Mae rhaglen clwstwr allforio rhyngwladol ar gyfer busnesau bwyd a diod Cymru ar waith fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector bwyd a diod i ddatblygu a chyrchu marchnadoedd newydd mewn ffyrdd newydd dramor.

Bwriad rhaglen Cynhyrchu Arweiniad Clwstwr Allforio Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru yw cefnogi cwmnïau addas sydd â diddordeb mewn allforio, a’u cyflwyno i brynwyr a dosbarthwyr yn ôl categori eu cynnyrch er mwyn datblygu a chryfhau perthnasoedd busnes, masnach ac allforio.

Nod y rhaglen cynhyrchu arweiniad clwstwr allforio hon yw cefnogi ymdrechion i ddatblygu a harneisio partneriaethau hanfodol ar gyfer sector bwyd a diod Cymru gyda marchnadoedd targed penodol yn Japan ac, am y tro cyntaf, yn Taiwan a De Corea.

Yr wythnos nesaf (o ddydd Llun 21 Mehefin) bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar Dde Corea, gyda 15 cwmni o Gymru yn cymryd rhan yn yr ymweliad rhithwir â De Corea gydag 80 cyfarfod wedi'u cynllunio trwy gydol yr wythnos gyda 28 prynwr. Mae gweminar i’r cwmnïau sy’n cymryd rhan wedi’i threfnu ar gyfer y bore cyntaf lle byddan nhw’n cael cyflwyniad i farchnad De Corea a dealltwriaeth o ddisgwyliadau prynwyr. Mae samplau o gynhyrchion gan y cwmnïau priodol eisoes wedi'u hanfon dramor a bydd cyfarfodydd wedi'u cynllunio trwy gydol yr wythnos yn cynnig cyfle i drafod yn fwy manwl.

Mae'r cwmnïau o Gymru sy'n cymryd rhan yn cwmpasu ystod eang ar draws y sector bwyd a diod, o gynnyrch llaeth, diodydd, bwydydd da a bwydydd anifeiliaid anwes.

Mae Daniel Jones, Pennaeth Gwerthu a Marchnata'r DU Daioni Organic yn un o’r cynhyrchwyr sy'n cymryd rhan,

“Mae'r ymweliad allforio rhithwir hwn â De Corea yn rhoi cyfle gwych i ni ddatblygu cysylltiadau a chael mynediad at farchnadoedd newydd.

“Mae sicrhau marchnadoedd allforio newydd a chynnal rhai presennol yn hanfodol i’n huchelgais ar gyfer 2021 a thu hwnt, fel y gallwn barhau i dyfu ôl troed rhyngwladol Daioni.”

Cwmni arall sy'n mynychu’r ymweliad rhithwir yw Cradocs, cynhyrchwyr bisgedi sawrus sy'n addas i figaniaid a llysieuwyr. Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd perchennog Cradocs, Allie Thomas,

“Nid oes marchnad hawsach na’r un ar garreg ein drws ond nid yw hynny ar gael inni, felly mae angen i ni wneud yr hyn sydd gennym i gael mynediad at farchnadoedd newydd.

“Rydym yn gwmni bach ac yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am roi’r cyfle hwn i ni, ac am y nifer fawr o gyfarfodydd maen nhw wedi llwyddo i’w trefnu ar ein cyfer. Rwy’n gyffrous iawn i weld sut y bydd y cyfan yn gweithio ac rwy’n edrych ymlaen at ymuno yr wythnos nesaf i siarad â darpar brynwyr - a gwneud rhywfaint o fusnes newydd gobeithio.”

Mae COVID-19 wedi creu amgylchedd heriol iawn i fusnesau. Mae busnesau hefyd wedi wynebu diwedd cyfnod pontio’r UE, sydd wedi profi i fod yn destun aflonyddwch mawr gyda phartneriaid masnachu.

Mae datgloi marchnadoedd newydd yn dod â mwy fyth o gyfleoedd i fusnesau bwyd a diod Cymru nid yn unig i arddangos y cynnyrch o safon ledled y byd, ond hefyd i gynhyrchu mwy o refeniw a chynyddu elw.

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Lesley Griffiths AS yn credu, gydag enw da a tharddiad Cymru, fod llwyfan cryf ar gyfer twf pellach a all fod o fudd i bawb.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae ymweliadau masnach rhithwir yn ffordd wych i lawer o gwmnïau bwyd a diod Cymru arddangos eu cynhyrchion a’u galluoedd rhagorol i gynulleidfaoedd rhyngwladol mewn fformat sy’n addas ar gyfer yr hinsawdd sydd ohoni.

“Dyma’r trydydd ymweliad rhithwir yn y rhaglen clwstwr allforio hon y mae Llywodraeth Cymru wedi’i chefnogi ac yn rhoi cyfle i fusnesau archwilio cyrchu marchnadoedd newydd. Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw. ”

Mae’r ymweliad rhithwir hwn yn dilyn ymweliadau â Japan a Taiwan yn gynharach eleni.

Share this page

Print this page