Arloesi Bwyd Cymru, sef partneriaeth o dair canolfan bwyd yn Ynys Môn, Ceredigion a Chaerdydd.

Mae’n cefnogi cwmnïau Cymru i ddatblygu cynhyrchion arloesol o gamau’r cysyniadau, dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu, hyd at fasged siopa’r cwsmer, gan helpu busnesau i dyfu a ffynnu.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf mae’r prosiect wedi cael effaith economaidd o £186.5 miliwn ar fusnesau bwyd a diod yng Nghymru, gan helpu i greu 447 o swyddi ac diogelu 2,306 arall.

Cefnogwyd mwy na 380 o fusnesau a 943 o unigolion ledled Cymru ac mae 228 ohonynt yn fusnesau newydd. Mae wedi gweld 2,240 o gynhyrchion newydd yn cael eu datblygu ac wedi helpu cynhyrchwyr i gael mynediad at 778 o farchnadoedd newydd.

Gan gefnogi’r diwydiant bwyd a diod drwy flwyddyn sydd wedi bod yn un andros o heriol i’r sector, mae Arloesi Bwyd Cymru wedi bod yn allweddol o ran uwchsgilio gweithlu Cymru ac mae wedi cefnogi datblygiad cynhyrchion newydd sy’n seiliedig ar blanhigion ac sy’n iachach. Mae hefyd wedi rhoi cwmnïau mewn sefyllfa fwy cynaliadwy drwy leihau gwastraff, gwella effeithlonrwydd a datblygu cynhyrchion newydd.

Gwnaeth y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, ymweld â’r Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni yn ystod yr haf i glywed mwy am brosiect HELIX. Mae’r cyfleuster yn helpu cwmnïau i weithgynhyrchu cynhyrchion ar raddfa beilot er mwyn denu manwerthwyr i’w prynu cyn buddsoddi mewn offer. Mae hefyd yn cael budd o ystafell dadansoddi synhwyraidd a labordy llawn offer.

Dywedodd y Gweinidog:

Mae llwyddiant Prosiect HELIX yn dangos pwysigrwydd cydweithrediad rhwng academyddion, arbenigwyr y diwydiant, y llywodraeth a chynhyrchwyr i hybu arloesedd, creu swyddi, meithrin sgiliau a lansio busnesau newydd.

Wrth i ni adfer o’r pandemig ac wynebu’r heriau parhaus o ran newid yn yr hinsawdd, bydd y gallu i fod yn arloesol a bachu ar gyfleoedd newydd yn bwysicach nag erioed o’r blaen i’n busnesau bwyd a diod yng Nghymru.

Rwy’n annog cynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr ledled Cymru i ystyried pa gymorth sydd ar gael drwy Brosiect HELIX a sut gall eu busnesau fanteisio ar ei arbenigedd o’r radd flaenaf a’i gyfleusterau technegol uwch”.

Un enghraifft o fusnes yn llwyddo drwy Brosiect HELIX yw Authentic Curries and Wold Foods yn Aberdâr. Mae’r busnes yn cynhyrchu amrywiaeth o brydau parod gan ddefnyddio dulliau coginio bwyd cartref ar gyfer manwerthwyr, bwytai, tafarndai, awdurdodau lleol a chadwyni caffis archfarchnadoedd mawr.

Drwy’r Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yng Nghaerdydd, maen nhw wedi cael cymorth technegol mewn meysydd megis archwiliadau mewnol i fodloni safonau Diogelwch Bwyd BRCGS a diogelwch bwyd sylfaenol. Ar ôl i’r cwmni gael ei dystysgrif Diogelwch Bwyd BRCGS mae wedi llwyddo cadarnhau dau gwsmer ychwanegol, lansio 15 cynnyrch newydd a chadw gwerthiannau o dros hanner miliwn o bunnoedd.

Dywedodd Paul Trotman, rheolwr gyfarwyddwr Authentic Curries:

Rydym wedi manteisio’n barhaus ar y gefnogaeth a gawsom gan ZERO2FIVE. Mae cael arbenigedd allanol yn dod i mewn ac yn ein harchwilio wrth i ni baratoi ar gyfer BRCGS wedi bod yn amhrisiadwy. Mae’r holl gydweithredu rydym wedi’i wneud â Phrifysgol Met Caerdydd wedi bod yn wych ac mae’n ein helpu i gynnal pethau’n ddiffwdan.

Dywedodd yr Athro David Lloyd, ar ran Arloesi Bwyd Cymru:

Mae Brexit a phandemig COVID-19 wedi codi cwestiynau pwysig ynglŷn â diogelwch bwyd a’r sgiliau sydd ar gael. Hefyd, mae’r cynnydd mewn ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd y mae ein planed yn ei wynebu a’r straen y mae clefydau sy'n gysylltiedig â deiet yn ei chael ar ein cymunedau wedi peri i ni gymryd fwy o sylw o’r bwyd rydym yn ei fwyta ac o le mae’n dod.

Er bod y cwestiynau hyn yn cyflwyno heriau sylfaenol i faes gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru, gallant hefyd gynnig cyfleoedd i Gymru fod ar flaen y gad o ran newid cadarnhaol. Gallwn arwain y ffordd ym maes cynaliadwyedd, datblygu sgiliau, a chanolbwyntio ar gynnyrch lleol a’r gwaith o hyrwyddo deietau iachach.

Dyma ble mae Arloesi Bwyd Cymru yn chwarae rôl allweddol. Gyda’n hamrywiaeth o arbenigedd technegol, gweithredol a masnachol ar draws Cymru gyfan, gallwn gefnogi gweithgynhyrchwyr bwyd a diod Cymru i arloesi ac i wrthsefyll yr heriau sydd o’n blaenau,

meddai.

Share this page

Print this page