Mae Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths yn bresennol heddiw (Dydd Mawrth 6 Tachwedd)  pan gaiff 153 o gynhyrchion o Gymru a gafodd gydnabyddiaeth ynghynt eleni yng ngwobrau mawreddog Great Taste eu harddangos mewn digwyddiad dathlu yng Ngwesty St David’s, Caerdydd.

 

Mae’r digwyddiad, a gynhelir dan arweiniad y darlledwr a Chadeirydd Gwobrau Great Taste, Nigel Barden, yn dilyn fformat Cwrdd â’r Cynhyrchwr Arddangos a Marchnata, ac mae’n cynnig llwyfan ar gyfer arddangos y cynhyrchion bwyd a diod gorau sydd ar gael o Gymru. Mae nifer o brynwyr masnach o’r sectorau manwerthu a lletygarwch ac Aelodau Cynulliad yn bresennol.

 

Roedd enillwyr Great Taste eleni o Gymru yn cynnwys cynhyrchwyr o gynhyrchwyr artisan annibynnol i ddosbarthwyr mwy, ac enillodd 110 o gynhyrchion o Gymru 1-seren, cafodd 31 2-seren a barnwyd fod 12 yn deilwng o dderbyn clod 3-seren. Y Great Taste, a drefnir gan y Guild of Fine Food, yw’r meincnod cydnabyddedig ar gyfer y bwyd a diod gorau, a’r disgrifiad ohonynt yw ‘Oscars’ y byd bwyd.

 

Mae dros 40 o gynhyrchwyr arobryn yn mynychu’r digwyddiad dathlu, gan gynnwys Caws Teifi Cheese, a gyrhaeddodd y brig yn ddiweddar trwy ennill clod eithaf y Fforc Aur o Gymru.

 

Caws Teifi Cheese yw’r cynhyrchwyr caws artisan hynaf yng Nghymru, a buont yn cynhyrchu cawsiau llaeth amrwd arobryn ers dros 30 mlynedd.

 

Un o’r cyd-sefydlwyr yn 1982 oedd John Savage-Onstwedder, a ddaeth i Gymru o’r Iseldiroedd i gyrchu ei freuddwyd i ffermio’n organig ac adfer y traddodiad coll o ddefnyddio llaeth amrwd a chynhwysion lleol i wneud caws gwlad o ansawdd uchel, a dywedodd:

 

“Mae derbyn 3 seren yng Ngwobrau Great Taste  yn dyst i sgil ac ymroddiad y tîm cyfan yma yn Caws Teifi Cheese. Mae hefyd yn adlewyrchu ansawdd y llaeth a gynhyrchir yma yng Ngheredigion ac mae’n rhaid inni roi clod i Mr & Mrs Williams o Fferm Cilcert, Ffos-y-Ffin, Aberaeron sy’n cynhyrchu’r llaeth sy’n gwneud ein caws. Mae’r ffaith fod y caws a enillodd y nifer fwyaf o wobrau yng ngwledydd Prydain yn cael ei gynhyrchu yma yng Ngheredigion yn profi fod llaeth a chawsiau o Gymru yn rhywbeth y gallwn oll fod yn falch ohonynt.”

 

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

 

“Mae’n wych gweld busnesau bwyd a diod o Gymru yn arddangos eu cynnyrch o ansawdd uchel yma heddiw.

 

“Dylid canmol pob un o’r enillwyr o Gymru yng Ngwobrau Great Taste 2018 am eu hymdrechion gwych. Hoffwn longyfarch hefyd y 15 cynnyrch o Gymru a enillodd statws Enw Bwyd Gwarchodedig Ewropeaidd. Dylai’r gydnabyddiaeth hon gadarnhau eu statws yn frandiau y gellir ymddiried ynddynt a meithrin hyder ymhlith defnyddwyr yn eu hansawdd a’u tarddiad.

 

“Yn y cyfnod heriol hwn wrth inni agosáu at Brexit, mae’n bwysicach nac erioed ein bod yn dathlu cynnyrch o Gymru ac yn cefnogi busnesau bwyd a diod ym mha ffordd bynnag y gallwn. Rydym wedi ymrwymo i raglenni cefnogol, megis ein Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod, fydd yn helpu rhoi hwb i’r diwydiant yn y dyddiau ansicr hyn.”

 

Ceir rhestr lawn o enillwyr eleni yn www.greattasteawards.co.uk

Share this page

Print this page