Mae gan fusnesau bwyd a diod Cymru reswm i ddathlu ar ôl taro bargeinion busnes a fydd yn gweld eu cynnyrch ar gael yn Ne Corea, diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Bydd Wrexham Lager, un o fragdai mwyaf adnabyddus Cymru yn gweld ei boteli Wrexham Lager Export mewn archfarchnadoedd, bariau a bwytai yn Seoul yn yr wythnosau nesaf.

Mae Vaughan Roberts, Cyfarwyddwr Wrexham Lager wrth ei fodd gyda'r cyhoeddiad diweddar,

“Rydym ni wastad yn chwilio am ffyrdd o dyfu’r busnes, ac mae’r cytundeb allforio rydym ni wedi’i sicrhau yn Ne Corea yn llwyddiant aruthrol i’r cwmni.

“Cafodd cynhwysydd 40 troedfedd llawn yn cario 34,560 o boteli 330ml o’n Wrexham Lager Export 5% ei lwytho yn Felixstowe, a bydd yn cyrraedd Corea yn yr ychydig wythnosau nesaf.

“Mae label y botel yn fersiwn o un o labeli hanesyddol yr hen fragdy. Fe'i cynhyrchwyd gyda chwsmeriaid Corea mewn golwg, ac mae mewn ffont Coreaidd i gadw at gyfraith Corea.

“Rydym ni’n ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom ni er mwyn taro’r fargen hon. Daeth Llywodraeth Cymru â chynghorwyr marchnata arbenigol i mewn i gynnig cyngor a chymorth gydag unrhyw gwestiynau neu broblemau a allai godi. Hoffwn ddiolch iddyn nhw’n bersonol am eu cymorth a’u proffesiynoldeb wrth sicrhau’r cytundeb hwn yn ogystal â diolch yn fawr i Lywodraeth Cymru am hyrwyddo cynnyrch a busnesau Cymreig yn y modd hwn.

“Rwy’n gobeithio y bydd y cyhoedd yng Nghorea yn mwynhau ein Lager Cymreig ac y bydd yn arwain at fusnes pellach yn y dyfodol.”

Bragdy yn Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru yw Wrexham Lager sydd wedi bod yn cynhyrchu diodydd alcoholaidd ers dros 120 mlynedd. Agorodd bragdy uwch-dechnoleg newydd, sy'n cael ei redeg gan y teulu Roberts, yn 2011 yng nghanol Wrecsam, ar ôl i'r un gwreiddiol gau yn 2000. Er bod y bragdy gwreiddiol wedi'i ddymchwel yn 2002-2003, mae'r adeilad hanesyddol y dechreuodd y bragu ynddo yn dal i sefyll. Mae'r teulu Roberts a ailddechreuodd Wrexham Lager yn dal i ddefnyddio'r un cynhwysion â'r rysáit wreiddiol.

Cwmni arall sydd wedi gael llwyddiant yng Nghorea yw Cradoc’s Savory Biscuits, a fydd yn gweld chwech o’u cynhyrchion cracers ar gael i ddefnyddwyr.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cradoc’s, Allie Thomas,

“Roeddem ni’n gallu taro’r fargen hon yn dilyn yr Ymweliad Datblygu Masnach rhithwir â De Corea a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2021. Cawsom ni ein paru â chyflenwyr â diddordeb a chynhaliwyd cyfarfodydd rhithwir unigol lle gallem ni drafod gofynion ein gilydd. Daethom ni o hyd i bartner masnachu a welodd ansawdd a photensial ein cynnyrch, a chytunwyd i gydweithio.

“Gwnaethom ni gyflenwi manylebau â chanllawiau gan Brosiect HELIX trwy Ganolfan Diwydiant Bwyd Zero2Five i ddarparu'r manylion penodol iawn sy'n ofynnol gan awdurdodau Corea, gan gynnwys achrediadau safonau bwyd. Cymerodd hyn beth amser ac amynedd ar y ddwy ochr ond unwaith roedd ein cynnyrch wedi'i restru a'i gytuno i'w fwyta yng Nghorea, gwnaeth ein partner eu harcheb gyntaf. Roedd y paled cyntaf yn cynnwys pedwar o'n cynhyrchion. Ar ôl derbyn y llwyth ac o ganlyniad i brofi'r farchnad, cawsom ni archebion am ddau gynnyrch gwahanol arall.”

“Mae Marchnad Corea yn fawr ac yn gyfoethog. Mae hi’n gwerthfawrogi darpariaeth bwyd wedi'i fewnforio, mae'r boblogaeth wedi'i haddysgu'n dda ac yn awyddus i roi cynnig ar fwydydd Ewropeaidd a bwydydd y Byd. Mae'r dewis o flasau’n adlewyrchu hyn. Yn ogystal, mae cynnydd yn y boblogaeth yn golygu bod cadwyni cyflenwi bwyd yn bwysig i Lywodraeth ac awdurdodau De Corea, ynghyd â diddordeb mewn creu a chryfhau cadwyni cyflenwi dibynadwy.”

Cafodd Halen Môn lwyddiant hefyd, gan werthu eu cynnyrch i gwmni allforio a mewnforio yn Ne Corea sy’n cyflenwi cogyddion a siopau, ond sydd hefyd yn gwerthu ar Instagram.

Dywedodd Cyfarwyddwr Halen Môn, Alison Lea-Wilson,

“Rydym ni’n gwerthu i unigolyn ifanc deinamig. Mae wedi cofleidio ein moeseg cwmni cyfan. Gofynnodd i ni am ddillad â’n brand arnyn nhw, ac mae'n eu gwisgo pan fydd yn postio ar Insta. Rydym ni’n cynnal cyfarfodydd rheolaidd ar Zoom gan ddefnyddio dehonglydd a chyswllt e-bost.

“Iddo fe, mae’n llawer iawn mwy na dim ond y cynnyrch. Mae gan Dde Corea ddiddordeb yn niwylliant Cymru a Phrydain, y ffordd rydym ni'n defnyddio halen o'i gymharu â sut maen nhw'n ei ddefnyddio, pwy sy'n ei wneud a sut mae'n cael ei gyflwyno.

“Rydym ni’n gyffrous iawn am y cytundeb newydd. Hoffem ni ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu holl gefnogaeth i gael mynediad i’r marchnadoedd newydd hyn. Rydym ni wrth ein bodd yn gweithio gyda phobl mor hyfryd ac yn cofleidio diwylliant gwahanol.”

Sicrhawyd pob cytundeb yn dilyn cyfranogiad busnesau yn rhaglen cymorth allforio bwyd a diod Llywodraeth Cymru, pan fu 15 o gwmnïau bwyd a diod o Gymru yn cymryd rhan mewn Ymweliad Datblygu Masnach rhithwir â De Corea y llynedd.

Bwriad rhaglen rithwir Ymweliad Datblygu Masnach yw cefnogi cwmnïau addas sydd â diddordeb mewn allforio. Mae'n eu cyflwyno i brynwyr a dosbarthwyr sydd wedi'u dewis a'u paru'n ofalus er mwyn datblygu a chryfhau perthnasoedd busnes, masnach ac allforio.

Wrth sôn am y llwyddiannau, dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths AS,

“Mae sicrhau marchnadoedd allforio newydd, yn ogystal â chynnal a datblygu’r rhai presennol, yn hanfodol ar gyfer ffyniant diwydiant bwyd a diod Cymru yn y dyfodol. Ein nod yw cefnogi busnesau allforio Cymreig, rhai newydd a phrofiadol, i’w helpu i ddeall yr heriau a’r cyfleoedd a’u hysbrydoli i wneud y gorau o’r holl farchnadoedd posibl sydd ar gael.

“Mae ein rhaglen cymorth allforio ar gael i bob busnes bwyd a diod ac mae’n helpu allforwyr uchelgeisiol, newydd a sefydledig. Rydym ni wedi cynorthwyo llawer o fusnesau gyda’n Rhaglen Datblygu Masnach i wahanol wledydd a’n bwriad yw mynd â dirprwyaeth o Gymru i Seoul fis Medi.”

Roedd arolwg a gynhaliwyd gyda phrynwyr De Corea yn dilyn gweithgaredd trwy'r rhaglen cymorth allforio yn rhagweld y gallai pryniannau cyffredinol fod yn fwy na £1m, gyda llwyddiant Wrexham Lager, Cradoc’s a Halen Môn yn dangos bod cynnydd da yn cael ei wneud i sicrhau'r rhagfynegiad hwnnw.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo eich busnes gydag allforio, ewch i

 https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/tyfu-eich-busnes/allforio

Share this page

Print this page