Mae National Geographic Traveller (UK) wedi ymuno â Bwyd a Diod Cymru i lansio menter aml-gam newydd a ddyluniwyd i arddangos y wlad fel cyrchfan fwyd.

Canolbwynt y prosiect yw llawlyfr 52 tudalen newydd am Gymru sy'n canolbwyntio ar fwyd, a noddwyd gan Bwyd a Diod Cymru a'i ddosbarthu gyda rhifyn mis Hydref o National Geographic Traveller - y tro cyntaf i lawlyfr coginio gael ei ddosbarthu gyda'r cylchgrawn yn ei hanes 10 mlynedd.

Mae'r llawlyfr, a oruchwyliwyd gan Glen Mutel, golygydd rhifyn arbennig chwarterol y cylchgrawn, National Geographic Traveller Food (UK), yn edrych ar bob agwedd o arlwy bwyd Cymru, o'i ryseitiau traddodiadol a'i chynhwysion brodorol i'w bwytai seren Michelin a’i thon newydd o gynhyrchwyr crefftus.

Hefyd, cafodd y llawlyfr  ei ddosbarthu yn BlasCymru / TasteWales 2021, prif ddigwyddiad bwyd a diod rhyngwladol Cymru, a gynhaliwyd ar 27 a 28 Hydref yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, yng Nghasnewydd. Noddodd National Geographic Traveller y Parth Twristiaeth yn y digwyddiad, a ddaeth â chynhyrchwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol o bob rhan o'r diwydiant bwyd ynghyd.

Meddai Glen: “Roedd llawlyfr Cymru yn brosiect gwych i weithio arno, oherwydd bod gan Gymru stori mor dda i’w hadrodd y dyddiau hyn o ran bwyd a diod. Mae'n wlad sydd bob amser wedi bod yn adnabyddus am ei thirweddau, ond nawr mae wir yn ymfalchïo yn yr hyn sy'n cael ei gynhyrchu yn y bryniau, y cymoedd, y clogwyni môr a'r mynyddoedd enwog hyn a sut mae'r cynhwysion o'r radd flaenaf yn cael eu trawsnewid gan genhedlaeth newydd o gogyddion o Gymru.

“Mae hefyd yn rhoi cryn dipyn o foddhad fod y llawlyfr wedi ei ddosbarthu yn BlasCymru / TasteWales 2021, o ystyried fod cymaint o’r bobl sydd wedi helpu i yrru sîn fwyd y wlad yn ei blaen wedi ymgynnull yno.”

Wrth sôn am y cydweithio, dywedodd Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths AS: “Mae hwn yn gydweithrediad gwych gyda National Geographic Traveller ac yn llwyfan rhagorol i ddangos y diwylliant bwyd sydd gennym ni yng Nghymru.

“Mae gennym ni draddodiad hir a balch o gynhyrchu bwyd a diod rhagorol, gyda digonedd o adnoddau naturiol a chynhwysion bwyd, a ffocws ar y cyd ar ddatblygu technolegau newydd ac arloesi wrth gynhyrchu bwyd.”

Twitter: twitter.com/NatGeoTravelUK

Tumblr: NatGeoTravelUK.tumblr.com

Pinterest: pinterest.com/NatGeoTravelUK

Instagram: instagram.com/NatGeoTravelUK

Share this page

Print this page