COVID-19 Bwyd a Diod Cymru
Levercliff Covid-19 Canfyddiadau'r Arolwg Defnyddwyr - Rhifyn 4
Wrth i sefyllfa'r coronafeirws newid ledled y DU mae'n ddiddorol gweld sut mae defnyddwyr yn teimlo a sut mae nhw'n meddwl bod eu bywydau yn newid.
Cliciwch yma i weld canfyddiadau'r arolwg. (Saesneg yn unig)
Busnesau twristiaeth, lletygarwch a manwerthu: cwestiynau cyffredin (Covid-19)
Noder bod y Cwestiynau Cyffredin ar Busnesau Twristiaeth, Lletygarwch a Manwerthu bellach wedi'u diweddaru gyda chanllawiau ychwanegol ar y cyfyngiadau teithio newydd, cwestiynau cyffredin pellach ar gyfyngiadau gwerthu alcohol, beth i'w wneud os bydd gwesteion yn datblygu symptomau Covid-19, ac adran newydd yn ymdrin a 'chwestiynau eraill' sy'n cael eu derbyn am farchnadoedd tymhorol a materion eraill.
Cefnogi adferiad busnesau a chadwyni cyflenwi ar ôl Covid-19
Mae Covid-19 yn effeithio’n aruthrol ar sector bwyd a diod Cymru ac mae’n bygwth parhad busnesau. Mae Llywodraeth Cymru a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru eisoes yn cymryd camau i gefnogi’r sector drwy’r effaith gychwynnol hyd at gamau cyntaf yr adferiad. Er mwyn cyflawni hyn mae gennym rai amcanion syml:
- Sicrhau bod cynifer â phosibl o fusnesau bwyd a diod yn goroesi’r anawsterau cychwynnol a achoswyd gan Covid-19 a chynnal rhwydweithiau’r cadwyni cyflenwi yn y sector ac mewn meysydd cysylltiedig.
- Lleihau’r colledion swyddi yn y sector.
- Cefnogi’r sector i ddod at ei hun cyn gynted â phosibl nes bod gwerthiant yn cynyddu unwaith eto.
- Targedu’r cymorth at atebion sy’n cyd-fynd â’r farchnad ac sy’n adlewyrchu’r newid yn y dirwedd fasnachu lle mae risg ychwanegol hefyd o darfu yn sgil Brexit.
- Aros ar y llwybr tuag at ein nodau strategol hirdymor.
Gweler y ddogfen yma: Cynllun adfer Covid