Bydd siopwyr mewn siopau SPAR yn cael eu sbwylio fis nesaf pan fydd Pythefnos Bwyd Cymru (Awst 5 - 18) yn dechrau!

Am bythefnos, bydd 230 o siopau SPAR ledled Cymru yn ymuno â chynhyrchwyr i ddathlu a hyrwyddo bwyd a diod o Gymru yn y siopau ac ar gyfryngau cymdeithasol.

Bydd gweithgareddau cyfryngau cymdeithasol sy’n cynnwys ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste, ynghyd â deunyddiau Pwynt Gwerthu (PoS), yn galluogi siopwyr i adnabod llu o gynhyrchion bwyd a diod yn hawdd.

Mae’r ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste yn dathlu bwyd a diod o Gymru. Cafodd ei lansio y llynedd gan Llywodraeth Cymru, a oedd yn gweithio mewn partneriaeth â Menter a Busnes i gefnogi cynhyrchwyr a manwerthwyr yn ystod pandemig Covid-19.

Mae’r ymgyrch wedi bod yn llwyddiannus wrth ddal dychymyg cynhyrchwyr, manwerthwyr a chwsmeriaid yn y siopau ac ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Cymaint felly fel bod #CaruCymruCaruBlas wedi dod yn rhan annatod o hyrwyddo bwyd a diod o Gymru trwy gydol y flwyddyn.

Mae’r ymgyrch hefyd yn cyd-fynd â’r ymchwil ‘Gwerth Cymreictod’ a gyflawnwyd ar gyfer Llywodraeth Cymru, sy’n pwysleisio pwysigrwydd cynyddol cynnyrch o Gymru i ddefnyddwyr.

Cafodd Pythefnos Bwyd Cymru ei drefnu gan Glwstwr Bwyd Da Bwyd a Diod Cymru ar y cyd ag AF Blakemore & Son Ltd (manwerthwr a chyfanwerthwr SPAR) a SPAR UK. Bydd 139 o siopau SPAR sydd dan berchnogaeth annibynnol ar draws Cymru yn ogystal â’r 91 siop y mae AF Blakemore yn berchen arnynt ac yn eu rheoli’n uniongyrchol, yn cymryd rhan ym Mhythefnos Bwyd Cymru.

Wedi’i ariannu gan Llywodraeth Cymru, caiff Clwstwr Bwyd Da Cymru ei hwyluso gan brosiect Cywain. Prosiect a ddarperir gan Menter a Busnes yw Cywain, sydd yn cefnogi datblygiad busnesau sy’n canolbwyntio ar dwf yn y sector bwyd a diod yng Nghymru.

Er mwyn paratoi cynhyrchwyr ar gyfer yr ymgyrch, mae’r Clwstwr Bwyd Da wedi cefnogi’r busnesau mewn sawl ffordd, gan gynnwys gweminar cyfryngau cymdeithasol i ddangos iddynt sut i wneud y gorau o’u presenoldeb yn ystod Pythefnos Bwyd Cymru drwy ddefnyddio hashnodau #CaruCymruCaruBlas a #LoveWalesLoveTaste.

Dywedodd Rheolwr Categori AF Blakemore & Son Ltd, Patrice Garrigues, “Fel busnes, mae AF Blakemore & Son yn falch o fod yn gweithio ar y cyd gyda llawer o frandiau o Gymru ar draws amryw o gategorïau. Mae ein partneriaeth ni’n cynnig llwybr i’r farchnad i’w cynhyrchion nhw.

“Mae gwerthu cynnyrch o Gymru sydd o safon yn ein siopau SPAR yn rhywbeth y mae ein cwsmeriaid yn ei fwynhau fel rhan o’n hystod gymysg; mae’n rhoi dewis iddynt a’r cyfle i gefnogi busnes lleol, mewn sawl achos.

“Rydym yn hynod falch i fod yn gweithio’n agos gyda Chlwstwr Bwyd Da Bwyd a Diod Cymru. Ar gyfer yr ymgyrch hwn, rydym wedi gweithio gyda nhw i greu deunyddiau pwynt gwerthu pwrpasol. Byddwn yn arddangos y deunydd yn ein siopau er mwyn helpu hyrwyddo cynnyrch o Gymru i’n cwsmeriaid.”

Dywedodd Jayne Jones, Rheolwr y Clwstwr Bwyd Da, “Mae SPAR yn llwyfan arbennig ar gyfer cynhyrchion bwyd a diod o Gymru, ac mae’r ymgyrch hwn yn adeiladu ar weithgaredd gwnaethom ei gyflawni ar y cyd gyda nhw yn 2015.

“Gwnaethom edrych ar sut allwn ni weithio gyda nhw ar ymgyrch newydd drwy ddefnyddio rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol y cyflenwyr bwyd a diod. Bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth yn ystod y pythefnos ac yn helpu cynyddu nifer yr ymwelwyr a’r gwerthiannau.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd:

“Mae Pythefnos Bwyd Cymru yn gyfle arbennig i amlygu’r bwyd a diod ardderchog sydd gennym ni yma yng Nghymru ac yn gyfle i siopwyr a thwristiaid ddarganfod rhywbeth newydd.

“Rydw i eisiau gweld rhagor o bobl yn mwynhau ein cynnyrch arbennig o Gymru a bydd y Cynllun Manwerthu Bwyd a Diod, yr oeddwn wedi ei lansio yn ddiweddar, yn allweddol i gyflawni hyn.”

 

 

 

Share this page

Print this page