Fferm tir glas Cymreig blaengar yw’r cyntaf yn y wlad i dyfu math newydd o feillion uchel mewn protein a chynnyrch.
Yn ystod diwrnod agored i ddathlu 50 mlynedd o Ffederasiwn Cymdeithasau Tir Glas Cymru, cafodd ymwelwyr â fferm Llysun, Llanerfyl, ger y Trallwng, gyfle i ddysgu mwy am feillion balansa. Daeth Richard Tudor ar draws y codlys blynyddol hwn yn...