Sut i wneud cais am gwrs hyfforddiant wedi'i ariannu
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi canllaw ‘cam wrth gam’ defnyddiol a fydd yn eich tywys drwy’r broes ymgeisio.
Cyn y gallwch ymgeisio am hyfforddiant, mae angen i chi…
- Fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio gyda chyfeiriad e-bost unigol sy’n unigryw i chi. I gofrestru, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813 neu cofrestrwch ar-lein yma. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg
- Derbyn e-bost yn cadarnhau eich cofrestriad gan Cyswllt Ffermio, sy’n eich galluogi i gael mynediad i wefan BOSS Busnes Cymru drwy Sign on Cymru (SOC).
DS Os nad ydych eisoes wedi cofrestru ac yn bwriadu ymgeisio ar gyfer hyfforddiant wedi’i ariannu, bydd angen i chi gysylltu gyda’r Ganolfan Wasanaeth o leiaf wythnos cyn diwedd y cyfnod ymgeisio nesaf.
Cam 1
Mynediad at wefan BOSS (Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein)
Mae mynediad at BOSS yn hanfodol er mwyn…
- cwblhau PDP (Cynllun Datblygu Personol) ac adnabod eich nodau hyfforddiant a datblygiad
- ymgeisio am gwrs/gyrsiau hyfforddiant wedi’i ariannu
- cwblhau modiwlau e-ddysgu wedi'i ariannu'n llawn
- cael mynediad at eich cofnod Storfa Sgiliau personol
Newydd i BOSS?
Er mwyn cael mynediad i BOSS mae angen i chi gofrestru eich cyfeiriad e-bost unigryw gyda Cyswllt Ffermio. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, cysylltwch â'r Ganolfan Wasanaeth ar 03456 000 813.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Dylech dderbyn e-bost cadarnhad gan y Ganolfan Gwasanaeth Cyswllt Ffermio sy'n cynnwys eich manylion mewngofnodi BOSS.
DS Os nad ydych wedi derbyn e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith, cysylltwch â’r Ganolfan Wasanaeth.
Creu cyfrif BOSS
Mewngofnodi i BOSS drwy Sign on Cymru neu cliciwch ar 'Mewngofnodi i BOSS' ar bennawd gwefan Cyswllt Ffermio.
Am ganllawiau cam wrth gam ar sut i gael mynediad i BOSS drwy Sign on Cymru, cliciwch yma a/neu gwyliwch y fideo isod:
Dychwelyd i BOSS
Mewngofnodi i BOSS drwy Sign on Cymru
I mewngofnodi i BOSS, cliciwch y botwm ‘Mewngofnodi i BOSS’ ar bennawd gwefan Cyswllt Ffermio.
Cam 2
Cwblhau PDP (Cynllun Datblygu Personol)
Bydd eich PDP yn eich galluogi i adnabod y cyrsiau a fydd yn atgyfnerthu eich sgiliau ac yn eich helpu i ddatblygu eich busnes. Mae adnabod eich nodau hyfforddi yn rhan bwysig o'r broses hon.
DS Ni allwch wneud cais am gyllid ar gyfer cwrs hyfforddi nes eich bod wedi cwblhau PDP a wedi ychwanegu nod yn ymwneud â'r cwrs yr hoffech wneud cais amdano.
Cliciwch yma am eich canllaw i gwblhau PDP ac adnabod eich nodau.
Cam 3
Gweld yr holl gyrsiau hyfforddi
O’ch cyfrif BOSS personol, byddwch yn gallu dewis yr hyfforddiant sydd arnoch ei angen o’r ystod eang o gyrsiau sydd ar gael, sy’n cael eu categoreiddio’n fras o dan y penawdau canlynol:
- Busnes
- Da Byw
- Tîr
O fewn pob categori, fe welwch chi restr o gyrsiau. Cliciwch ar y cwrs o’ch dewis am drosolwg o’r hyn mae’n ei gynnig, ynghyd â rhestr o’r darparwyr hyfforddiant.
Cam 4
Ymgeisio am y cwrs/cyrsiau hyfforddi rydych chi wedi'u dewis
- Cyflwyno ffurflen gais ar wefan BOSS ar gyfer y cwrs / cyrsiau hyfforddi sydd eu hangen arnoch chi.
- Sicrhewch fod teitl, cost a darparwr y cwrs yn gywir cyn cyflwyno'ch cais.
- Dilynwch y camau hyn i wneud cais:
- Dewiswch yr adran ‘Dangos a chyflwyno ffurflen gais cwrs hyfforddi’ ar y dudalen flaen BOSS
- Dewiswch y cwrs rydych chi wedi’u ddewis oddi ar y rhestr
- Ar ôl i chi glicio ar y cwrs rydych chi ei eisiau, mae categori’r cwrs yn cael ei fewngofnodi'n awtomatig ar eich rhan
- Dewiswch y darparwr hyfforddiant o'ch dewis o'r rhestr
- Rhowch gost llawn y cwrs hyfforddi yn y blwch ar eich sgrin (heb gynnwys unrhyw TAW).
- Atebwch y cwestiwn ‘Sut fydd cwblhau’r cwrs hyfforddi hwn o fudd i’ch datblygiad personol/datblygiad y busnes?’
- Noder: bydd angen i chi ysgrifennu o leiaf 350 nod (mae hyn yn cynnwys bylchau) neu tua 50 gair cyn y gallwch symud ymlaen i’r dudalen nesaf.
- Ar ôl i chi wirio eich holl ddewisiadau, cliciwch ‘Arbed’
- Am gymorth gyda’ch cais sicrhewch eich bod yn cysylltu â’r darparwr hyfforddiant a ddewiswyd gennych neu’r swyddog datblygu lleol am gyngor ac arweiniad.
DS - Mae cwblhau e-ddysgu gorfodol ar BOSS trwy Sign on Cymru (SOC) yn ofynnol ar gyfer rhai cyrsiau hyfforddiant cyn i chi gyflwyno'ch cais. I weld y rhestr lawn o gyrsiau hyfforddiant y mae gofyn i chi gwblhau modiwl e-ddysgu yn gyntaf, cliciwch yma.
Sylwer y bydd methu â chwblhau'r cwrs e-ddysgu gorfodol perthnasol yn anffodus yn golygu y bydd eich cais am gwrs yn cael ei wrthod. Am gymorth ac arweiniad cysylltwch â'r Ganolfan Wasanaeth ar 03456 000 813 neu eich swyddog datblygu lleol.
Cam 5
Mynediad i e-ddysgu
Mae ein cyrsiau e-ddysgu rhyngweithiol yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau fydd yn eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd a phresennol ac yn gwella arferion gwaith o fewn eich busnes,
Cyn i chi wneud cais am gwrs hyfforddiant efallai y bydd angen i chi gwblhau modiwl e-ddysgu gorfodol.
Mae'r rhestr lawn o gyrsiau hyfforddiant y bydd angen i chi gwblhau modiwl e-ddysgu gorfodol ar eu cyfer, ar gael yma.
I gael mynediad i’r modiwlau hyn:
- Mewngofnodwch i’ch cyfrif BOSS.
- O'r brif dudalen gartref, ewch i’ch dangosfwrdd sydd wedi’i leoli ar ochr chwith y sgrin.
- Cliciwch mewn i’ch dangosfwrdd.
- Bydd y modiwlau gorfodol i’w weld.
- Cliciwch ar deilsen y cwrs.
- Cwblhewch y cwrs.
*Noder: bydd angen i chi gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus os ydych chi’n gwneud cais am gwrs yn ymwneud â pheiriannau ac offer.
DS Ar ddiwedd pob cwrs e-ddysgu a gwblheir, bydd ‘Tystysgrif Cwblhau’ yn cael ei lan lwytho i’ch cofnod Storfa Sgiliau ar eich rhan.
Cam 6
Cofnodi eich holl sgiliau a'ch cyflawniadau dysgu yn Storfa Sgiliau
Storfa Sgiliau yw’r adnodd diogel, ar-lein i storio data ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus
Bydd yr holl hyfforddiant, e-ddysgu a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth a gwblheir gennych yn ystod y rhaglen gyfredol yn cael eu lan lwytho ar eich rhan. Gallwch hefyd gofnodi eich holl gyraeddiadau a gweithgareddau eraill perthnasol yn eich ardal ‘Fy Lle I’.
Am ragor o fanylion ynglŷn â sut y gall y Storfa Sgiliau fod o fudd i chi, cliciwch yma.