Mae Sloane Home – cwmni hamperi, rhoddion a gwirodydd moethus Cymreig - yn mynd o nerth i nerth, ac mae newydd sicrhau safle arbennig yn y siop ddi-doll ym Maes Awyr Caerdydd.

I sylfaenydd Sloane Home, Leanne Johns, hwn yw pinacl chwe blynedd o waith er mwyn sefydlu busnes moethus, a gychwynnodd fel 'hobi' yn ei chartref ym Mro Morgannwg.

Heddiw, mae ei dewis Sloane Home yn cynnwys tua 85 o gynhyrchion – gwirodydd ‘Lone Stag’ gyda blas ffrwythau, cyffeithiau a pheli siocled, yn ogystal ag eitemau cartref a bath moethus ac sy'n rhoi pleser megis canhwyllau, balmau a phersawrau.

Cynhyrchwyd yr holl gynhyrchion i gyd-fynd â'i gilydd, gan gynnig teimlad tra moethus.

Bellach, gellir gweld amrediad o gynhyrchion Sloane Home ym Maes Awyr Caerdydd, yn y siop ddi-doll a di-dreth a gaiff ei rhedeg gan y cwmni manwerthu i deithwyr byd-eang, Dufry.

Cyfarfu Sloane Home gyda Dufry fel rhan o ddigwyddiad BlasCymru/TasteWales a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2019, a hefyd fel rhan o sioe arddangos cynhyrchion a gynhaliodd Llywodraeth Cymru gyda Maes Awyr Caerdydd.

Mae Leanne wedi creu casgliad teithio unigryw o dros 20 o gynhyrchion Sloane Home ar gyfer Dufry, gan gynnwys peli siocled, balmau, canhwyllau a halen bath a deunydd ymolchi teithio ‘Lone Stag’.

Dywedodd, "Mae cael ein derbyn gan Dufry yn gyfle gwych, yn enwedig oherwydd y gall y bobl sy'n ymweld â Maes Awyr Caerdydd weld cynhyrchion a gynhyrchwyd ychydig filltiroedd i lawr y ffordd yn unig.”

Mae Leanne yn fam i ddau o fechgyn ifanc, a dechreuodd baratoi diodydd gyda blas ffrwythau er mwyn codi arian ar gyfer ysgol ei phlant.  Yn dilyn eu poblogrwydd, dechreuodd eu gwerthu mewn sioeau a digwyddiadau lleol – ac yn raddol, mae'r busnes wedi tyfu.

Dywedodd Leanne, "Dechreuais ddefnyddio ryseitiau teuluol.  Cyfunais ffrwythau fferm ffres gyda gwirodydd, gan ddefnyddio'r ffrwythau wedi'u mwydo a oedd dros ben i greu jamiau a chyfwydydd i gogyddion.  Yna, dechreuais gofrestru ar gyrsiau mewn crefftau traddodiadol fel cynhyrchu canhwyllau a chlustogwaith.

"Teimlaf ei bod yn bwysig cadw ein dulliau cynhyrchu traddodiadol, a chredaf fod y cwsmer yn gwerthfawrogi crefft cynhyrchion o waith llaw.  Ynghyd â mantra dim gwastraff, dyma'r fframwaith sy'n diffinio gwir foeth.”

Cynhaliodd y cwmni Far Synhwyraidd ‘Lone Stag' dros dro llwyddiannus yn lolfa ymadael Maes Awyr Caerdydd yn ystod yr haf y llynedd.

Mae'r logo trawiadol o'r hydd, a ddyluniwyd gan ffrind, yn cyfeirio at darddiad Celtaidd Sloane Home, a chredir ei fod yn 'arwydd o bethau da i ddod'.

Heb os, bu hynny'n broffwydol, gan fod Sloane Home wedi cael ei restru gan Walpole London yn ddiweddar.  Mae'r sefydliad yn hyrwyddo ac yn diogelu'r 250 brand moethus gorau yn y DU.  Mae ganddo aelodaeth o'r radd flaenaf sy'n cynnwys cwmnïau fel Harrods, Burberry a Rolls Royce.

Mae'r clod wedi llifo i mewn hefyd, ac roedd gwirodydd a chyffeithiau Leanne wedi denu sylw'r beirniaid yng Ngwobrau Great Taste.

Mae'r cwmni wedi sicrhau sawl gwobr Great Taste.  Mae'r rhain yn cynnwys ei Fodca blas Lemwn, Leim a Chlementin 2016 (1 seren), diod Jin Mafon (1 seren), Peli Siocled Jin Ceirios a Pheli Siocled Cnau Coco a Lemwn (1 seren) ac 1 seren am ei Goffi Columbaidd a Chyrens Duon Organig wedi'i rostio dros bren derw yn y Mynydd Du.  Rhoddwyd 2 seren i'w Gyfwyd Ceirios Coch a Phupur Du i Gogyddion.

Mae 'tîm' ymroddedig o famau lleol sy'n gweithio yn ystod oriau ysgol yn ei helpu i wireddu ei breuddwydion ar gyfer y busnes.

Maent yn gweithio mewn gweithdy wrth ymyl cartref Leanne yn Llandŵ, lle y caiff popeth ei greu, ei roi mewn poteli a'i bacio â llaw yn gariadlon – ac mae sicrhau dim gwastraff yn ffactor pwysig.

Dywedodd Leanne, "Mae gen i dîm anhygoel sy'n cynnig cymorth aruthrol i mi ac sy'n fy ysbrydoli i weld pa mor bell y gallwn fynd.  Mae'n ymdrech go iawn gan y tîm.  Rydym yn gweithio'n galed i gynnal y safonau uchaf, gan fwynhau'r uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau gyda'n gilydd.

"Rydym oll wedi ymrwymo i ddatblygu a thyfu'r busnes, ond rydym yn cael cymaint o hwyl yng nghwmni ein gilydd hefyd, ac rydym yn gwybod sut i gadw ein traed ar y ddaear.  Mae pawb yn cael y cyfle i ddweud eu dweud a bod yn rhan o'r gwaith o dyfu'r busnes, felly rydym yn teimlo fel un teulu mawr;  mae'n bleser cydweithio gyda nhw.”

Uchelgais Leanne yw parhau i dyfu'r brand a rhoi rhywbeth yn ôl i'r rhai sydd wedi ei chynorthwyo gyda'i menter.

"Rydw i'n dymuno creu brand rhoddion Cymreig moethus, a'r gobaith yw y bydd yn creu swyddi yn y gymuned leol ac yn adfywio nifer fawr o sgiliau traddodiadol.

Mae Cywain - rhaglen sydd wedi ymrwymo i ddatblygu microfusnesau a busnesau bach a chanolig newydd ac sy'n bodoli eisoes yn y sector bwyd a diod yng Nghymru, yn helpu Sloane Home, gan ganolbwyntio ar fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd a'r potensial i sicrhau twf.

Dywedodd Leanne, "Mae'n Rheolwr Datblygu o Cywain, Nia Môn, wedi bod yn wych.    Mae cael rhywun sy'n adnabod yr holl bobl iawn y mae angen i ni siarad gyda nhw o gymorth mawr.  Rydym wedi bod yn curo ar ddrysau, ond rydym yn gwybod nawr pa rai yw'r drysau cywir.”

Dywedodd Rheolwr Datblygu Cywain, Nia Môn, “Mae mor gyffrous gweld gwaith caled cwmni lleol yn dwyn ffrwyth, gan sicrhau cyfle i gael lle ym Maes Awyr Caerdydd, lle y cânt eu harddangos i deithwyr a darpar gwsmeriaid o bob cwr o'r byd.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, “Ceir cryn alw am gynnyrch Cymreig ac rydw i'n falch bod Sloane Home yn gwerthu eu cynhyrchion moethus o waith llaw ym Maes Awyr Caerdydd erbyn hyn.  Bydd y Maes Awyr yn cynnig ffordd i'r cwmni gyrraedd marchnadoedd rhyngwladol, gan ganiatáu i bobl o bob cwr o'r Byd fwynhau eu cynhyrchion moethus.”

 

Share this page

Print this page