Wrth i’r Nadolig agosáu, gall y gwneuthurwr caws newydd Clare Jones edrych yn ôl ar flwyddyn arbennig yn hanes ei chaws glas arobryn, Trefaldwyn Blue.
Mae’r misoedd diwethaf wedi bod fel ffair i’r athrawes o Drefaldwyn sydd bellach yn wneuthurwr caws. Dim ond ychydig wythnosau sydd ers iddi ennill gwobr am y caws gorau o Gymru yng Ngwobrau Caws y Byd yn Sbaen.
Y wobr fyd-eang hon yw pinacl y chwe mis ardderchog diwethaf, cyfnod a welodd y Trefaldwyn Blue hefyd yn ennill dwy seren yng ngwobrau Great Taste yn ogystal â chael llwyddiant yng ngwobrau Artisan Cheese ym Melton Mowbray.
Yn ôl Clare, “Wedi’r sioc o ennill dwy seren yng ngwobrau Great Taste, penderfynais roi cynnig ar Wobrau Caws y Byd. Roedd angen tipyn o ddogfennau er mwyn ei anfon i Sbaen, a doeddwn i ddim yn disgwyl unrhyw lwyddiant yn y gystadleuaeth. Felly, pan glywais ’mod i wedi ennill gwobr aur ac yna’r wobr am y caws gorau o Gymru, ro’n i ar ben fy nigon!”
Wedi’i lansio ddwy flynedd yn ôl ym Marchnad Nadolig Trefaldwyn, daeth gwaith cynhyrchu’r Trefaldwyn Blue i ben am gyfnod yn sgil y pandemig Covid-19, a doedd hi ddim yn bosib i Clare ailddechrau gwneud ei chaws unigryw tan fis Mai 2021.
Ers hynny, mae wedi bod yn gyfnod byrlymus iawn i Clare, y newydd-ddyfodiad ym myd caws, sydd â’i chaws wedi’i enwi er anrhydedd i’r dref lle y magwyd hi.
Mae’r caws yn cael ei wneud o laeth cwmni Llaeth Cymraeg, cwmni cydweithredol ffermwyr llaeth. Caiff Trefaldwyn Blue ei weini mewn bwytai o safon a’i werthu mewn nifer o siopau fferm, delis a siopau groser ledled Canolbarth Cymru a’r Gororau.
Mae ei gyrfa newydd fel gwneuthurwr caws yn wahanol iawn i’r ddwy ddegawd bron y treuliodd fel athrawes ddosbarth mewn ysgol gynradd, ac wedi rhyddhau ei hochr entrepreneuraidd.
Yn ôl Clare, “Wedi 18 mlynedd o ddysgu, ro’n i’n awyddus i gael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ac roedd rhedeg fy musnes fy hun wedi apelio’n fawr ataf erioed. Yn ystod gwyliau, dechreuodd fy ngŵr a minnau drafod sut roedd Trefaldwyn wedi dod yn ardal fwyd eithaf amlwg. Serch hynny, doedd neb fel petaen nhw’n gwneud caws. Felly, dyma fi’n trefnu mynd ar gwrs gwneud caws a dyna le dechreuodd popeth.”
A hithau wedi dysgu’r sgiliau gwneud caws sylfaenol, dechreuodd Clare ddatblygu rysáit y caws glas sydd bellach yn arobryn, gan ei rannu’n wreiddiol ymysg ffrindiau a theulu.
O dderbyn adborth cadarnhaol, penderfynodd Clare fentro ymhellach a darganfod yr adnoddau gwneud caws ardderchog yng Nghanolfan Fwyd Cymru yn Horeb, Ceredigion. Gan fanteisio ar nawdd Cynllun HELIX, dechreuodd weithio gydag arbenigwr caws arobryn a’i helpodd i ddatblygu ei sgiliau gwneud caws ymhellach drwy’r Cynllun Trosglwyddo Gwybodaeth.
Yn ôl Clare, “Fe es i i ddiwrnod agored yng Nghanolfan Fwyd Cymru a darganfod fod ganddynt adnoddau cwbl ardderchog, yn enwedig i rywun fel fi nad yw’n dod o gefndir bwyd. O ganlyniad, rhoddodd hwb i mi sefydlu fy musnes fy hunan heb fuddsoddi llawer o arian.”
Cyfarfu Clare ag arweinydd tîm busnes micro Cywain, Lowri Davies, ar ddechrau ei thaith gwneud caws. Mae prosiect Cywain yn gweithio gyda chynhyrchwyr bwyd a diod ledled Cymru, gan eu helpu i dyfu a datblygu eu busnes, gyda chymorth mewn sawl maes, yn cynnwys marchnata, datblygu brand a chyllid.
Drwy gyfrwng Cywain mae Clare wedi cymryd rhan mewn sawl cwrs a gweithdy, gan ennill sgiliau a hyder.
Yn ôl Clare, “Mae Cywain wedi bod yn ardderchog; rwy wedi derbyn llawer o gefnogaeth ganddyn nhw – yn cynnwys brandio a mentora. Maen nhw’n deall yr heriau sy’n fy wynebu ac wedi fy llywio i’r cyfeiriad iawn a ’nghysylltu â’r bobl iawn sydd â’r profiad i’m helpu i dyfu’r busnes.”
Dywedodd Lowri Davies, Arweinydd Tîm Meicro Cywain, Cywain, “O gyfarfod Clare am y tro cyntaf a blasu ei chaws, ro’n i’n bendant ei bod hi am lwyddo. Rwy wedi mwynhau gweithio gyda hi, ac wrth fy modd o weld fod ei holl waith caled wedi sicrhau fod Trefaldwyn Blue yn derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol.”
Gyda chefnogaeth Cywain, mae Clare bellach yn barod i fynd â’i busnes i’r lefel nesaf, ac mae’n chwilio am adeilad ger Trefaldwyn.
Dywedodd, “Mae’r gefnogaeth a’r help rwy wedi’u derbyn gan y tîm yng Nghanolfan Fwyd Cymru wedi bod yn ardderchog, ond nawr rwy’n awyddus i ehangu fy musnes a symud y gwaith cynhyrchu’n agosach adref.”
Dywedodd Mark Jones, Arbenigwr Llaeth Canolfan Fwyd Cymru, “Mae hi wedi bod yn bleser helpu Clare i ddatblygu ei rysáit ar gyfer ei chaws i greu cynnyrch llwyddiannus ac arobryn. Rwy’n edrych ymlaen i’w chefnogi gyda’i phrosiectau i’r dyfodol a chynllunio safle ei hadeilad newydd er mwyn iddi allu tyfu ei busnes yn fwy eto.”
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd:
“Mae arloesedd ac angerdd Clare i lwyddo ynghyd â chefnogaeth gan Ganolfan Fwyd Cymru a Cywain wedi arwain at stori lwyddiant go iawn a Chymru yn ychwanegu caws arall o safon fyd-eang at ei enw.
“Dyma enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy gydweithio. Llongyfarchiadau enfawr i Clare a hoffwn ddymuno’r gorau iddi nawr ac i’r dyfodol.”