Prosiect aml-safle
Nodau ac Amcanion y Prosiect:
Rhoi newidiadau ar waith ar y ffermydd
- Cydweithio â rhwydwaith o ffermwyr ledled Cymru er mwyn:-
- Gweithredu’r cyngor a’r argymhellion diweddaraf gan SCOPS a COWS
- Mynd ati’n rheolaidd i fonitro baich y llyngyr drwy gyfrifiadau wyau mewn ysgarthion, gan ddefnyddio’r llwyfan FECPAKG2 a fydd yn cael ei ddefnyddio ar y fferm gan bob ffermwr ffocws.
- Profi ar gyfer ymwrthedd anthelmintig / effeithiolrwydd triniaethau anthelmintig a galluogi ffermwyr i reoli sefyllfaoedd lle mae mwy nag un math o ymwrthedd yn bresennol.
- Gwella perfformiad y stoc drwy reoli baich y parasitiaid a rheoli’r ymwrthedd iddyn nhw.
- Arafu datblygiad ymwrthedd i fathau eraill o driniaeth llyngyr – yn enwedig triniaethau newydd y bedwaredd a’r bumed genhedlaeth.