Mae bragdy o Ogledd Cymru, Wrexham Lager Beer Company, yn dathlu llwyddiant ar ôl ennill teitl ‘Y Cwrw Gorau o’r DU’ mewn cystadleuaeth ryngwladol fawreddog iawn yn yr Almaen.

Gwnaeth lager Wrexham Export y cwmni syfrdanu beirniaid yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Frankfurt, lle’r oedd yn cystadlu yn erbyn y cwrwau gorau yn y byd ac yn rhoi arwydd o ragoriaeth bragu i gwsmeriaid. Rhoddodd y gystadleuaeth hefyd hwb marchnata pwysig i’r cwmni wrth iddo geisio ehangu ei sylfaen cwsmeriaid a manwerthu.

Mae llawer o bobl yn gweld yr Almaen fel ‘cartref’ traddodiadol cynhyrchu lager, mae hanes bragu’r wlad yn mynd yn ôl canrifoedd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Wrexham Lager Mark Roberts, bod cael gwobr mewn cyrchfan fragu mor eiconig yn dipyn o anrhydedd a’i fod yn gosod y bragdy Cymreig yn gadarn ar y map cwrw rhyngwladol.

Dywedodd: “Roedd yna 38 o fragdai o’r DU, a Wrexham Lager oedd yr unig un i ennill gwobr. Dyma oedd y wobr eithaf - Grand Gold, ac i fynd gyda hi'r teitl ‘y Cwrw Gorau o’r DU’.

“Cystadleuaeth Ryngwladol Frankfurt yw’r crème de la crème o gystadlaethau ac mae’n dod â bri byd-eang, felly mae’r wobr hon yn bluen yn het Cymru hefyd.”

Mae’r gystadleuaeth gwrw flynyddol yn denu cystadleuwyr o bedwar ban byd, ac eleni bu’r beirniaid yn blasu diodydd o dros 50 o wledydd.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn neuadd hanesyddol yr enwog Gesellschaftshaus Palmengarten yn Frankfurt. Cafodd y cwrwau eu blasu’n ddall, oedd yn golygu bod nodweddion penodol pob cwrw’n cael eu hystyried. Rhoddodd y beirniaid ganmoliaeth i Wrexham Export am ei liw perffaith ac ansawdd cyffredinol yr arogl, gwead y corff a’r blas - a gyrhaeddodd y brig yn y gystadleuaeth.

Dywedodd Mark: “Ni allem fod yn hapusach; roedd ein sgorau gan y beirniaid yn anhygoel. Y sgôr cyfartalog ar gyfer y gystadleuaeth gyfan oedd 72.69/100, cafodd Wrexham Export sgor o 92/100, yn cynnwys marciau llawn am ei ymddangosiad a’i liw.”

Mae cwrwau Wrexham Lager yn cael eu gwerthu ledled Cymru mewn nifer o siopau yn cynnwys Morrisons ac Asda, ac mewn siopau dethol Co-op. Gall pobl brynu’r casgliad o gwrwau o siop ar-lein y cwmni neu yn siop y bragdy - sydd ers ei agor y llynedd wedi dod yn atyniad poblogaidd i ymwelwyr. Mae’r cwrw hefyd yn cael ei allforio i sawl gwlad yn cynnwys Gwlad Pwyl, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen a Japan, gyda mwy o wledydd i’w cyhoeddi’n fuan.

Dywedodd Mark: “Bydd y wobr hon yn ein helpu i fynd ymlaen wrth i ni sefydlu mwy o farchnadoedd ar gyfer ein cwrw gartref a thramor. Wrth arddangos ein gwobr o Gystadleuaeth Ryngwladol Frankfurt ar ein poteli a’n pecynnu, bydd cwsmeriaid yn gwybod eu bod yn dewis lager sydd wedi’i ganmol gan rhai o’r beirniaid mwyaf chwaethus ac arbenigol yn y byd.”

Dywedodd Lesley Griffiths AS, Gweinidog dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru, a'r Trefnydd:

“Llongyfarchiadau mawr i Wrexham Lager a’r tîm. Mae’n grêt i weld y brand yn cael cydnabyddiaeth ryngwladol ac i weld marchnadoedd yn cael eu datblygu’n llwyddiannus yn y DU a thramor gyda chefnogaeth gan raglenni datblygu masnach ac allforio Llywodraeth Cymru.”

Mae Cwmni Wrexham Lager yn dilyn traddodiad bragu a ddechreuodd yn y dref bron i 140 o flynyddoedd yn ôl. Fe’i sefydlwyd fel bragdy dull Barfaria yn y 1880au a chafodd y fenter blynyddoedd lawer o lwyddiant. Ond trodd ei ffawd, ac yn 2002 caeodd y bragdy ei ddrysau. Nawr yn eiddo i’r teulu Roberts, mae Wrexham Lager unwaith eto’n cael ei wneud mewn bragdy o’r radd flaenaf yn y dull Almaenig.

Mae defnydd y cwmni o farchnata ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol hefyd yn helpu i ddenu ffans o bell ac agos, ac mae ei gysylltiad gyda’r dylanwadwr o Wrecsam Karl Phillips (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘Bootlegger’ neu ‘The Captain’) hefyd wedi helpu i ddenu byddin o gefnogwyr.

Mae Wrexham Lager yn bartner sefydlol mewn menter sy’n tynnu sylw at ac yn dathlu llwyddiannau pobl yn y dref. Mewn partneriaeth gyda F Jones Food Service ac mewn cydweithrediad â busnesau lleol eraill, mae Wrexham Lager wedi bod yn rhan allweddol o sefydlu ‘F Jones Initiative’.

Y nod yw rhoi cydnabyddiaeth gyhoeddus i’r bobl hynny sy’n gwneud gwahaniaeth yn y gymuned ac arddangos talent.  Rhan o’r fenter hon yw cystadleuaeth fisol. Mae’r gystadleuaeth yn rhedeg tan fis Hydref 2022, bydd dau enillydd yn cael eu cyhoeddi pob mis ar y cyfryngau cymdeithasol, y wasg leol a’r cylchgrawn Love Wrexham.

Yn ogystal â’r si am gwrw newydd ar gyfryngau cymdeithasol Wrexham Lager, mae paratoadau ar y gweill hefyd ar gyfer Gŵyl Gerddoriaeth Awyr Agored Wrexham Lager a fydd yn cael ei chynnal mis nesaf.

Bydd yr ŵyl yn digwydd ar 18 Mehefin ar dir Pysgodfa Commonwood Leisure ar gyrion Wrecsam, bydd y digwyddiad yn cynnwys gwesteion arbennig yn cynnwys y canwr Cymraeg eiconig, Dafydd Iwan.

Dywedodd rheolwr gwerthiannau’r bragdy Joss Roberts: “Ar ôl llwyddiant gŵyl sesiynau’r haf y llynedd yn y bragdy, rydym yn falch i gyhoeddi ein gŵyl gerddoriaeth fawr gyntaf erioed.

“Bydd yr ŵyl yn cynnwys rhai o fandiau gorau Wrecsam yn ogystal â bandiau newydd cyffrous a bydd Dafydd Iwan hefyd yn ymddangos. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld Dafydd yn perfformio gan fod ei berfformiad o Yma o Hyd yn ystod gêm ragbrofol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd wedi cael ei wylio miliynau o weithiau.

“Rydym hefyd yn falch iawn y bydd S4C yn cynnwys yr ŵyl fel rhan o raglen ddogfen am Wrecsam a sut mae perchnogion newydd Clwb Pêl-droed Wrecsam yn helpu’r dref.”

Share this page

Print this page