Ar ddydd Sul 27 Chwefror, cymerodd Cymru yr awenau ym Mhafiliwn y DU yn Dubai Expo 2020. Roedd partneriaeth Llywodraeth Cymru â'r Adran Masnach Ryngwladol (DIT) a Phafiliwn y DU yn arddangos Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang yn gwneud pethau da – gartref a ledled y byd.

Roedd dod â'r gorau o gawsiau Cymreig i'r Pafiliwn yn gyfle i ymwelwyr flasu amrywiaeth o gynnyrch gorau Cymru.  Gwelwyd perfformiadau cerddorol ysblennydd gan Bafiliwn Cymru yn Expo 2020.  Perfformiodd lleisiau sioe gerdd gorau Cymru, Welsh West End, dros ddau ddiwrnod y tu allan i Bafiliwn y DU.

Roedd y torfeydd wrth eu boddau wrth i Welsh of West End ddod â Chymru'n fyw drwy berfformio gymysgedd o ganeuon Cymraeg, ffefrynnau o sioeau cerdd ac anthem genedlaethol Cymru.

Gellid clywed Welsh of West End hefyd ar draws safle ehangach Expo, wrth iddyn nhw gynnal perfformiadau ar hap o’r anthem genedlaethol i gynulleidfaoedd lwcus.

Roedden ni’n falch iawn o groesawu aelodau o Dîm Rhaglenni ac Ymgysylltu Opera Cenedlaethol Cymru i Dubai i gyflwyno gweithdai allgymorth i blant ysgol yn yr Emiradau Arabaidd Unedig (EAU), yn ystod ein deuddydd wrth y llyw ym Mhafiliwn y DU yn Expo 2020 Dubai, i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Ymunodd grwpiau o blant ysgol Dubai â ni ym Mhafiliwn y DU i brofi gwaith y tîm – gwaith sydd wedi ennill gwobrau. Roedd y gweithdai wedi’u cynllunio i danio dychymyg plant a dangos i genedlaethau'r dyfodol fod opera yn gelfyddyd werth chweil a pherthnasol mae pawb yn gallu ei mwynhau.

Yn dilyn ein harddangosfa bwyd a diod a’r adloniant yn ystod y dydd, bu cinio barbeciw syfrdanol, a gynhaliwyd gan Weinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething AS, a gyflwynwyd i'n gwesteion gan Lysgennad EM i'r EAU, Patrick Moody.

Yna mwynhaodd gwesteion fwydlen ragorol wedi'i chreu a’i choginio gan y Cogydd Chris Roberts. Flamebaster a ‘Lambassador’ Cymru, mae Chris yn enwog am goginio yn yr awyr agored ar danau agored, arddangos cig a sicrhau bod bwyd yn ildio’r blasau gorau posibl. Wrth i'n gwesteion eistedd, roedd pawb yn rhyfeddu wrth i Chris goginio ei gynffonau cimychiaid barbeciw mewn menyn garlleg Cajun, ac wrth gwrs ein cig oen Cymreig suddlon enwog – wedi'i goginio a’i flasio mewn chwe ffordd wahanol!

 

Share this page

Print this page