Bu grŵp o ‘Sêr y Dyfodol’ o ddiwydiant bwyd a diod Cymru yn arddangos eu cynnyrch ym mhrif ddigwyddiad bwyd a diod Cymru - BlasCymru/TasteWales 2023.
Wedi'i gynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Ngwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd (25-23 Hydref 2023), daeth BlasCymru/TasteWales â phrynwyr, cyflenwyr a busnesau o'r diwydiant bwyd a diod a oedd yn awyddus i rwydweithio a darganfod cynnyrch newydd ynghyd.
Roedd digwyddiad blaenllaw Llywodraeth Cymru yn cynnwys 120 o fusnesau bwyd a diod o Gymru, gan roi’r cyfle iddynt arddangos a chwrdd â rhai o gysylltiadau pwysicaf y diwydiant, gan gynnwys 270 o brynwyr o’r DU a thramor.
Ymhlith yr arddangosiadau, roedd arddangosfa o 3,000 o gynhyrchion tymheredd amgylchol ac oer, bar samplu a mannau arddangos ‘bwyd i fynd’, yn ogystal ag arddangosion gan Glwstwr Bwyd Môr Bwyd a Diod Cymru ac erthygl ar gynhyrchion wedi’u diogelu Cynllun Dynodiad Daearyddol Cymru.
Roedd arddangosfa cynhyrchion newydd yn cynnwys dros 200 o gynhyrchion o bob rhan o’r sector bwyd a diod yng Nghymru, gyda phrynwyr yn pleidleisio am y cynnyrch newydd mwyaf cyffrous.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys arddangosfa 'Sêr y Dyfodol', a gydlynwyd gan BlasCymru/TasteWales yn cydweithio gyda Cywain – sef prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad busnesau sy'n canolbwyntio ar dwf yn y sector bwyd a diod yng Nghymru.
Roedd 'Sêr y Dyfodol' eleni yn cynnwys 14 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru sydd yn eu blagur ac yn barod i ehangu a gwerthu'n gyfanwerthol. Mae pob busnes ifanc a gafodd sylw yn Blas Cymru/Taste Wales 2023 wedi cyflawni – neu’n gweithio tuag at – achrediad SALSA neu BRC. Trefnodd BlasCymru/TasteWales a Cywain raglen baratoi ar gyfer y digwyddiad drwy ddyfeisio cyfres o weithdai a sesiynau mentora.
Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, “Mae BlasCymru/TasteWales unwaith eto wedi rhoi cyfle pwysig i sector bwyd a diod Cymru ddangos ac arddangos ei ddyfeisgarwch, ei sgil a’i lwyddiannau. Mae wedi bod yn wych gweld arddangosfa mor wych o fwyd a diod o Gymru a chwrdd â’r cynhyrchwyr y tu ôl iddynt, gan gynnwys y 14 o Sêr y Dyfodol, y mae eu hymroddiad a’u mentergarwch yn gyrru’r sector yn ei flaen.”
Ymhlith Sêr y Dyfodol eleni roedd cwmni o Wrecsam Grazed Bakery, sy’n eiddo i Mark a Renee Thompson.
Dywedodd Renee, “Mae wedi bod yn anhygoel; mae'r sioe hon yn wych, wedi'i threfnu'n dda iawn. Dyma ein tro cyntaf yma, ac roeddem yn teimlo'n hynod bwysig ar ôl cael ein dewis fel un o Sêr y Dyfodol! Rydyn ni wedi cael cymaint o help yn y cyfnod cyn y digwyddiad hefyd.”
Dywedodd Mark, “Rwy'n meddwl ei fod yn arbennig o dda i fusnesau bach; gan mai hwn yw ein tro cyntaf, gall meddwl amdano fod yn eithaf llethol. Rwy’n teimlo bod hwn wedi bod yn lleoliad anffurfiol a hamddenol iawn, sydd wedi ein galluogi i fod yn ni ein hunain a chyfleu ein cynnyrch mewn modd anffurfiol.”
Ychwanegodd Renee, “Mae wedi bod yn gyfle i ni fel busnes bach ddod i mewn a chwrdd â phobl na fyddech chi byth yn cwrdd â nhw fel arall ac a fyddai’n aml yn cymryd blynyddoedd i chi gwrdd yn y pen draw. Mae wedi bod yn gyfle gwych.”
Seren y Dyfodol arall a gafodd sylw oedd Fungi Foods o Gaernarfon. Dywedodd perchennog y cwmni, Gareth Griffith-Swain, fod BlasCymru/TasteWales wedi bod yn brofiad anhygoel, gyda’r pleser ychwanegol o gwrdd â’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Dywedodd Gareth, “Mae wedi bod yn wych siarad â pherchnogion busnes eraill; weithiau rwy'n teimlo y gall fod ychydig yn ynysig fel perchennog busnes, felly mae'n braf iawn dod yma a chwrdd â phobl eraill sy'n mynd trwy bethau tebyg i'r hyn rydych chi'n mynd drwyddo bob dydd.
“Mae wedi bod yn dda addysgu fy hun hefyd am yr hyn sydd ei angen, hefyd, gan brynwyr eraill, diolch i fod yn un o Sêr y Dyfodol. Mae wedi bod yn gyfnewidiad gwybodaeth go iawn,”
Dywedodd Manon Llwyd Rowlands, cyfarwyddwr Cywain, “Roeddem yn falch iawn o allu cefnogi rhai o gynhyrchwyr bwyd a diod mwyaf cyffrous Cymru ar eu taith unwaith eto i BlasCymru/TasteWales. Wrth iddynt ddatblygu eu busnesau, mae’n bwysig bod cynhyrchwyr yn cael y cyfle i arddangos eu blas a’u dawn i ddarpar brynwyr bwyd a diod, a BlasCymru/TasteWales yw’r digwyddiad perffaith ar gyfer hynny.”
Dywedodd 'Sêr y Dyfodol' blaenorol fod mynychu digwyddiad mor fawreddog yn dod â chyfoeth o gyfleoedd sy'n hanfodol i ddatblygiad eu busnes.
Roedd Richard Abbey, o Do Goodly Dips yn Cross Hands, ymhlith Sêr y Dyfodol yn 2021.
Meddai, “Y prif beth am gael eich dewis yn un o Sêr y Dyfodol yw’r mynediad anhygoel y mae’n ei roi i chi arddangos eich cynnyrch i gysylltiadau ar draws y diwydiant. Roedd hyn, ynghyd â chymorth gan Cywain, yn golygu ein bod yn gallu cael nifer o restriadau gan gwsmeriaid manwerthu, yn ogystal ag ystod eang o gysylltiadau, a newidiodd ein busnes yn sylweddol yn y pen draw.
“Roedd yn wych gallu dychwelyd eleni i arddangos hyd yn oed mwy o gynhyrchion newydd i gynulleidfa eang a dylanwadol!”
Dywedodd y cynhyrchydd Lucy George o Peterston Tea Estate ym Mro Morgannwg, “Roedd cael ein dewis yn Seren y Dyfodol yn 2021 yn hynod fuddiol i’n taith fusnes. Rydym yn sicr yn torri tir newydd ym myd te a kombucha ac yn parhau i wynebu llawer o heriau o ran ymwybyddiaeth defnyddwyr a'r farchnad; fodd bynnag, mae ein busnes yn datblygu ac yn tyfu ymhell y tu hwnt i'm disgwyliadau cychwynnol.
“Mae’r cymorth rydym wedi’i gael drwy Cywain wedi bod yn sylfaenol i’r datblygiad hwn, ac mae wedi ein galluogi i sefydlu hunaniaeth fusnes gref ynghyd â strategaethau marchnata a chynllunio ariannol. Yn sicr ni fyddem yn y sefyllfa hon heb y gefnogaeth a gawsom. Rydyn ni’n ddiolchgar tu hwnt.”