Sefydlwyd cynllun Dynodiad Daearyddol y DU ar ddechrau 2021, ar ôl i'r DU ymadael â’r UE.

Mae'r cynllun yn sicrhau y gall rhai cynhyrchion bwyd a diod barhau i dderbyn diogelwch cyfreithiol rhag unrhyw ymdrechion i efelychu a chamddefnyddio.

Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr yw'r cynnyrch newydd cyntaf i ennill statws Dynodiad Daearyddol y DU a’r cig yw ail aelod ar bymtheg teulu cynhyrchion Cymru, gan ymuno â chynnyrch gwych arall fel Halen Môr Môn, Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru a Thatws Cynnar Sir Benfro. Mae pob aelod o'r teulu yn gwbl Gymreig ac mae ganddynt gysylltiadau unigryw â'r tirweddau a'r morweddau sy'n eu meithrin.

O heddiw ymlaen, dim ond Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr y gellir ei werthu gyda logo Dynodiad Daearyddol y DU, sy’n gwarantu bod ei gynnyrch yn dod o ŵyn a gafodd eu geni a'u magu ar arfordir Gogledd Gŵyr yng Nghymru.

Bydd y logo Dynodiad Daearyddol yn hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Cymru ac yn rhoi'r ardystiad o ansawdd a natur unigryw Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr sef clod y mae’n ei haeddu ac y mae defnyddwyr yn chwilio amdano.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'r cwmni o'r blaen drwy ei rhaglen Enwau Bwyd Gwarchodedig.

Mae Dan a Will Pritchard yn rhedeg fferm deuluol cig oen Morfa Heli y Gŵyr ar Benrhyn hardd y Gŵyr a dywedodd Dan wrth siarad am eu llwyddiant gwych:

"Rydym mor falch bod Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr wedi ennill statws uchel ei bri Dynodiad Daearyddol y DU.

"Rydym yn hynod falch o'r hyn rydym yn ei gynhyrchu ac mae'n wych ei fod yn cael ei gydnabod a'i ddathlu.

"Bydd y cyhoeddiad heddiw yn helpu i ddiogelu enw da ein cynnyrch rhanbarthol, hyrwyddo arferion amaethyddol traddodiadol a gwaredu cynhyrchion nad ydynt yn rhai dilys. Mae'n ddiwrnod gwych i Gymru ac i gynnyrch o Gymru."

Llongyfarchodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, Dan a Will Pritchard ar eu llwyddiant gwych, gan ddweud:

"Rydym am hyrwyddo cynhyrchion bwyd a diod o Gymru sy'n tystio I’w hanesion am arbenigedd, traddodiad a chynaliadwyedd, oll gydag ymdeimlad angerddol o'u gwreiddiau unigryw.

"Hoffwn longyfarch Dan a Will ar eu llwyddiant ar fod y cynnyrch cyntaf newydd i sicrhau statws arbennig Dynodiad Daearyddol y DU ar gyfer eu cig oen Morfa Heli a'u croesawu i deulu Dynodiadau Daearyddol Cymru.

"Hoffem weld Cymru’n parhau i arwain y ffordd o ran cydnabod cynnyrch eiconig ac rwy'n hyderus y bydd llwyddiant diweddaraf Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr yn annog ceisiadau newydd eraill am statws Dynodiad Daearyddol y DU, o bob categori bwyd a diod yng Nghymru."

Mae rhagor o wybodaeth am Gig Oen Morfa Heli y Gŵyr a gweddill aelodau teulu Dynodiadau Daearyddol Cymru ar gael yma: Cynlluniau Dynodiad Daearyddol Newydd y DU (GI y DU) | Business Wales - Food and drink (gov.wales)

Share this page

Print this page