Er mai dim ond chwe mis yn ôl y cafodd ei ryddhau, mae'r llyfr ryseitiau o wahanol wledydd sy'n dathlu amrywiaeth bwyd yng nghymuned Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) Cymru, 'The Melting Pot' gan Maggie Ogunbanwo, wedi'i enwebu ar gyfer Gwobr fawreddog Gourmand World Cookbook yn y categori mudwyr ar gyfer 2022.

Sefydlwyd Gwobrau Gourmand World Cookbook yn 1995 gan Edouard Cointreau o Sbaen, i anrhydeddu’r llyfrau bwyd a gwin gorau, mewn print neu’n ddigidol, yn ogystal â rhaglenni teledu bwyd ac maen nhw wedi cael eu cymharu ag Oscars y genre llenyddiaeth fwyd.

Ymhlith cyn-enillwyr y DU mae llu o gogyddion adnabyddus fel Nigella Lawson a Raymond Blanc, a’r cewri corfforaethol Marks & Spencer.

Syniad Maggie Ogunbanwo yw 'The Melting Pot'; mae ei gwreiddiau yn Nigeria, ond mae’n byw yng ngogledd Cymru, ac yn rhedeg busnes o'r enw 'Maggie's An African Twist to your Everyday Dish', yn creu cynhyrchion bwyd o Affrica, fel sbeisys a sawsiau.

Wrth siarad am ei llyfr dywedodd Maggie, “Mae’r llyfr yn ddathliad o’r ryseitiau amrywiol a gyfrannwyd gan aelodau o’r gymuned leiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Mae'r ryseitiau'n dwyn ynghyd flasau, ysbrydoliaeth a thraddodiadau o Bali i Zimbabwe a'r straeon cyfoethog y tu ôl i bob pryd, gan gydnabod bwyd fel iaith fyd-eang y gallwn ni i gyd gyfathrebu a rhannu drwyddi."

Wrth i'r newyddion am yr enwebiad ddechrau gwneud argraff, ychwanegodd, “Wel, alla i ddim credu’r peth, rydw i wedi cael sioc enfawr ac yn teimlo gwir anrhydedd o gael fy enwebu, ac i fod ymhlith y llyfrau coginio gorau yn y byd, mae'n wirioneddol anhygoel!

“Ar hyn o bryd mae fy llyfr yn yr arddangosfa glodwiw yn Amgueddfa Alfred Nobel yn Karlskoga, Sweden, a drefnwyd gan y Gwobrau Gourmand a Sefydliad Ymchwil Cynaliadwyedd Hallbars. Nesaf, rydw i'n mynd i Ffair Lyfrau Coginio Paris ym mis Rhagfyr ac yna byddaf yn mynychu Gwobrau Gourmand Cookbook 2022 y gwanwyn nesaf ym Mharis. Mae fy mreuddwyd wedi’i gwireddu.

“Hoffwn ddiolch i Is-adran Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru am eu ffydd a’u cymorth gyda’r llyfr. Ni fyddai wedi bod yn bosibl hebddyn nhw.”

Lansiwyd y llyfr coginio gan Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, mewn lansiad llyfr rhithwir ym mis Mawrth eleni. Dywedodd y Gweinidog:

“Rwy’n falch iawn bod ‘The Melting Pot’ wedi cael ei enwebu am wobr mor fawreddog. Gyda sawl enillydd gwych yn y gorffennol, mae'n anrhydedd go iawn cael eich cynnwys yng Ngwobrau World Gourmand Cookbook.

“Llongyfarchiadau enfawr i Maggie sydd wedi gwneud gwaith rhagorol yn arddangos Cymru gyfoes trwy lygaid y rhai yn y gymuned BAME sy'n gwneud cyfraniad gwerthfawr i ddiwydiant bwyd a diod Cymru.

“Mae'r llyfr hwn yn atgyfnerthu ein diwylliant cyfoethog ac amrywiol, ac rwy'n annog pawb i roi cynnig ar y ryseitiau, darllen y straeon a gwerthfawrogi amrywiaeth ein gwlad.”

Share this page

Print this page